Dyn yn gwadu trywanu bachgen 17 oed ar Ynys y Barri

Cafodd bachgen 17 oed ei drywanu ar Ynys y Barri ym mis Mai
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 18 oed o Gaerdydd wedi gwadu trywanu bachgen 17 oed ar Ynys y Barri dros benwythnos gŵyl y banc ddiwedd Mai.
Cafodd y bachgen ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl cael ei drywanu ar 25 Mai.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, plediodd Idris Ahmed yn ddieuog i gyhuddiadau yn cynnwys achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, a bod â chyllell yn ei feddiant ar y traeth.
Wrth ei amddiffyn, dywedodd Peter Donnison bod Mr Ahmed yn gwadu trywanu neu annog unrhyw un arall i drywanu'r dioddefwr honedig.
Fe wnaeth y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke nodi 2 Tachwedd fel dyddiad tebygol ar gyfer dechrau'r achos yn ei erbyn.
Bydd Mr Ahmed yn cael ei gadw yn y ddalfa nes i'r achos gael ei gynnal.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.