Murlun gwleidyddol ar fynydd yn 'amharchus' wedi tanau

Cafodd y murlun yma ei baentio ar fynydd ger Capel Ulo
- Cyhoeddwyd
Mae pobl mewn cymuned yn sir Conwy wedi cael sioc o weld murlun gwleidyddol ar dir a gafodd ei daro'n ddifrifol gan danau yn ddiweddar.
Mae'r weithred wedi cael ei disgrifio fel "fandaliaeth amgylcheddol" gyda rhai'n lleol "mor grac do'n i methu aros" cyn mynd ati i geisio cael gwared â'r murlun.
Fe wnaeth mudiad Greenpeace greu'r "celf tir" 1,120 metr sgwâr yn ardal Capel Ulo er mwyn gwrthwynebu'r weithred o ddrilio am olew a nwy.
Mae'r murlun yn cynnwys llun o Brif Weinidog y DU, Andy Burnham, yn dal baril o olew gyda'r geiriau, 'Our house is on fire Andy'.
Dywedodd Greenpeace eu bod wedi defnyddio "paent ecogyfeillgar, heb blastig" a'u bod wedi dewis ardal lle'r oedd tân wedi bod gan na fyddai'n cael effaith ar dyfiant organig oherwydd y llosg.
Mae rhai pobl leol yn teimlo bod y neges yn "amharchus" o ystyried y tanau dros y misoedd diwethaf.
Cafodd 200 erw o dir ei effeithio yn y tân yng Nghapel Ulo, a bu'n rhaid i drigolion 36 o gartrefi adael oherwydd y mwg.

Penderfynodd Allie Evans a Dean Ward bod rhaid gwneud rhywbeth am y murlun yn syth
Pan welodd Allie Evans, sy'n byw'n lleol, luniau o'r murlun, roedd hi'n credu eu bod nhw'n lluniau ffug a gafodd eu creu gan AI - felly penderfynodd gerdded i fyny'r mynydd i weld dros ei hun.
"Dydw i ddim yn cofio teimlo mor flin a siomedig ar yr un pryd," meddai.
"Mae'n dangos gymaint o ddiffyg parch tuag at y dirwedd.
"Mae hefyd yn ymyrryd ar alar y gymuned leol," ychwanegodd cyn esbonio bod nifer o'r gymuned yn teimlo eu bod yn galaru ar ôl dychwelyd i'w cartrefi a gweld y mynydd wedi newid yn llwyr yn dilyn effaith y tanau.
"Do'n i methu deall sut allai sefydliad sydd am amddiffyn yr amgylchedd benderfynu rhoi graffiti ar y ddaear a staenio creigiau sy'n filiynau o flynyddoedd oed," ychwanegodd y triniwr gwallt 53 oed.

Fe anfonodd ffrind Allie, Dean Ward, sy'n cerdded y mynyddoedd yn aml, neges ati yn awgrymu y dylen nhw gael gwared â'r murlun.
Yn wreiddiol roedden nhw'n bwriadu aros tan y diwrnod canlynol ond "roedden ni mor flin fe benderfynon ni beidio ag aros," meddai Allie.
Esboniodd eu bod wedi cael caniatâd gan y tirfeddiannwr, Helen Rowlands, a "oedd yr un mor flin â ni ac yn teimlo'r un mor gryf bod angen gwneud rhywbeth".
"O'n i'n gwybod na fyddwn i'n gallu cysgu'r noson honno oni bai ein bod ni'n gwneud rhywbeth am y peth."
Un o'r rhesymau eu bod yn poeni, meddai Allie, yw eu bod yn credu y gallai'r murlun ddenu pobl i'r mynydd, a allai arwain at ddifrod a sbwriel.
"Gan fod y tir yn ansefydlog a'r llwybrau cerdded wedi dirywio, 'da ni isio amddiffyn yr ardal tra bod o dal yn setlo," meddai.

Penderfynodd Allie Evans a Dean Ward y dylen nhw gael gwared â'r murlun
Pan gyrhaeddodd Allie a Dean y safle dywedon nhw eu bod wedi cael sioc.
"Roedden nhw wedi paentio dros bridd," ac "wedi paentio dros gerrig hefyd, gan eu staenio'n llwyr".
Defnyddiodd y ddau racanau er mwyn torri'r tir a'r murlun, ond gyda'r tir mor sych mewn mannau roedd hi'n anodd.
Dywedodd Dean ar-lein ei fod yn "bleser mawr" cael gwared â'r murlun.
Ychwanegodd: "O'n i'n meddwl bod Greenpeace yn credu mewn peidio â gadael unrhyw olion, ond eto 'da chi'n gwneud hyn i ochr mynydd.
"Dydy o ddim fel bod yr ardal heb ddioddef digon yn ddiweddar."
"Tasen ni heb wneud dim mi fyddai'r paent wedi bod yno am amser hir," meddai Allie.
Tân mawr yn y gogledd yn gorfodi trigolion i adael eu cartrefi
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf
Pobl yn cael dychwelyd adref wedi 'oglau llosgi mawr'
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf
Murlun newydd ym Mhontypridd i gofio Morfydd Llwyn Owen
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf
Dywedodd Greenpeace eu bod wedi cydweithio â grŵp celf A Letter From Lucy ar y murlun, ac wedi defnyddio "paent ecogyfeillgar, heb blastig" sy'n cael ei ddefnyddio ar gaeau chwaraeon.
Dywedon nhw hefyd eu bod wedi dewis ardal lle'r oedd tân wedi bod gan na fyddai'n cael effaith ar dyfiant organig oherwydd y llosg.
Roedden nhw am ddefnyddio darn o dir rhywle fel "cynfas i anfon neges at y prif weinidog newydd" medden nhw yn sgil dadl am faes dadleuol olew a nwy.
Mae cynigion diwygiedig ar gyfer prosiect gwerth £8.7bn ger Shetland yn cael eu hasesu gan reoleiddiwr ar ôl i lys ddyfarnu bod y ceisiadau gwreiddiol wedi'u cymeradwyo'n anghyfreithlon.
Mae Aelod o'r Senedd dros Fangor, Conwy ac Ynys Môn, Janet Finch-Saunders, wedi cyhuddo'r grŵp o "fandaliaeth amgylcheddol", gan ddweud na ddylai tir sydd wedi cael ei losgi gael ei ddefnyddio "fel cynfas ar gyfer protestiadau gwleidyddol".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.