Y Byd: Byddai Cymru wedi elwa o bapur dyddiol, ond 'chwalodd y freuddwyd'

Ned ThomasFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ned Thomas - yr awdur, golygydd a'r cyn-newyddiadurwr - newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 90

GanSara Down-Roberts
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Byddai Cymru "heb os, wedi elwa" petai cynlluniau i sefydlu papur newydd dyddiol Y Byd wedi cael eu gwireddu, yn ôl un oedd ynghlwm â'r fenter.

Mewn sgwrs arbennig â Cymru Fyw wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed, dywedodd Ned Thomas y byddai Y Byd wedi sicrhau bod "newyddiadurwyr yn scrwtineiddio sefydliadau", gan fod "diffyg yn hynny o beth yn fy marn i".

Roedd y papur yn dibynnu ar gyllid gan y llywodraeth ar y pryd, a phan na ddaeth y swm oedd ei angen, doedd dim dewis ond dirwyn y cynllun i ben.

Mae'r gweinidog o'r cyfnod wedi dweud wrth Cymru Fyw bod y fenter "ddim yn mynd i weithio", ond i Mr Thomas mae'r "siom yn dal yn fyw yn y cof".

Y BydFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dirprwyaeth o lenorion o Wlad y Basg gydag Elin Haf Gruffydd Jones a Ned Thomas ar stondin Y Byd yn yr Eisteddfod.

Y dyn sy'n dal Y Byd yw Bernardo Atxaga - nofelydd enwog

"Gyda dyfodiad datganoli roedd Cymru angen yr hyn y mae papur dyddiol yn ei gynnig", meddai Mr Thomas a oedd yn arfer bod yn newyddiadurwr ar bapur newydd The Times a phapurau eraill.

"Roedd y Cynulliad angen hynny a llywodraeth y Cynulliad, pa bynnag lywodraeth oedd mewn grym."

Yn awdur hefyd a chyn-gyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru a sefydlydd Canolfan Mercator sy'n arbenigo ar ieithoedd lleiafrifol, dywedodd mai "ysgogiad rhesymol arall i sefydlu papur dyddiol oedd gweld bod gan wledydd fel Gwlad y Basg bapur llwyddiannus".

Yn 2008 daeth y freuddwyd i ben wedi i Rhodri Glyn Thomas - y gweinidog treftadaeth ar y pryd yn llywodraeth glymblaid Llafur-Plaid Cymru - gyhoeddi mai £200,000 ychwanegol oedd ar gael i'r wasg Gymraeg ac y byddai'n rhaid i gwmnïau gystadlu am yr arian.

Roedd rhai yn disgwyl y byddai £600,000 ar gael.

Roedd cael cefnogaeth Jan Morris a John Roberts Williams mewn cyfarfod o Gyfeillion a Chyfranddalwyr Y Byd ym Mhortmeirion yn 2004 yn 'foment allweddol' i Ned ThomasFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cael cefnogaeth Jan Morris a John Roberts Williams mewn cyfarfod o Gyfeillion a Chyfranddalwyr Y Byd ym Mhortmeirion yn 2004 yn 'foment allweddol' i Ned Thomas

Dywedodd Ned Thomas: "Mae'r siom yn dal yn fyw yn y cof wedi i ni sefydlu y tîm cychwynnol - pobl oedd â phrofiad helaeth.

"Roedden ni hefyd wedi cael wyth mlynedd go galed yn casglu nawdd, arian a chyfranddalwyr - ac roedd nifer o garedigion wedi rhoi gwaith celf ac ati mewn ocsiynau.

"Roedd gennym gefnogaeth pob plaid. Roedd hynny mor bwysig, wrth gwrs, a'r hyn sy'n gwbl eironig mai llywodraeth ddatganoledig - a gweinidog o Blaid Cymru yn benodol - a chwalodd y freuddwyd.

"Rwy'n hollol grediniol os mai Llafur yn unig a fyddai mewn grym y byddai Cymru wedi cael papur dyddiol. Llafur oedd yr olaf i ddatgan eu cefnogaeth ond fe ddaeth Mark Drakeford a oedd yn gweithio i Rhodri Morgan ar y pryd i'm gweld a dweud bod Llafur o blaid papur dyddiol Cymraeg.

"Fel rwy' wedi dweud o'r blaen rwy'n meddwl bod materion fel rhoi arian i'r Gerddi Botaneg yn etholaeth y gweinidog treftadaeth wedi bod yn bwysicach iddo ar ddiwedd y dydd. Pwy a ŵyr?"

Doedd Plaid Cymru ddim am wneud sylw ar y mater.

Gwadu 'chwalu'r freuddwyd'

Wrth ymateb yr wythnos hon dywedodd Rhodri Glyn Thomas nad oedd yr honiadau uchod yn wir o gwbl.

"Byddai arian y Gerddi Botaneg wedi dod o gyllideb arall - doedd e ddim i wneud â fi a byddai wedi cael ei gymeradwyo gan y gweinidog busnes a Ieuan Wyn Jones.

"Y gwir amdani yw doedd Y Byd ddim yn mynd i weithio. Mi na'th dau o'r prif fuddsoddwyr ddweud wrthai nad oedd yn gynaliadwy ac er bod arolwg, o dan gadeiryddiaeth Tony Bianchi, yn dangos bod cefnogaeth i bapur dyddiol doedd dim digon o brawf y byddai'r papur yn llwyddo.

