Gŵyl sy'n croesawu Eisteddfod yr Urdd i Gasnewydd yn 'gyfle i ddathlu'r achos'

Gorymdaith
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Eisteddfod yr Urdd Bro'r Wenynen yn cael ei chynnal o 29 Mai hyd at 4 Mehefin, 2027

  • Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o bobl wedi bod yn rhan o ŵyl arbennig yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn a hynny er mwyn croesawu Eisteddfod yr Urdd i ardal Gwent yn 2027.

Dyma fydd y tro cyntaf erioed i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Chasnewydd ac mi fydd yn cael ei chynnal yn Nhŷ Tredegar.

Yn ystod yr Ŵyl Groeso ddydd Sadwrn, roedd gorymdaith yn dechrau o Sgwâr John Frost ac yna'n gorffen ger Theatr Glanyrafon.

Yn hwyrach bydd adloniant a gweithgareddau, gan gynnwys perfformiadau gan yr artistiaid Mei Gwynedd a Martyn Geraint.

Dywedodd Elin Maher, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, wrth Cymru Fyw bod y trefnwyr yn gobeithio cael gŵyl sy'n "llawn hwyl, asbri a mwynhad".

Lucy Sullivan a'i merch Aela

Dywedodd Lucy Sullivan a'i merch Aela sy'n mynd i Ysgol Gymraeg Cwmbrân ei fod yn "hyfryd i gael y cyfle i fod yma lawr yng Nghasnewydd sy' jyst lan yr hewl o ni".

"Ni'n edrych ymlaen at beth sydd i ddod yn y misoedd nesa' cyn yr eisteddfod," meddai a gweld beth fydd y dylanwad ar y Gymraeg yn lleol yn enwedig.

"Mae'r iaith yn tyfu [yn yr ardal], mae'r ysgol yn llawn a'r niferoedd yn codi bob blwyddyn, nid canran uchel ond mae'r ganran yn cynyddu."

Dywedodd Sarah Jones a fynychodd y digwyddiad gyda'i merch Teleri fod "pawb yma isie dathlu'r Gymraeg - ac mae'n gyfle i deuluoedd sydd efallai'n ddi-gymraeg i ymuno yn y dathliadau hefyd".

Ychwanegodd bod yr ŵyl wedi "dangos beth allwn ni ddisgwyl...a gobeithio bydd yn denu mwy o bobl i'r digwyddiad [yr eisteddfod] y blwyddyn nesaf".

Elin Maher a Mr UrddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r ymateb wedi bod yn arbennig," medd Elin Maher ac mae disgwyl i ganol Casnewydd fod yn "llawn dop" ar gyfer yr Ŵyl Groesawu

"Ry'n ni'n gobeithio dangos i bawb yn y ddinas, i Went ac i weddill Cymru ein bod yn barod i groesawu pawb flwyddyn nesa," esboniodd Elin.

"Dyma'r tro cynta' iddi ddod i ganol Casnewydd ar ei newydd wedd.

"Ry'n ni'n cerdded ar hyd ffordd hanesyddol - cerdded a phasio canol y ddinas lle o'dd y siartwyr yn cerdded yn mynnu hawliau i'r bobl gyffredin."

Dywedodd fod yr orymdaith yn gwneud yr ŵyl yn unigryw oherwydd yr hanes sy'n perthyn i'r lleoliadau ar y ffordd.

"Mi fydden ni'n pasio pob math o gerfluniau a'r mosaig!"

Cafodd mosaig ei greu yng Nghasnewydd yn 1978 gan yr artist Kenneth Budd mewn twnnel cerdded er mwyn nodi gwrthryfel y Siartwyr yn 1839.

Cafodd y murlun gwreiddiol hwnnw ei ddymchwel yn 2013.

Yn 2019 cafodd copi o'r gwreiddiol ei godi gan ei fab, Oliver, union 180 mlynedd ers y gwrthryfel.

"Ma' nhw ar hyd a lled Casnewydd nawr," meddai Elin.

Tŷ TredegarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd y tro cyntaf erioed i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Chasnewydd ac mi fydd yn cael ei chynnal ar dir Tŷ Tredegar

"Yna mi fydden ni'n pasio o dan ffordd y castell ac wrth yr afon a gorffen wrth y don.

"Mae'r ymateb wedi bod yn arbennig, ma' dros 40 o ysgolion yn dod - bydd canol Casnewydd yn llawn dop a byddwn ni'n chwifio ein baneri!"

Ychwanegodd Elin fod Mistar Urdd am ddechrau 'Park Run' yr ardal fore Sadwrn hefyd.

"Ma'r ymateb wirioneddol wedi bod yn arbennig - partneriaid cymunedol, cylchoedd meithrin, jambori Martyn Geraint a Mei Gwynedd hefyd, stondinau, mentrau iaith...

"Ma' codi arian yn mynd yn dda ac mae yno griwiau arbennig yn y pum sir yn codi ymwybyddiaeth ac arian.

"Ry'n ni'n falch o bob ceiniog sy'n cael ei roi i hyrwyddo'r ŵyl," ychwanegodd Elin.

'Digon o amser gyda ni'

Mae'r ymateb i'r ŵyl groeso wedi bod yn "wych" yn ôl trefnydd yr ŵyl, Siân Edwards.

"Mae'r trefniadau di bod yn mynd yn grêt," meddai wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Sadwrn.

Esboniodd fod y "pwyllgor lleol wedi bod yn gweithio'n galed iawn i godi ymwybyddiaeth am yr eisteddfod ac am yr ŵyl groeso hefyd".

"Mae dros 55 o ysgolion wedi cofrestru i fod yn rhan o'r parêd heddi," ychwanegodd.

"Wrth gwrs mae 'na waith eto i godi ymwybyddiaeth yn lleol ond na mae 'na gwpl o fisoedd gyda ni tan yr eisteddfod so mae digon o amser gyda ni i godi mwy o arian a hyrwyddo'r eisteddfod."

Mae rhanbarth Gwent yn cynnwys Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd a Sir Fynwy ac mae'r ardaloedd oll yn cydweithio.

Bydd Prifwyl yr Urdd yn cael ei chynnal o 29 Mai hyd at 4 Mehefin, 2027.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.