Dedfryd hir o garchar am ladd tad 'caredig a thyner' gydag un dwrn

Cafodd Kyle O'Callaghan ei arestio wrth geisio dianc o adeilad trwy ffenestr
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a laddodd tad "caredig a thyner" gydag un dwrn tu allan i dafarn ym Mlaenau Gwent wedi cael ei ddedfrydu i 10 mlynedd a hanner o garchar.
Bu farw Marcus Carpenter, 37, yn yr ysbyty bedwar diwrnod wedi'r ymosodiad ger tafarn The Picture House yng Nglynebwy ym mis Chwefror.
Roedd Kyle O'Callaghan, 30, sydd heb gyfeiriad penodol, wedi dyrnu Mr Carpenter yn ei ben, medd y Barnwr Daniel Williams, mewn achos "o drais hunanol, di-hid".
Clywodd Llys y Goron Casnewydd bod O'Callaghan, a blediodd yn euog i ddynladdiad, wedi llusgo corff Mr Carpenter ar hyd y stryd cyn ffoi.
Dywedodd y barnwr ei fod wedi trin ei gorff "heb owns o ofal nac urddas".
Cafodd apêl Crimestoppers gwerth £10,000 ei lansio am wybodaeth ac fe gafodd O'Callaghan ei arestio ddyddiau'n ddiweddarach tra'n ceisio dianc o adeilad trwy ffenestr.

Bu farw Marcus Carpenter o'i anafiadau yn yr ysbyty ddyddiau wedi'r ymosodiad arno
Clywodd y llys bod archwiliad post-mortem wedi datgelu anaf hypocsig yn sgil diffyg ocsigen i'r ymennydd.
Roedd Mr Carpenter wedi cael ataliad ar y galon a gwaedlif yn yr ymennydd.
Roedd 21 o euogfarnau blaenorol wedi eu cofnodi yn erbyn O'Callaghan, gan gynnwys ymosod ar gyn-gymar gyda chadwyn tennyn ci, ymosod ar rywun gyda gwydr a bod ym meddiant cyllyll mewn man cyhoeddus.
Dywedodd y barnwr ei fod wedi "achosi galar y tu hwnt i'r dychymyg".
'Mewn poen bob diwrnod'
Roedd y diffynnydd, medd cymar Marcus Carpenter, Jane Murphy, "wedi dwyn fy holl fyd.
"Mae wedi cymryd fy nyfodol a chariad fy mywyd. Ni chaf fyth ddweud ffarwel."
Dywedodd mam Mr Carpenter, Frances Price: "Bob diwrnod, rwyf mewn poen. Mae fy nghanol yn torri."
Cafodd O'Callaghan ddedfryd o 10 mlynedd a chwe mis o garchar ac fe fydd ar drwydded am gyfnod estynedig o bedair blynedd ar ôl cael ei ryddhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.