"Petawn i wedi rhoi arian i Y Byd y gwir yw y byddai'r papur wedi dod i ben - ac o ganlyniad byddai cylchgronau Barn a Golwg hefyd wedi dod i ben gan na fydden nhw wedi cael cyllid digonol.

"Doedd yna ddim addewid o gwbl."

Rhodri Glyn ThomasFfynhonnell y llun, LLun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Byddai dyfodol Golwg a Barn wedi bod yn y fantol, medd Rhodri Glyn Thomas petai'r llywodraeth wedi ariannu Y Byd

Erbyn heddiw mae Ned Thomas yn credu mai papur ar y we fyddai Y Byd wrth i bapurau newydd grebachu yn sgil diffyg nawdd a hysbysebion.

"Fe fyddai Y Byd wedi bod yn bapur a fyddai'n cynnwys newyddiaduraeth wreiddiol - nid cyfieithiadau slafaidd o'r Saesneg.

"Byddwn wedi sicrhau bod newyddiadurwyr yn cael amser i ddwyn ein prif sefydliadau i gyfrif - mae'r gwaith caib a rhaw 'na mor bwysig i ddemocratiaeth."

Wedi ei fagu yn Yr Almaen, Lloegr a'r Swistir bu Ned Thomas yn newyddiadurwr amlwg yn Sbaen, Moscow a Llundain a dywed bod cael y cyfle i ysgrifennu yn Saesneg am Gymru wedi bod yn hynod o bwysig.

ExtremistFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Yn 1969 y symudodd y teulu i Gymru - i Lwynpiod ger Tregaron - ac wedi cryn dipyn o grwydro dywed ei fod wedi teimlo yr adeg honno mai i Gymru yr oedd yn perthyn go iawn a hynny wedi iddo glywed y plant yn siarad Cymraeg tra'n chwarae yn y caeau.

Dyma gyfnod sefydlu Planet ac ysgrifennu The Welsh Extremist - a Culture in Crisis gan wasg Gollancz (ac yna'r Lolfa) - cyfrol a gafodd ei hadolygu'n eang ym mhrif bapurau Llundain.

"Roeddwn yn hynod ffodus o fy nghysylltiadau yn y wasg Lundeinig.

"Roedd yna adolygiad ffafriol iawn gan Caradog Prichard yn y Daily Telegraph. Mi na'th Goronwy Rees gyhoeddi fy mhennod am Gwenallt yn Encounter a'r un mwyaf dylanwadol oedd adolygiad Raymond Williams yn y Guardian o dan y pennawd 'Who Speaks for Wales?'

"Derbyniais ddegau o lythyrau - nifer yn emosiynol iawn. Rhai yn cofio eu plentyndod yng Nghymru ac eraill yn cyfiawnhau rhieni nad oedd wedi pasio'r Gymraeg iddyn nhw.

"O ran Planet roedd y cylchgrawn yn fodd i roi llais i bobl Cymru yn Saesneg - llais na fyddai wedi cael ei glywed fel arall."

Gwynfor EvansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi mor bwysig i roi sylw i ymgyrch Gwynfor Evans (a welir yma gyda'i wraig, Rhiannon, yn 1980) i gael sianel i Gymru yn y wasg Saesneg, medd Ned Thomas

Ddiwedd 1979 fel rhan o'r frwydr i gael sianel deledu Gymraeg roedd Ned Thomas yn un o'r tri a ddiffoddodd trosglwyddydd teledu Pencarreg - Pennar Davies a Meredydd Evans oedd y ddau arall.

Dywed fod ei gysylltiadau newyddiadurol blaenllaw wedi bod o gymorth mawr iddo, unwaith eto, i ledaenu achos y rhai oedd yn frwd o blaid y sianel.

"Fues i'n ffodus o allu ysgrifennu tipyn yng nghylchgronau y New Society a'r Listener. Roeddwn i a Harri Prtichard Jones wedi trefnu i roi sylw hefyd i ymgyrch Gwynfor hefyd yn y wasg rhyngwladol ond rwy'n meddwl mai fy mhrif gamp oedd cael Geoffrey Smith o'r Times i ysgrifennu erthygl gefnogol."

Wrth i Ned Thomas edrych yn ôl ar ei yrfa lawn a lliwgar mae yna lawer mwy i'w ddweud am yr hyn y mae wedi'i gyflawni - yn eu plith Geiriadur yr Academi yn ystod ei gyfnod fel Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru, addysgu myfyrwyr am lenyddiaeth Eingl-Gymraeg tra'n darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth a hybu llenyddiaeth Gymraeg dramor drwy raglenni fel Llenyddiaeth ar draws Ffiniau.

Yr hyn sy'n gwbl bwysig gydol ein sgwrs yw'r ysfa i ganfod y gwir a dyletswydd newyddiadurwyr i wneud hynny.

"Yr hyn dwi'n 'neud bob bore'r dyddiau yma," meddai, "yw darllen papurau lleol Rwsia ac Wcráin. Yn fanno cewch chi'r gwir am yr hyn sy'n digwydd heb bropaganda.

"Mae newyddiaduraeth dreiddgar a hybu Cymru y tu hwnt i ffiniau'r wlad yn gwbl hanfodol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.