Rhun ap Iorwerth yn galw ar Andy Burnham i rymuso'r Senedd

"Rhaid grymuso ein Senedd, nid ei hosgoi" meddai Rhun ap Iorwerth
- Cyhoeddwyd
Mae Rhun ap Iorwerth wedi galw ar Andy Burnham i rymuso a pheidio ag "osgoi" Senedd Cymru, cyn ei gyfarfod cyntaf â gweinidog o Lywodraeth y DU.
Dywedodd ap Iorwerth y byddai'n galw am barchu sefydliadau'r wlad yng nghyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Guernsey ddydd Gwener.
Dywedodd y prif weinidog na ddylai'r "don" addawedig o ddatganoli ddod i ben yng "Nghlawdd Offa".
Yn y cyfamser, mae Burnham wedi ysgrifennu darn barn newydd yn addo peidio â dweud wrth Gymru sut i redeg ei gwasanaethau.
Cafodd ei feirniadu ar ôl i erthygl gynharach awgrymu y byddai'n ymyrryd mewn llu o feysydd a reolir gan Lywodraeth Cymru.
Ddoe fe gymerodd Burnham gam yn agosach tuag at ddod yn arweinydd nesaf y Blaid Lafur ac yn Brif Weinidog y DU, ar ôl i'r mwyafrif llethol o Aelodau Seneddol Llafur ei enwebu i olynu Syr Keir Starmer.

Gallai Andy Burnham fod yn brif weinidog erbyn 17 Gorffennaf
Mae 322 o Aelodau Seneddol Llafur wedi cefnogi ymgais Burnham i arwain - sy'n golygu ei fod un yn brin o'r 323 sydd eu hangen cyn i'r sefyllfa gyrraedd pwynt ble mae'n amhosibl yn fathemategol i ymgeisydd arall gystadlu yn ei erbyn.
Bydd gweinidogion o Iwerddon, San Steffan, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn ymgynnull yn Guernsey ddydd Gwener ar gyfer y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.
Dyma'r tro cyntaf i ap Iorwerth gyfarfod â gweinidog o Lywodraeth y DU. Ni chynhaliwyd cyfarfod arfaethedig gyda Syr Keir Starmer ym mis Mehefin.
Ni ddisgwylir i Syr Keir fynychu'r cyngor.
Mae Burnham wedi addo datganoli mwy o bŵer o San Steffan i'r cenhedloedd a'r rhanbarthau.
Mewn erthygl ar wefan newyddion Nation.Cymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod y DU yn ei ffurf bresennol "yn dŷ wedi'i adeiladu ar dywod".
Dywedodd y dylai cyllid gwell i Gymru, pwerau dros blismona, cyfiawnder, Ystâd y Goron a rheilffyrdd "gynrychioli cam nesaf naturiol i unrhyw brif weinidog sydd eisiau dangos eu hymrwymiad i'r cenhedloedd a'r rhanbarthau".
"Fy marn ddiffuant yw bod cael datganolwr pybyr yn Rhif 10 yn cynnig gobaith ar gyfer ailgynllunio'r DU, ond mae'n rhaid i hyn olygu nid yn unig gyrru pŵer allan o Lundain i ranbarthau Lloegr, ond i'r seneddau cenedlaethol hefyd."
Ychwanegodd fod "rhaid grymuso ein Senedd, nid ei hosgoi".
Dywedodd ap Iorwerth y byddai'n "cyflwyno'r neges hon i gymheiriaid ym mhob gwlad" yn yr uwchgynhadledd - y gyntaf iddo fynychu.
'Cyfle am ddechrau newydd' rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
'Hyd at £30m' yn llai i Gymru oherwydd cynlluniau amddiffyn y DU
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
Dim cyfarfod rhwng y prif weinidogion y mis hwn wedi'r cyfan
- Cyhoeddwyd18 Mehefin
Cafodd Burnham ei feirniadu'n gynharach yr wythnos hon ar ôl i wefan WalesOnline ddatgelu eu bod wedi derbyn erthygl gan ei dîm a oedd mewn rhannau'n union yr un fath â thraethodau tebyg a ysgrifennwyd ar gyfer gwefannau yn yr Alban a Llundain heblaw bod enwau lleoedd wedi eu newid.
Roedd yn nodi'r weledigaeth oedd gan yr AS Llafur mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys rhai sydd wedi'u datganoli fel tai ac addysg.
Ddydd Gwener, cyhoeddodd WalesOnline erthygl newydd gan AS Makerfield, a addawodd weithio "yn adeiladol gyda gweinyddiaeth leiafrifol Plaid Cymru".
Dywedodd: "Nid oherwydd y byddwn ni bob amser yn cytuno, ni fyddwn ni, ond oherwydd dyna beth mae parchu datganoli yn ei olygu."
Addawodd Burnham ymweld â'r Senedd, a dywedodd: "Mae angen i San Steffan ddysgu iaith partneriaeth hefyd. Mae'n dal i siarad fel pe bai'n rhedeg popeth. Nid yw."
Ailadroddodd Burnham ei fod am weld datganoli yn cael ei ymestyn "yn ddyfnach i lawr" yng Nghymru i gynghorau.
Ond dywedodd na ddylai Llywodraeth y DU "ddweud wrth Gymru sut i redeg gwasanaethau datganoledig".
"Mae fy addewid i Gymru yn syml, byddaf yn parchu'r setliad datganoli.
"Byddaf yn cefnogi ei ddatblygiad parhaus lle mae'n cryfhau Cymru a'r Deyrnas Unedig ehangach, a byddaf yn cefnogi cyfleoedd i ymestyn datganoli o fewn Cymru."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts: "Mae'n galonogol clywed Andy Burnham yn cydnabod bod gan Gymru ei mandad, senedd a llywodraeth ei hun, ac yn addo parchu datganoli Cymru yn dilyn ei gamgymeriad cynharach."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.