Dedfrydu cyfarwyddwr cwmni ar ôl marwolaeth saer 18 oed o Fôn

David Horrocks yn cyrraedd llys ynadon Wrecsam fore Iau
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr cwmni rheoli eiddo wedi cael dedfryd o garchar am 26 wythnos wedi ei ohirio am ddwy flynedd ar ôl i brentis saer coed 18 oed farw pan syrthiodd fwrdd plastr arni.
Roedd Chloe Bidwell o Fae Trearddur, Ynys Môn yn gweithio ar ei phen ei hun mewn tŷ a oedd yn cael ei adnewyddu ym Mangor ar 20 Rhagfyr 2023.
Clywodd cwest iddi farw o anafiadau i'w gwddf ar ôl i fwrdd plastr oedd wedi'i bentyrru mewn eiddo syrthio ar ei phen.
Mi wnaeth David Horrocks o Felinheli, Gwynedd a'r cwmni Varcity Living gyfaddef torri deddfwriaeth iechyd a diogelwch.

Roedd Chloe Bidwell yn 18 oed pan fu farw yn 2023
Clywodd llys ynadon Wrecsam ddydd Iau fod rheolaeth safle'r cwmni yn "anhrefnus" a'r ymdrechion i leihau risg yn "wael".
Roedd Chloe Bidwell wedi bod yn gweithio fel prentis saer coed i'r cwmni ers 2020.
Cafodd ei disgrifio fel gweithiwr "cymwys" a "chydwybodol".
Roedd hi ar ei phen ei hun yng Nghoed Celyn ym Mangor, eiddo a oedd yn cael ei drawsnewid i fod yn llety myfyrwyr.
Roedd cydweithiwr wedi bod gyda hi yn gweithio yn yr eiddo, ond roedd wedi cael caniatâd i adael i fynychu cynhebrwng gan ei gadael hi ei hun.
Cafodd pryderon amdani eu codi, ar y diwrnod y bu farw, gan dad Chloe - Alistair Bidwell.
Fe wnaeth Mr Bidwell gysylltu â'i chydweithwyr pan nad oedd yn gallu cael gafael arni.
Fe wnaeth cydweithiwr iddi ddychwelyd i'r eiddo, ac fe ddaeth o hyd i gorff Chloe.
Merch oedd yn 'llawn bywyd'
Fe wnaeth mam Chloe, Clare Stephenson-Brown, ddatganiad emosiynol yn y llys ddydd Iau.
Dywedodd fod ei merch yn "llawn bywyd, egni ac yn benderfynol" a'i bod hi "ar fin mynd i deithio'r byd a dechrau hyfforddi i fod yn ddiffoddwr tân".
Roedd Chloe yn "chwaraewr rygbi a syrffiwr".
"Mae'r ffaith ei bod hi ar ei phen ei hun yn yr eiliadau olaf hynny yn rhywbeth sy'n achosi poen annioddefol i ni," meddai Mrs Stephenson-Brown.
Ers marwolaeth Chloe, dywedodd "rydym yn byw bob dydd gyda'r trawma o golli Chloe mor sydyn a mor ifanc".
Mae ei theulu "yn ei charu ac yn ei cholli hi y tu hwnt i'r hyn all eiriau ei ddisgrifio".
Clywodd y llys fod Varcity Living eisoes wedi cael rhybudd ar ôl bod yn destun camau gorfodi am dorri rheolau iechyd a diogelwch yn 2018.
Dywedwyd wrth y cwmni bryd hynny nad oedd ganddyn nhw "fesurau cynllunio na diogelu effeithiol - sy'n angenrheidiol i reoli'r risgiau i iechyd a diogelwch nac asesiadau risg addas chwaith".
Dywedodd y barnwr Gwyn Jones nad oedd staff y cwmni wedi cael gwybod hyd yn oed am asesiad risg y cwmni.
Cafodd y barnwr wybod fod yna "fethiant systemig" o ran asesiadau risg y cwmni gan gynnwys asesiad risg i weithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain.
Cwmni'n cyfaddef methiannau wedi marwolaeth saer 18 oed o Fôn
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2025
Saer, 18, wedi marw ar ôl i fwrdd plastr syrthio arni
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2024
Dynes, 18, fu farw mewn tŷ ym Mangor yn saer 'dawnus'
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2023
Yn ôl yr erlyniad, nid oedd gan y cwmni "reolwr safle" penodol gyda "sgiliau, gwybodaeth na phrofiad digonol i weithredu yn y swydd honno".
Dywedodd yr erlyniad fod David Horrocks yn gwybod y dylai o leiaf ddau berson fod ar y safle ar unrhyw adeg.
Clywodd y llys fod Mr Horrocks, tad i dri o blant, wedi adnabod Chloe "ers pan oedd hi'n fach" ac roedd yn "drist iawn, iawn" yn dilyn ei marwolaeth.
Ychwanegodd y barnwr fod yr achos yma yn hynod o drist, ond bod y cyfrifoldeb ar Mr Horrocks.
"Ei gyfrifoldeb o ydi sicrhau fod popeth ac unrhyw brosiect a systemau yn addas. Mae o wedi cyfaddef fod o wedi methu gyda'r dasg honno," meddai.
Cafodd Varcity Living ddirwy o £50,000 a gorchymyn i dalu costau o £10,000.
Fe gafodd David Horrocks ddedfryd o garchar am 26 wythnos wedi ei ohirio am ddwy flynedd a gorchymyn i dalu costau o £7,886.
Ychwanegodd y barnwr nad oedd penderfyniad heddiw am wneud fyny am y golled mae teulu Chloe wedi bod drwyddo.
"Yr unig beth mae heddiw yn ei wneud ydi dod ag un pennod i ben - hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi delio â hyn mewn ffordd deg".
Wrth siarad ar ôl y gwrandawiad, dywedodd arolygydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), Rachael Newman fod marwolaeth Bidwell yn rhywbeth oedd modd ei osgoi'n llwyr.
"Roedd gan ei theulu bob hawl i ddisgwyl, pan fyddai Chloe yn mynd i'r gwaith, y byddai hi'n dod adref.
"Ni ddylai prentisiaid fod yn gweithio ar eu pen eu hunain ar safle adeiladu, a bu farw Chloe mewn amgylchiadau na ddylent fod wedi gallu digwydd byth."
Ychwanegodd: "Nid oedd gan gyflogwr Chloe, Varcity Living Limited, system storio ddiogel ar waith ar gyfer y byrddau peryglus o drwm a oedd wedi'u pentyrru'n unionsyth ac yn gwbl heb eu diogelu.
"Ar ben hynny, roeddent wedi methu â darparu'r wybodaeth, y cyfarwyddyd, yr hyfforddiant a'r oruchwyliaeth angenrheidiol i'w prentis ifanc."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.