Chwareli llechi hanesyddol a safle atyniad Zip World ar werth

Golygfa o chwareli llechi a Zip World Blaenau FfestiniogFfynhonnell y llun, Christie & Co
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle yn cael ei ddisgrifio fel un sydd â "250 o siambrau hanesyddol a 25 milltir o dwneli tanddaearol"

GanNia Tudur
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae un o ystadau treftadaeth amlycaf gogledd Cymru ynghanol Parc Cenedlaethol Eryri ar werth.

Mae'r chwareli llechi byd-enwog ym Mlaenau Ffestiniog yn deillio'n ôl i 1836, ac yn rhan o safle treftadaeth UNESCO.

Mae'r ystad 1,900 acer hefyd yn cynnwys atyniad Zip World, gwesty a dau waith trydan hydro.

Mae'n cael ei ddisgrifio fel safle sydd â "250 o siambrau hanesyddol a 25 milltir o dwneli tanddaearol, gan greu un o'r asedau treftadaeth a thwristiaeth mwyaf arbennig yn y DU".

Gwesty Plas WeunyddFfynhonnell y llun, Christie & Co
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl busnes ar y safle, gan gynnwys gwesty gyda 24 o ystafelloedd gwely

Mae'r safle'n rhan o ardal llechi Gwynedd gafodd ei rhoi ar restr Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO yn 2021.

Mae'r chwareli yno yn parhau â thraddodiad o brosesu llechi ers bron i 200 mlynedd.

Mae yna nifer o fusnesau eraill hefyd yn gweithredu ar y safle - yn cynnwys Gwesty Plas Weunydd ac Antur Stiniog - un o'r canolfannau beicio mynydd amlycaf yn Ewrop.

Fe agorodd atyniad Zip World yno yn 2014, sy'n un o bedwar atyniad gan y cwmni hwnnw, gyda'r tri arall yn Chwarel y Penrhyn, Betws-y-Coed a Hirwaun yn Rhondda Cynon Taf.

Yn ôl y cwmni sy'n marchnata'r safle - Christie & Co mae'r safle, gyda'r cyfuniad o fusnesau yn cynnig "proffil incwm amrywiol".

Dywedodd Tom Glanvill o gwmni Christie & Co bod y safle yn cynnig "cyfuniad unigryw o hanes diwydiannol, ehangder o aceri, ffynonellau refeniw cryf, incwm o ynni adnewyddadwy a gwesty yn un o barciau cenedlaethol harddaf y DU".

Ychwanegodd Alastair Altham, cadeirydd y cwmni presennol sy'n rhedeg y safle ac sy'n ddisgynnydd i'r sylfaenydd eu bod yn "falch iawn o'r busnes rydym wedi ei ail-adeiladu dros y deng mlynedd diwethaf".

"Mae'n amser i'r busnes ehangu a datblygu i'r cam nesaf yn ei hanes hir a neilltuol - ac er mwyn ehangu mae angen cyfalaf a chyfranddalwyr newydd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig