Ystyried hollti ysgol uwchradd Gymraeg yn ddwy yn sgil pryderon ariannol

Mae angen i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni fynd i'r adael a "diffyg ariannol a fyddai'n cynyddu o flwyddyn o flwyddyn heb weithredu"
- Cyhoeddwyd
Fe allai pryder am sefyllfa ariannol ysgol uwchradd Gymraeg yn Sir Caerffili arwain at sefydlu ail ysgol uwchradd yno.
Yn ôl adroddiad i bwyllgor craffu addysg y cyngor, mae angen i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni fynd i'r afael â "diffyg ariannol a fyddai'n cynyddu o flwyddyn o flwyddyn heb weithredu".
Mae 'na 1,800 o ddisgyblion yn yr ysgol, sydd wedi ei lleoli ar ddau safle.
Mae un yn Fleur de Lys ger y Coed Duon, a'r llall saith milltir i ffwrdd yn y Gwyndy ar gyrion tref Caerffili.
Mae adroddiad swyddogion yn nodi fod y drefn bresennol o gynnal un ysgol ar ddau safle yn creu nifer o heriau, gan gynnwys dyblygu staff ac addysgu rhai pynciau.
'Manteision i ddwy ysgol ar wahân'
Tra bod nifer o opsiynau wedi eu hystyried, mae'r adroddiad yn dweud y byddai rhai ohonyn nhw wedi golygu gostyngiad sylweddol yn nifer y staff, ehangder y cwricwlwm a chyfleoedd i ddysgwyr, ac y byddai hynny'n cael effaith ar ansawdd yr addysg.
Mae swyddogion yn dweud bod yna fanteision i sefydlu dwy ysgol ar wahân.
Byddai disgyblion yn parhau i fynd i'r un safle a byddai tîm rheoli gwahanol yn y ddwy ysgol i ganolbwyntio ar eu hanghenion a'u blaenoriaethau nhw.
Mae'r adroddiad yn nodi fod ymchwil yn awgrymu y byddai'r ddwy ysgol yn gynaliadwy yn ariannol ac y byddai bwrw ymlaen â'r cynllun yn cynyddu capasiti addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y sir, gan gyfrannu ar dargedau'r cyngor a Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.
Maen nhw'n ychwanegu eu bod wedi rhagweld y byddai'r Gwyndy yn datblygu yn ysgol ar wahân maes o law cyn i'r safle agor ym Medi 2013.
Diffyg ariannol o £2.7m
Mae'r cyngor yn rhybuddio er hynny y bydd angen strategaeth ar wahân i fynd i'r afael â'r diffyg ariannol, oedd yn £2.7m ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Heb weithredu, maen nhw'n dweud y gallai'r ddyled barhau i gynyddu gymaint â £1m y flwyddyn.
Mae swyddogion wedi argymell fod y cabinet yn cymeradwyo'r cynllun ac yn bwrw ymlaen gydag ymgynghoriad.
Bydd pwyllgor craffu addysg y cyngor yn ystyried y cynllun ddydd Mawrth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.