Elgan Rhys: Nofel gan awdur a'i frwydr yn erbyn teimlo cywilydd bod yn hoyw

- Cyhoeddwyd
"Dwi wedi cael cyfnodau o therapi efo bod yn gysylltiedig â bod yn ddyn hoyw... dwi dal i weithio fo allan a gneud sens ohono fo."
Dyna eiriau'r awdur a phennaeth ymgysylltu Cwmni Theatr Fran Wen wrth iddo baratoi i gyhoeddi ei ail nofel, Plesera.
Mae'r nofel yn seiliedig ar daith yr awdur yn delio â rhywioldeb a galar, ac mae'r plot yn rhannu atgofion plentyn personol iawn i Elgan dros gyfnod o 20 mlynedd.
Fe gafodd Elgan sgwrs gyda Manon Steffan Ros ar raglen Llwyfan, gan ddisgrifio'r heriau y mae wedi profi ei hun wrth ddod i delerau â'r ffaith ei fod yn ddyn hoyw a sut y gwnaeth hynny ei ysbrydoli i ysgrifennu'r nofel hon.
'Teimlo cywilydd' o fod yn hoyw
"Mae o'n nofel sydd yn agos at, efo sbardun personol iawn," meddai Elgan.
"Y sbardun hwnnw ydi gwahoddiad gan fy Mam i un o fy ffrindiau gorau sydd dal yn ffrind gorau fi i ddod draw i chwarae pan o'n i'n wyth mlwydd oed.
"Roedd y gwahoddiad yna'n sail i berthynas, un o'r perthnasau pwysicaf i fi ac rydan ni wedi rhannu nifer o bethau o ran ein taith gyda rhywioldeb a thaith efo galar."
Wrth drafod ei brofiadau yn tyfu i fyny yng nghefn gwlad Cymru, roedd Elgan yn sôn am ei gywilydd o fod yn berson hoyw yn sgil yr ymateb yr oedd o'n cael.
"Pan dwi'n sôn am alar yn y nofel yma, dwi ddim jest yn sôn am alar o golli rhywun ond y galar mae rhywun fel dyn hoyw yn ei deimlo am ei hun," meddai.
"Y fersiwn nad oedd o'n gallu bod pan oedd o'n iau oherwydd pwysau cymdeithasol o guddio elfennau o dy hunaniaeth.
"Mae hwn yn gartharthus i mi ar lefel bersonol a phroffesiynol. Un o fy ngwendidau fel person yw cyfathrebu fy emosiynau yn gwbl glir ar lafar.
"Dwi wedi cael therapi yn y gysylltiedig efo bod yn ddyn hoyw a'r profiadau sy'n gysylltiedig efo queerness fi, dwi dal i weithio fo allan a gneud sens ohono, ac mae'r nofel yma wedi cilio rhai pethau, yn enwedig dod ag eglurder i mi, y prif beth ydi i jest trio lleihau cywilydd dwi'n teimlo am fod yn hoyw."

Elgan Rhys a'i nofel - Plesera
Mae Elgan yn dweud fod dylanwad ei fam yn eithriadol o bwysig o ran neges y nofel hefyd.
"Mae'n nofel i Mam. O fy mhrofiad i mae hi wedi bod y person cyson yna. Dwi'n ffodus iawn fod gyno ni berthynas iach ac mae hi wedi bod yna fel asgwrn cefn i fi mewn ffordd eitha cynnil o bwerus.
"Er hynny mae 'na lot o bethau yn y nofel lle dwi heb siarad efo Mam amdan, mi faswn i'n licio ond mae rhywbeth yn fy nghorff i yn fy stopio i, cywilydd ydi o dwi'n meddwl, ond dwi jest isio i rannu fo efo Mam," meddai.
Mae ardal Pwllheli hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y nofel. Mae yna atgofion melys o'r ardal, ond mae yna hefyd sôn am heriau y gwnaeth yr awdur eu profi yno fel person hoyw ifanc.
"Mae Pwllheli yn gymeriad cryf iawn yn y nofel, o ran fy mherthynas i efo Pwllheli rŵan a dwi dal i'w alw fo yn adra.
"Mi nes i orfod ffoi pan o'n i'n 18, ffoi i'r brifysgol, dyna oedd fy ffordd allan, yn debyg i'r cymeriad Adam yn y nofel.
"Be' oedd yn gyrru hynna i mi oedd fod i isho peidio bod ar ben fy hun efo fy rhywioldeb, er do'n i ddim yn gwybod na dyna oedd o ar y pryd.
"Nes i ddim dod allan nes o'n i'n 21, felly drwy'r cyfnod yn y brifysgol nes i ddim cydnabod na chaniatáu fy hun i fod yn fi.
"Roedd y siom yn ddwfn ac mewn ardal wledig fe wnaeth o gael effaith arna fi. Ti fwy exposed os rwbath. Os oes unrhyw un yn codi rhywbeth amdana chdi a dy hunaniaeth mae'n gneud i chdi deimlo lot fwy exposed."
Profiad ysgol gynradd
Mae Elgan yn cofio cael ei labelu ag enwau atgas yn yr ysgol, ac effaith y geiriau arno ar y pryd.
"Dwi'n cofio yn yr ysgol gynradd a'r tro cyntaf i rhywun fy ngalw i'n poof.
"Dyna'r tro cyntaf i mi fod yn ymwybodol o lle o'n i'n byw a llygaid yn y dre a'r ffordd o'n i'n ymddwyn yn y dre wedyn," meddai.
Roedd hynny flynyddoedd yn ôl ac mae Elgan nawr yn falch fod cymdeithas wedi newid a'r ffordd mae'n teimlo'n fwy hyderus.
"Mae'r byd wedi symud yn ei flaen, ac mae pethe'n well o ran hawliau ac yn y blaen. Mae gen i bendant fwy o hyder yn fi fy hun a dw i ddim yn cuddio rhannau o fi fy hun.
"Mae gen i ŵr rwan a dwi'n hapus iawn. Ond na'i sylwi, nid yn unig ym Mhwllheli ond mewn llefydd eraill fel Caernarfon neu Gaerdydd os dwi'n gafael yn llaw Dylan (ei ŵr) mae pobl yn sylwi.
"Ond dwi dal i neud, lle ella yn y gorffennol mi faswn i wedi stopio gafael yn llaw Dylan a dwi'n meddwl yn ddiweddar mae'r hyder yna wedi adeiladu," meddai.
Mae nofel Plesera yn cael ei chyhoeddi ddechrau Gorffennaf ac mae gan Elgan fwriad i fynd ati i sgwennu mwy.
Mae'r nofel wedi rhoi lot o hyder i mi ar lefel bersonol a phroffesiynol, felly dwi'n benderfynol o sgwennu mwy," meddai.
I wrando ar y sgwrs rhwng Manon ac Elgan yn llawn, cliciwch yma.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd3 Ebrill

- Cyhoeddwyd5 Mawrth
