Iawndal wedi'i wrthod am yr eildro i ddyn gafodd ei garcharu ar gam

Mae Elaine a Brian Buckle am "barhau i frwydro" dros eu hachos
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Sir Benfro a dreuliodd bum mlynedd yn y carchar ar gam wedi dweud iddo "deimlo'n sâl a blin" pan glywodd fod ei gais am iawndal wedi'i wrthod am yr eildro.
Cafodd achos Brian Buckle ei ddisgrifio fel "camweinyddiad cyfiawnder difrifol" gan y Prif Weinidog Keir Starmer.
Fe wnaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder adolygu'r achos wedi i Alex Davies-Jones, Gweinidog Cyfiawnder y DU ar y pryd, ymyrryd.
Yn ôl AS Mr Buckle, Ben Lake, mae'r penderfyniad yn un "siomedig iawn" ac mae Mr Buckle yn haeddu ad-daliad "am yr hyn y mae'r wladwriaeth wedi'i wneud" iddo.
Gwrthod iawndal i ddyn gafodd ei garcharu ar gam am 5 mlynedd
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2025
'Fe gostiodd £500,000 i mi brofi 'mod i'n ddieuog'
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2023
Cafwyd y gŵr o Abergwaun yn euog o gam-drin rhywiol plant hanesyddol yn 2017 a'i ddedfrydu i 15 mlynedd yn y carchar.
Roedd ei deulu, gan gynnwys ei wraig Elaine, yn grediniol ei fod yn ddi-euog, gan ymgyrchu dros ei ryddid.
Yn dilyn brwydr bum mlynedd, dyfarnodd y Llys Apêl bod yr euogfarn yn anniogel, ac fe gafodd ei ryddhau o'r carchar ar unwaith.
Mewn ail achos yn Llys y Goron Abertawe yn 2023, oedd â thystion a thystiolaeth fforensig newydd, dyfarnodd rheithgor yn unfrydol mewn cyfnod byr ei fod yn ddieuog.
Ond fe gostiodd y gwaith o brofi hynny hyd at £500,000 i'r teulu ac mae'r cyfan wedi effeithio'n ddifrifol ar iechyd meddwl Mr Buckle.
"Rwy'n dioddef PTSD, rwyf ar feddyginiaeth, rwyf wastad yn teimlo'n bryderus," dywedodd.
"Fel teulu mae wedi bod yn anodd iawn. Dyma'r peth mwyaf erchyll i mi erioed orfod fynd trwyddo."
Mewn datganiad, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod effaith ddifrifol camweinyddu cyfiawnder ac yn ymrwymo i gefnogi unigolion ailadeiladu eu bywydau.

Dywedodd Brian Buckle bod y sefyllfa wedi amharu ar ei iechyd meddwl yn ddifrifol
Ar ôl cael ei wrthod am iawndal yn 2024, arweiniodd Ben Lake, AS Ceredigion Preseli, ddadl ar y mater yn San Steffan.
Cafodd achos Mr Buckle ei grybwyll yn Nhŷ'r Cyffredin, a dywedodd y cyn-Weinidog cyfiawnder Alex Davies-Jones ei bod eisiau adfer ei ffydd yn y system cyfiawnder troseddol.
Pan gytunodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder i adolygu'r cais am iawndal, roedd Mr Buckle, ei fargyfreithiwr a Mr Lake yn obeithiol y byddai'r gefnogaeth hynny gan y llywodraeth yn gwneud gwahaniaeth.
Ond ym mis Ebrill, fe benderfynodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder, er gwaethaf adolygiad pellach, nad oedd ei achos yn bodloni'r meini prawf statudol ar gyfer cael iawndal.
Er dryswch i'r teulu, ychwanegodd eu llythyr eu bod yn "pwysleisio nad yw'r penderfyniad hwn yn effeithio ar y ffaith bod euogfarn Mr Buckle wedi'i diddymu, nac yn bwrw amheuaeth ar ganlyniad yr apêl".
Dywed Ben Lake mai dyma un o'r anghyfiawnderau cliriaf iddo weld yn ei naw mlynedd fel AS.
"Dydw i ddim am adael hyn i fod," meddai. "Os yw hynny'n golygu fy mod i'n llusgo gweinidogion i Dŷ'r Cyffredin neu neuadd San Steffan, a chyflwyno cwestiynau nes eu bod o'r diwedd yn gwneud y peth cywir, mi w'nai."
Mewn datganiad, dywedodd Ms Davies-Jones, AS Pontypridd, ei bod yn ddrwg ganddi glywed bod cais Mr Buckle wedi ei wrthod eto, gan ddweud bod cwestiynau ehangach ynghylch y cynllun iawndal presennol.
Newid i'r gyfraith
Cafodd cais Mr Buckle ei wrthod oherwydd newid yn y gyfraith yn 2014.
Roedd iawndal yn cael ei dalu cyn hynny oes oedd hawlydd wedi profi, y tu hwnt i amheuaeth resymol, na allai unrhyw reithgor rhesymol ei ddyfarnu'n euog ar sail y dystiolaeth o'u blaenau.
Yn ail achos Mr Buckle, dyfarnodd y rheithgor ei fod yn ddieuog ar ôl clywed tystion newydd a thystiolaeth fforensig, ac fe fyddai hynny wedi ei wneud yn gymwys i gael taliad.
Ond ers 2014, dim ond diffynyddion sy'n gallu profi na wnaethon nhw gyflawni'r drosedd sy'n gymwys am iawndal - rhywbeth sy'n amhosib yn ôl bargyfreithiwr Mr Buckle, Stephen Vullo KC, gan nad oes tystiolaeth DNA na CCTV yn bodoli i brofi ei ddieuogrwydd yn derfynol.
"Pe baech chi'n gofyn i mi ddrafftio deddfwriaeth a fyddai'n sicrhau bod bron pawb yn cael eu gwrthod am iawndal, byddwn i'n drafftio rhywbeth tebyg i hyn [y gyfraith bresennol]," meddai Mr Vullo.
"Nid camgymeriad mohono - mae'n fwriadol," awgrymodd.
Nododd asesiad y Weiniddiaeth Gyfiawnder ar y pryd i effaith newid y gyfraith mai'r nod oedd lleihau'r baich ar drethdalwyr.

Mae Elaine Buckle wedi cefnogi ei gŵr o'r dechrau, gan ei bod yn grediniol nad oedd yn euog o'r cyhuddiadau yn ei erbyn
Mae iawndal am gamweinyddiaeth cyfiawnder wedi dod yn fater cynyddol ddadleuol.
Yn 2024, gofynnodd Llywodraeth y DU i Gomisiwn y Gyfraith gynnwys iawndal a chefnogaeth i'r rhai a gafwyd yn euog ar gam mewn adolygiad apeliadau troseddol yng Nghymru a Lloegr.
Mae gan Yr Alban a Gogledd Iwerddon gynlluniau iawndal eu hunain.
Yn achos cyn-bostfeistri a gafodd eu herlyn a'u cosbi ar gam yn sgil y sgandal Horizon, mae pedwar cynllun iawndal ar waith gan na fyddai'r dioddefwyr yn gymwys dan y cynllun sydd wedi gwrthod cais Brian Buckle.
Sgandal Swyddfa'r Post: Alan Bates yn cytuno ar setliad
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2025
'Swyddfa'r Post yn disgwyl i ni anghofio be da ni wedi mynd drwy'
- Cyhoeddwyd21 Mawrth
Derbyn iawndal Swyddfa'r Post 'ddim yn rheswm i ddathlu'
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2024
Cafodd Andrew Malkinson ei adael heb yr un geiniog wrth aros am iawndal am orfod treulio 17 mlynedd dan glo ar gam, wedi i dystiolaeth DNA brofi nad oedd yn euog o dreisio.
Bu bryn sylw i'w achos ac fe dderbyniodd swm cychwynnol y llynedd, ond dyw'r system, ym marn Mr Malkinson, "ddim yn ffit i bwrpas".
Cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith gynigion dros dro fis Chwefror y llynedd yn cynnwys gwrthdroi newid 2014 i'r gyfraith fel bod modd i unigolion ond orfod profi eu bod yn ddieuog ar sail tebygolrwydd, nid y tu hwnt i amheuaeth resymol.
Yn sgil diddordeb cyhoeddus sylweddol, mae'r elfen yma bellach yn cael blaenoriaeth ac mae disgwyl cyhoeddiad cyn diwedd y flwyddyn.
Mae Mr Brian Buckle yn gobeithio y bydd unrhyw newid yn ôl-weithredol i gynnwys ef ac eraill yn yr un sefyllfa, ac yn adfer ei ffydd yn y system cyfiawnder troseddol.
Dywed y Weinyddiaeth Gyfiawnder y bydd yn ystyried canfyddiadau'r adolygiad cyn penderfynu ar unrhyw gamau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.