Cyn-gynhyrchydd BBC yn gwadu bod â delweddau anweddus o blant

- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gynhyrchydd BBC Cymru wedi gwadu chwe chyhuddiad o gael delweddau anweddus o blant yn ei feddiant neu eu creu, ar ôl i ddelweddau cael eu canfod ar bedwar o'i ddyfeisiau.
Dywedodd Dylan Dawes, 50, wrth yr heddlu nad oedd yn "gwybod dim" am y delweddau anweddus a bod dyfeisiau wedi cael eu gadael yn flaenorol "am gyfnodau estynedig" yn ei weithle.
Yn ystod diwrnod cyntaf yr achos yn Llys y Goron Caerdydd fe glywodd y rheithgor gan fargyfreithiwr yr erlyniad, Harry Baker, fod dros 6,200 o ddelweddau wedi'u canfod neu eu hadfer, gan gynnwys 192 o ddelweddau Categori A.
Dywedodd Mr Dawes, sydd o Gaerdydd, ei fod wedi edrych ar bornograffi "oedolion" yn y gorffennol, ond fe wadodd bod ganddo ddiddordeb rhywiol mewn plant.
'Dyfeisiau wedi eu gadael mewn swyddfa'
Wrth agor achos yr erlyniad, dywedodd Mr Baker wrth y rheithgor fod Dylan Dawes wedi gweithio i'r BBC ers 2001.
Dros gyfnod o "tua 16 mlynedd... roedd y diffynnydd wedi bod yn lawrlwytho pornograffi plant ar bedair dyfais wahanol oedd yn eiddo iddo," meddai Mr Baker.
Ymhlith y dyfeisiau gafodd eu cymryd wrth arestio Mr Dawes mae gyriant caled, gliniadur a dau iPad.
Ychwanegodd Mr Baker fod Mr Dawes wedi gwadu cael delweddau anweddus o blant yn ei feddiant neu eu creu yn ystod ei gyfweliad â'r heddlu pan gafodd ei arestio am y tro cyntaf yn ei gartref.
Fe gyfaddefodd Mr Dawes iddo fynd ag un iPad i'w weithle o bryd i'w gilydd, a dywedodd ei fod hefyd wedi benthyg y gyriant caled i gydweithwyr "at ddibenion gwaith yn unig".
Yn ddiweddarach, daeth swyddogion o hyd i 483 o ddelweddau ar y dyfeisiau oedd yn eiddo i Mr Dawes, gyda saith ohonyn nhw'n ddelweddau Categori A.
Cafodd 5,794 o ddelweddau eraill eu hadfer gan arbenigwyr a'u nodi fel rhai a oedd wedi bod ar y dyfeisiau ar ryw adeg, gan gynnwys 185 o ddelweddau Categori A.
Ateb 'dim sylw' i gwestiynau pellach
Pan gafodd Mr Dawes ei holi gan yr heddlu eto, rhannodd ddatganiad ysgrifenedig oedd wedi ei baratoi ymlaen llaw gan ddweud nad oedd ganddo "unrhyw wybodaeth am unrhyw ddelweddau anweddus gafodd eu darganfod ar fy nyfeisiau".
Ychwanegodd nad oedd "erioed wedi gweld, cael mynediad at nac wedi lawrlwytho pornograffi plant yn fwriadol", cyn dweud nad oedd ganddo "unrhyw ddiddordeb rhywiol mewn plant" ond ei fod wedi "lawrlwytho pornograffi rheolaidd" o bryd i'w gilydd yn y gorffennol.
Dywedodd Mr Dawes wrth yr heddlu hefyd, "ar wahanol adegau, fod yr holl ddyfeisiau wedi cael eu gadael am gyfnodau hir mewn swyddfeydd cynllun agored ac nid yn fy meddiant".
Atebodd "dim sylw" i gwestiynau pellach, gan gynnwys cwestiwn am pam yr oedd wedi dweud yn flaenorol bod un ddyfais heb adael y tŷ, ac a oedd yn gallu dweud pwy oedd wedi defnyddio'i ddyfeisiau i lawrlwytho pornograffi plant.
Mae Mr Dawes yn wynebu tri chyhuddiad o fod â delweddau anweddus o blentyn yn ei feddiant, yng nghategorïau A, B a C, wedi'u dyddio i 28 Chwefror 2022 - y diwrnod y cafodd ei arestio a'i ddyfeisiau eu hatafaelu.
Mae tri chyhuddiad arall yn ei erbyn o greu delweddau anweddus o blentyn, rhwng 2006 a 2022, sy'n ymwneud â delweddau y mae'r erlyniad yn dweud nad oedden nhw ar y dyfeisiau pan gafodd ei arestio, ond yn ymwneud â delweddau gafodd eu hadfer yn ddiweddarach.
Mae'n gwadu'r cyhuddiadau ac mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.