'Wythnos flinedig' diffoddwr tân a rheolwr siop o Lanbed

Angharad WilliamsFfynhonnell y llun, Gorsaf Dân Llanbed
Disgrifiad o’r llun,

Angharad Williams yn cael seibiant o geisio diffodd y tanau gwyllt yn ardal Rhandirmwyn

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae rheolwr siop ddillad yn Llanbedr Pont Steffan, sydd hefyd yn gweithio'n rhan amser fel diffoddwr tân, yn dweud bod maint rhai o'r tanau y bu hi'n brwydro yn ddiweddar wedi gwneud iddi deimlo fel ei bod yn cael ei "gorchuddio" gan y fflamau.

Gyda nifer o danau gwyllt yn llosgi mewn ardaloedd ar draws Gymru dros yr haf, roedd un o'r mwyaf ohonyn nhw yn ardal Rhandirmwyn ger Llanymddyfri yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd diffoddwyr tân o bob rhan o Gymru a dros y ffin eu galw i helpu ac yn eu plith roedd Angharad Williams sydd wrth ei gwaith bob dydd yn rheolwr ar siop ddillad Lan Lofft yn Llanbed.

Dywedodd Angharad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru ei bod hi wedi bod yn "wythnos hir".

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddelio â'r fflamau yn ardal Rhandirmwyn ger Llanymddyfri am 12:45 brynhawn Mercher, 12 Awst.

Roedd yn cael ei drin fel digwyddiad difrifol oherwydd "graddfa, cymhlethdod ac effaith bosib" y sefyllfa.

"Yn Llanbed, mae gennym ni beth maen nhw'n galw'n two-pump stations. Mae gennym ni ddwy injan, un fawr ac un bach yn llai. O'n i yn Llanymddyfri am, dwi'n credu, pedwar i bum diwrnod," meddai Angharad.

"Tra o'n i ar y tân mawr, roedd 'na bwmp arall yn Talylleche am gwpl o ddiwrnodau a wedyn ym Mhendain hefyd."

Angharad Williams, rheolwraig siop ddillad Lan Llofft yn Llanbed
Disgrifiad o’r llun,

Angharad Williams yw rheolwraig siop ddillad Lan Llofft yn Llanbed

Roedd Angharad ar fin dechrau shifft arferol yn y siop cyn iddi gael yr alwad i fynd draw i'r orsaf dân.

"Ar y diwrnod cyntaf es i i'r gwaith fel normal a chael y lifter i lawr a dwi'n credu tuag amser cinio o'n i mas erbyn 14:00 a gorffen 07:00 y bore wedyn.

"Felly roedd hwnna tua 16 awr i gyd ar y diwrnod cyntaf a siŵr o fod ar ôl hynny ro'n i mas ar gyfartaledd am tua 12 awr wedyn," meddai.

Disgrifiad,

"Pan yn cyrraedd do'n i ddim yn gwybod cweit beth oedd scale y cyfan, erbyn y noson hynny chi'n gallu gweld y tannau dros y mynydd a chi'n teimlo eich bo' chi'n cael eich gorchuddio gan y tanau 'ma.

"Mae'r tirwedd mor crazy a gwahanol lan 'na. Mae arwynebedd y lle mor fawr.

"Dwi ddim yn credu pan 'nathon ni gyrraedd y tro cyntaf ein bod ni'n sylweddoli pa mor fawr oedd e."

Roedd yn gyfnod eithriadol o heriol i'r gwasanaeth tân ac ar ddiwedd shifft 15 awr a mwy, gan gario'r holl offer diogelwch trwm, roedd Angharad yn teimlo'n eithriadol o flinedig.

Coedwig wedi ei llosgi
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa mewn coedwig yn ardal Rhandirmwyn rai dyddiau wedi'r tân

Er hynny, roedd Angharad yn ddiolchgar iawn i garedigrwydd trigolion a sawl cwmni lleol oedd yn eu cynorthwyo nhw.

"Rydych chi wedi defnyddio stores egni lan i gyd ond fuon ni'n ffodus iawn, daeth cwmnïau lleol â sglodion lan i ni ac fe wnaeth pobl agor eu tai nhw lan, er bod eu tai nhw yn y danger zone, a rhoi coffis i ni, felly roedd hwnna wedi cadw ni fynd.

"Erbyn diwrnod pedwar a phump ro'n i wedi blino a gorfod mynd yn ôl wedyn i'r gwaith arferol," meddai.

Mae Angharad wedi bod yn gweithio gyda'r gwasanaeth tân ers saith mlynedd ac yn apelio ar bobl i gofio cymryd pwyll os ydyn nhw allan ar y mynyddoedd ac i beidio gwneud unrhyw beth allai achosi tân.

"Sa i'n credu fod y gwasanaeth erioed wedi gweld gymaint o bethau ar yr un pryd, mae o wedi ein stretcho ni felly rhowch hynny yng nghefn eich meddwl hefyd," ychwanegodd.

Wil a Jac Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bu Wil a Jac Jones yn gyrru tanceri dŵr at yr ardal oedd wedi ei effeithio gan y tanau

Dau arall sydd wedi bod yn helpu brwydro'r tanau yn ardal Rhandirmwyn yw'r brodyr, Wil a Jac Jones.

Esboniodd Jac fod y ddau wedi bod yn cludo dŵr i gefnogi ymdrechion y gwasanaethau brys.

"Ges i fy nihuno gan dad am tua 07:00 yn dweud bod tân mawr lan yn Rhandirmwyn, oedd e moyn i fi a Wil fynd lawr i drio helpu mas a gwneud be ni'n gallu neud," meddai Jac.

Bu'r ddau yn gyrru tanceri dŵr at yr ardal oedd wedi ei effeithio.

"Ar y llwyth cyntaf o'dd e'n iawn lan y top, o'dd dim llawer o fwg 'na, ond aethon ni lawr i nôl llwyth arall ac erbyn i ni gyrraedd nôl lan i dop y mynydd oeddech chi ffili gweld dim," ychwanegodd.

"Erbyn i'r dŵr mynd dros y flames a throi'n stem, rhwng 'na a'r mwg o'dd dim lot o' chi'n gallu gweld... O'dd e'n scary a peryglus."

'O'dd e'n brofiad wild'

Fe wnaeth ffermwyr a phobl leol ddod ynghyd er mwyn cefnogi'r gwasanaethau brys yn eu hymgyrch, ac yn ôl Jac roedd tipyn o ddryswch ar y dechrau.

"O'dd lot o bobl lan 'na, o'dd e bach o chaos achos oedd pawb yn ffordd ei gilydd.

"Roedd bach o drefn erbyn dydd Sadwrn, ac roedd lot o ffermwyr yn helpu mynd â dŵr lan 'na i'r gwasanaeth tân.

"O'dd e bach yn frustrating weithiau achos do'dd dim lot 'oedden ni'n gallu 'neud, ond 'oedden ni'n 'neud be 'oedden ni'n gallu... O'dd e'n brofiad wild," meddai..

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig