Cymeradwyo cynlluniau i ehangu safle Clwb Ifor Bach

Clwb Ifor BachFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau i ehangu safle Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd i gael pump llawr, teras ar y to a llawr tanddaear wedi cael eu cymeradwyo.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys dymchwel yr adeilad drws nesaf ar 9 Stryd Womanby er mwyn ehangu'r safle - sy'n adnabyddus am gynnal gigs a chefnogi'r sin gerddoriaeth Gymraeg.

Cafodd cynlluniau eu cyhoeddi gan Glwb Ifor Bach yn ôl yn 2019 a'r nod bellach yw cael lleoliad sydd â mwy o gapasiti - hoffen nhw gael lle i 500 o bobl ar y llawr gwaelod a 250 ar yr ail lawr.

Dywedodd Cyngor Caerdydd mai'r gobaith ydy "helpu strategaeth cerddoriaeth fyw, sefyllfa cerddoriaeth ar lawr gwlad, ac economi nos y brifddinas".

9 Womanby StreetFfynhonnell y llun, Google

Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys teras ar y to a chyfleusterau gwell, gan gynnwys mynediad gwell i gerddorion at lwyfannau a mwy o "hygyrchedd, diogelwch a chynaliadwyedd".

Ond yn ôl y dogfennau cynllunio dydyn nhw ddim am golli "ysbryd" y clwb felly maen nhw'n bwriadu defnyddio "deunyddiau diwydiannol".

"Fel cartref i gerddoriaeth wreiddiol a pherfformiadau byw gan eich hoff artistiaid a bandiau newydd sydd heb eu darganfod eto, rydym yn ceisio datblygu talent a sgiliau o fewn y diwydiant ochr yn ochr â thyfu cynulleidfaoedd," meddai'r cyngor.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol