Gwrthod cais i ganiatáu stad o dai gwyliau i fod yn brif gartrefi ym Môn

- Cyhoeddwyd
Mae cais i ganiatáu i stad o dai gwyliau i gael eu defnyddio fel prif gartrefi wedi ei wrthod gan swyddogion cynllunio, er gwaetha'r ffaith fod bron pob un ohonyn nhw'n wag.
Roedd y 16 tŷ yn Storws Wen, Bryn-teg ger Benllech, wedi'u hadeiladu gydag amod cynllunio oedd yn eu cyfyngu ar gyfer defnydd fel ail gartrefi neu lety gwyliau yn unig, gan olygu nad oes modd eu meddiannu fel cartrefi teuluol parhaol.
Er iddynt gael eu marchnata'n wreiddiol am £285,000 yr un, dim ond dau o'r 16 tŷ sydd wedi'u gwerthu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan olygu bod 14 dal yn wag.
Yn gynharach eleni fe gyflwynodd y datblygwr, Colette Cartwright, gais cynllunio yn gofyn i Gyngor Môn i ddileu'r amod a sicrhau bod modd eu gwerthu fel cartrefi parhaol.
'Gosod cynsail i unedau gwyliau'
Wedi'u lleoli ger pentref gwyliau poblogaidd Benllech, roedd stad Parc Delfryn wedi ei chodi fel ail ran o gynllun ar ôl i 20 o dai gwyliau cyfagos gael eu gwerthu "yn sydyn iawn".
Nodwyd yn y cais bod yr amod cynllunio yn golygu "nad oedd yr eiddo yn ddeniadol", ond y bydden nhw "yn hynod ddeniadol yn y farchnad dai gyffredinol fel cartrefi teuluol".
Ychwanegodd Ms Cartwright ei bod wedi "gorfod troi o leiaf 37 o deuluoedd i ffwrdd" a oedd wedi holi am eu prynu fel cartrefi - "y mwyafrif ohonynt yn lleol i Fôn".
Roedd Cyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf hefyd wedi cefnogi'r cynnig, gan "groesawu'r egwyddor o gynyddu argaeledd tai parhaol yn y gymuned", tra'n pwysleisio "pwysigrwydd sicrhau bod yr eiddo ar gael i bobl leol ac, os yn bosib, am bris fforddiadwy".
Ond mae'r cais i ddiwygio'r cytundeb cynllunio wedi'i wrthod gan swyddogion cynllunio'r cyngor sir, gan nodi byddai'n torri polisïau cynllunio ac yn "gosod cynsail i unedau gwyliau eraill sydd wedi cael caniatâd cynllunio ar draws yr ynys".

Tai yn Storws Wen, Bryn-teg
Er yn derbyn bod y datblygwyr wedi cynnig cyfyngu eu meddiannaeth i bobl leol sydd â chysylltiad gyda'r ynys, penderfynwyd na fyddai "pris yr unedau'n cael ei osod ar lefel fforddiadwy" ac felly "ni ellid eu rheoli drwy fecanwaith priodol" megis cytundeb Adran 106.
Fe aeth adroddiad y swyddogion ymlaen i ddweud: "Byddai cymeradwyo'r cynnig hwn yn arwain at ddatblygwyr yn gwneud cais am lety gwyliau yng nghefn gwlad agored ac yna'n gwneud cais i newid y defnydd i ddatblygiad preswyl ar y farchnad agored.
"Byddai hyn yn cael effaith andwyol ar yr ynys ac yn tanseilio polisïau'r Cynllun Datblygu Lleol."
Penderfynwyd hefyd bod yr adroddiadau a gafodd eu cyflwyno gan yr ymgeiswyr yn "brin ar y manylion angenrheidiol er mwyn gwneud asesiad rhesymol o hyfywedd" y cynllun.
Cafodd cynnig blaenorol i alw'r cais i mewn i bwyllgor cynllunio'r awdurdod - a fyddai wedi golygu rhoi'r penderfyniad yn nwylo cynghorwyr yn hytrach na swyddogion - ei wrthod hefyd gan ei fod yn cael ei ystyried yn "gais anghydnaws", sef datblygiad nad yw'n cydymffurfio â'r cynllun datblygu lleol.
Dicter ymhlith trigolion Môn
Dywedodd Cyngor Môn bod y caniatâd cynllunio gwreiddiol - a gafodd ei gymeradwyo yn 2009 yn unol ag argymhelliad y swyddogion - yn dyddio 'nôl i gyfnod cyn gweithredu'r cynllun datblygu lleol presennol, gyda'r polisïau bellach wedi'u disodli.
Ychwanegon nhw mai "cynlluniau hanesyddol" yw stadau tai gwyliau gydag amod o'r fath ar yr ynys, oedd wedi'u cymeradwyo ar sail polisïau hanesyddol.
Mae presenoldeb eiddo gyda chyfyngiadau o'r fath wedi achosi dicter ymhlith rhai pobl leol oherwydd pryderon ynghylch fforddiadwyedd tai ar Ynys Môn ac mewn rhannau eraill o Gymru.
Ar hyn o bryd mae perchnogion ail gartrefi ar yr ynys yn talu premiwm o 100% ar eu treth gyngor.
Datblygiad tai 'gwyliau yn unig' yn methu â denu prynwyr
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
Cymuned 'wedi'u gwahardd' rhag prynu tai newydd
- Cyhoeddwyd20 Mai 2022
Dywedodd un o'r cynghorwyr lleol, Margaret Murley Roberts, pe bai ganddi ddewis "ni fyddai'r tai yno o gwbl".
Mae adroddiad diweddar yn dangos bod Cyngor Ynys Môn wedi adeiladu 140 o dai cymdeithasol newydd yn uniongyrchol drwy'r gwasanaeth tai, a thua 500 arall mewn partneriaeth â chymdeithasau tai ers 2022.
"Tai cymunedol neu fforddiadwy 'da ni eu hangen yn sicr, ond nid y math yna o dŷ," meddai'r Cynghorydd Roberts.
"Ond, maen nhw wedi cael eu hadeiladu ar gyfer tai gwyliau, a ddim o reidrwydd o'r spec fasa rhywun yn ei ddisgwyl ar gyfer tai parhaol - mae hynny'n bwysig iawn i'w gofio.
"Yn sicr 'da ni angen mwy o dai fforddiadwy yn yr ardal, ond dwi'n cytuno hefo'r adran na ellwch chi newid pethau mor hawdd â hynny, mi gafon nhw eu caniatáu ar y sail eu bod nhw'n dai gwyliau."
Dywedodd asiant y datblygwyr, Simon James, eu bod yn ystyried apelio yn erbyn y penderfyniad, a bod deiseb yn cynnwys dros 100 o enwau wedi ei chyflwyno i'r cyngor yn cefnogi'r cais.
"Mae'r achos yma yn un o 14 o dai y gellid eu gwerthu i deuluoedd lleol, ond mae hyn yn cael ei atal gan swyddogion," meddai.
"Mae'r ffaith na chafodd y cais fynd o flaen cynghorwyr yn siomedig iawn gan roeddem wedi gobeithio byddai'r aelodau wedi chwarae rhan yn y penderfyniad, gan fod yna elfen ddiwylliannol a chymdeithasol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.