Cystadleuaeth Gair Coll 2026
Mae cystadleuaeth Gair Coll Radio Cymru 2 yn agor ar y 21ain o Fai 2026 am 7.30am.

Y wobr yw pâr o docynnau ar gyfer gig lansio Tafwyl 2026, gig dathlu 10 mlynedd o Tafwyl, gyda Bwncath a’r Gerddorfa ar nos Sul Mehefin 7fed yng Nghaerdydd, yn cynnwys costau teithio a llety. Bydd y noson yn dechrau am 7.30pm
Cyflwynwyr yr orsaf, Lisa Gwilym a Rhydian Bowen Phillips fydd wrth y llyw yn arwain y gystadleuaeth.
I ymgeisio, bydd angen i wrandawyr ddilyn y linc ymagan ddyfalu'r gair coll o gân boblogaidd a fydd yn cael ei chwarae ar raglenni BBC Radio Cymru 2 ar ddydd Iau 21 o Fai rhwng 7.30am a’r amser cau sef 12.30pm ar Fai’r 21ain.
I ddarganfod mwy, gwrandewch ar BBC Radio Cymru 2 yn fyw ar y radio neu ar BBC Sounds. Mae modd hefyd dilyn y cyffro ar gyfrifon cymdeithasol yr orsaf.