Burnham yn 'agored i'r sgwrs' am ddatganoli plismona i Gymru

Andy BurnhamFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Andy Burnham ar ymweliad â Phort Talbot fore Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae prif weinidog y DU wedi dweud ei fod yn barod i ystyried trosglwyddo rheolaeth dros blismona yng Nghymru i Lywodraeth Cymru a'r Senedd.

Mae sylwadau Andy Burnham wrth ymweld â Phort Talbot fore Iau yn newid amlwg mewn tôn gan Lywodraeth y DU, sydd wedi gwrthod y syniad yn y gorffennol.

Dyma ymweliad swyddogol cyntaf Burnham â Chymru ers iddo gymryd yr awenau yn Llywodraeth y DU.

Dywedodd Burnham na allai wneud addewid ond ei fod yn "agored i'r sgwrs", gyda "diwygio plismona ehangach" yn "amser da i edrych ar y materion hynny".

Ond fe wnaeth leihau unrhyw obaith o adolygiad o'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael eu hariannu, drwy fformiwla Barnett.

Mae plismona yng Nghymru yn cael ei oruchwylio gan San Steffan, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon lle mae llywodraethau yno yn gyfrifol.

Mae galwadau am ddatganoli plismona a chyfiawnder troseddol wedi cael eu rhannu gan wleidyddion Plaid Cymru a Llafur ym Mae Caerdydd, ond nid llywodraeth Lafur flaenorol y DU dan arweiniad Syr Keir Starmer.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, fod sylwadau Burnham yn "newid tôn i'w groesawu gan Lywodraeth y DU".

Ond mae arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, wedi dweud bod Plaid Cymru "ddim yn dryst" â mwy o bwerau.

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Cymru, Llafur Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a'r Blaid Werdd am weld meysydd plismona a chyfiawnder yn cael eu datganoli, tra bod Reform a'r Ceidwadwyr am weld y sefyllfa'n parhau fel y mae hi

Mewn llyfr ddwy flynedd yn ôl, dywedodd Andy Burnham ei bod hi'n bryd "rhwygo" trefniadau ariannu fformiwla Barnett.

Ond fe wnaeth BBC Cymru adrodd ym mis Mehefin nad oedd gan Burnham unrhyw fwriad i ddiwygio'r system sy'n dyrannu arian i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn seiliedig yn bennaf ar eu cyfran o'r boblogaeth.

Mae beirniaid wedi dadlau nad yw'n ystyried anghenion Cymru yn llawn.

Ym Mhort Talbot, nododd Burnham nad yw diwygio fformiwla Barnett ar y gweill.

Dywedodd: "Mae gen i farn glir iawn am greu Prydain sy'n deg, sy'n trin pawb a phob lle yn gyfartal.

"Rwy'n ymwybodol iawn o'r pryderon ynghylch fformiwla Barnett yma yng Nghymru.

"Mae'n rhaid i mi fod yn onest a dweud - dim ond hyn a hyn o bethau y galla i eu gwneud yn yr amser sydd gen i.

"Ar hyn o bryd alla i ddim addo y bydd symudiadau i adolygu hynny."

Uwchgynhadledd o'r prif weinidogion

Cyn yr ymweliad â de Cymru, cyhoeddodd Burnham y bydd yn dod â phrif weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ynghyd yn yr hydref ar gyfer uwchgynhadledd.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur ei fod eisiau i "bob arweinydd yn y wlad hon ymrwymo" i gael "swyddi da ym mhob cymuned".

Dywedodd Downing Street y byddai'r prif weinidog yn defnyddio cyfarfod y Cyngor Economaidd Cenedlaethol ym mis Hydref i drafod yr economi gyda phrif weinidogion Cymru a'r Alban, a phrif weinidog a dirprwy brif weinidog Gogledd Iwerddon.

Adroddodd asiantaeth PA y byddai galwadau Llywodraeth Cymru i gael rheolaeth dros Ystâd y Goron - refeniw a godir o dir sy'n eiddo i'r brenin - yn cael "gwrandawiad teg" gan Burnham yn uwchgynhadledd mis Hydref.

Cymerodd cyn-faer Manceinion, Burnham, yr awenau oddi wrth Syr Keir Starmer ym mis Gorffennaf, ar ôl ennill isetholiad Makerfield.

Dywedodd llefarydd Burnham bod yr ymweliad â Phort Talbot yn rhan o daith wrando, gan roi'r cyfle iddo siarad â gweithwyr a phrentisiaid Cymru am "ail-ddiwydiannu, swyddi a chostau byw".

Dywedodd Burnham ei fod yn ne Cymru "oherwydd na fydd yr atebion i heriau'r DU yn dod o siambr adlais [echo chamber]".

"Byddant yn dod o'r lleoedd sy'n gwybod eu cryfderau eu hunain, a gan lywodraeth sy'n barod i wrando a gweithredu.

"Swyddi da ym mhob cymuned, ym mhob rhan o'r DU. Dyna beth dwi am i bob arweinydd yn y wlad hon gytuno arno."

'Annhegwch' taliadau sefydlog ynni

Fe wnaeth Burnham gwrdd â dirprwy brif weinidog Llywodraeth Cymru, Sioned Williams, yn ystod yr ymweliad ddydd Iau.

Dywedodd Williams ei bod yn "enghraifft gadarnhaol o lywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd i wella bywydau pobl".

Mae hi'n galw am "gyfran deg o gronfa ddur Llywodraeth y DU i gefnogi gweithwyr a chymunedau", "tariff ynni cymdeithasol i gefnogi'r rhai sy'n wynebu tlodi tanwydd ac sy'n cael trafferth gyda biliau ynni uchel" ac am "fynd i'r afael â'r annhegwch hirsefydlog" o ran taliadau sefydlog ar gyfer ynni.

Ychwanegodd: "Mae Cymru yn genedl sy'n gyfoethog o ran ynni. Dylai pobl weld hynny'n cael ei adlewyrchu mewn swyddi da, cymunedau cryfach a biliau is."

Crëwyd y Cyngor Economaidd Cenedlaethol gan weinyddiaeth Gordon Brown yn 2008, ac mae wedi cael ei adfywio gan Burnham.

Daeth cyfarfod blaenorol â gweinidogion y llywodraeth a meiri awdurdodau lleol Lloegr ynghyd.

Mae Plaid Cymru wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i gynnal trafodaethau ynghylch mwy o bwerau a chyllid i Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Liz Saville Roberts o Blaid Cymru y byddai datganoli plismona i Gymru yn "helpu i gadw ein cymunedau'n fwy diogel".

Ychwanegodd: "Mae hefyd yn groesawgar clywed bod y prif weinidog yn agored i ystyried yr achos dros ddatganoli Ystâd y Goron, rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro y byddai'n gam hanfodol tuag at ddatgloi mwy o dwf economaidd i gymunedau ledled Cymru."

Cafodd Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth ei gyfarfod cyntaf â Burnham ar ymylon Gemau'r Gymanwlad Glasgow ym mis Gorffennaf.

Ar y pryd, dywedodd ap Iorwerth ei fod yn "rhy gynnar" i wybod a fyddai prif weinidog newydd y Blaid Lafur yn cytuno i'w alwadau.

Dywedodd llefarydd Burnham ar y pryd ei fod "eisiau trafodaeth agored a pharhaus gyda'r prif weinidog ar y materion sydd bwysicaf ar draws Cymru".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.