Rhybuddion oren am wres eithafol i rannau helaeth o Gymru

Mae'r rhybudd cyntaf (chwith) mewn grym ddydd Llun a dydd Mawrth, a'r ail (dde) ddydd Mercher a dydd Iau
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd oren am wres eithafol i rannau helaeth o Gymru, wrth ragweld y gallai'r tymheredd gyrraedd dros 30C mewn sawl ardal yr wythnos hon.
Mae'r rhybudd cyntaf mewn grym ers 01:00 fore Llun tan 23:59 ddydd Mawrth, ac mae'r ardal dan sylw yn cynnwys 12 o siroedd yn y de a'r canolbarth.
Mae ail rybudd oren wedi'i gyhoeddi ar gyfer y mwyafrif helaeth o Gymru ar gyfer dydd Mercher a dydd Iau, wrth i'r cyfnod o dywydd poeth a llaith barhau.
Dywed y Swyddfa Dywydd y gallai rhai o'r ardaloedd poethaf weld y tymheredd yn cyrraedd 38C erbyn canol yr wythnos.

Bydd y rhybudd cyntaf mewn grym ar gyfer siroedd Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Caerdydd, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Mynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.
Bydd yr ail rybudd oren, sydd mewn grym rhwng 00:00 ddydd Mercher a 23:59 ddydd Iau, mewn grym ar gyfer pob sir yng Nghymru heblaw am Sir Benfro.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl i'r gwres a'r lleithder uchel barhau tan o leiaf ddiwedd dydd Iau.
Dywedodd y gallai'r tymheredd uchel gael effaith ar iechyd pobl, yn enwedig y rhai mwyaf bregus.
Fe allai hefyd achosi problemau i wasanaethau a seilwaith, gan gynnwys oedi ar ffyrdd a rheilffyrdd, mwy o bwysau ar wasanaethau hanfodol a chynnydd yn nifer y bobl sy'n ymweld ag ardaloedd arfordirol, afonydd a llynnoedd.
Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd nad yw'n sicr ar hyn o bryd beth fydd y sefyllfa ar ôl dydd Iau, ond bod posibilrwydd y bydd amodau oerach yn dechrau cyrraedd o'r gorllewin tua diwedd yr wythnos.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.