Drama John Worboys: 'Angen newid y ffordd ni'n dedfrydu troseddwyr rhyw'

Mae cyfres deledu Believe Me yn adrodd hanes dioddefwyr un o ymosodwyr rhyw mwyaf difrifol Prydain
- Cyhoeddwyd
Mae cynhyrchydd cyfres ddrama sy'n adrodd hanesion erchyll y troseddwr rhyw John Worboys yn dweud bod angen "newid y ffordd 'dyn ni'n mynd ati i ddedfrydu y bobl yma".
Mae cyfres Believe Me ar ITV yn adrodd profiadau trawmatig Sarah a Laila - dioddefwyr John Worboys, neu John Radford fel y mae hefyd yn cael ei adnabod - a sut y cawson nhw eu methu gan yr heddlu.
Fe wnaeth Worboys ymosod yn rhywiol ar dros 100 o fenywod cyn iddo gael ei ddal gan Heddlu'r Met.
Cafwyd yn euog yn 2009 o 19 o droseddau rhywiol yn erbyn merched.
Yn wreiddiol fe gafodd ei garcharu am gyfnod amhenodol er diogelwch y cyhoedd, gydag isafswm o wyth mlynedd dan glo.
Ond cafodd ei garcharu am oes yn ddiweddarach - yn 2019 - gydag isafswm o chwe blynedd dan glo, wedi i ragor o ddioddefwyr rannu eu profiadau.
Effaith 'cymaint yn waeth'
Mewn sgwrs ar raglen Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Catrin Lewis Defis - cynhyrchydd y gyfres - fod effaith y troseddau ar y dioddefwyr wedi'u gwneud "cymaint yn waeth" oherwydd y ffordd y cawson nhw eu trin gan yr heddlu.
Cafodd y gyfres pedwar rhan ei ffilmio yng Nghymru, er i'r troseddau ddigwydd yn Llundain.
Pan ddarllenodd Catrin sgript y ddrama, dywedodd ei bod wedi "sgrechian" ar rai o'r manylion.
"Dim ond 3% o'r achosion trais sy'n mynd at yr heddlu sy'n cyrraedd y llysoedd," meddai.
"Felly mae'n dal i ddigwydd, bod e'n anodd i rhywun fynd ag achos fel hyn ymlaen."

Aimée-Ffion Edwards, sydd wedi ymddangos yng nghyfresi Peaky Blinders y BBC a Skins ar Channel 4, sy'n chwarae rôl Sarah yn y gyfres
Yr actores o Gymru, Aimée-Ffion Edwards, sy'n chwarae rhan Sarah yn y gyfres.
Mewn cyfweliad gydag ITV, fe ddywedodd ei bod yn gobeithio y bydd y gyfres yn helpu i annog y sgwrs ynglŷn â sut mae dioddefwyr ymosodiadau rhyw yn cael eu trin.
"Fi'n gobeithio bod y gynulleidfa yn barod i gael mwy o sgyrsiau am y ffordd ni'n trin dioddefwyr trais domestig, aflonyddu rhywiol a threisio, oherwydd mae ffordd bell i fynd," meddai.
Rôl Carrie Johnson yn 'allweddol'
Bellach yn briod gyda chyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig Boris Johnson, mae Believe Me yn adrodd hanes Carrie Johnson, oedd yn 19 oed yn 2007 pan gafodd ei gyrru adref mewn tacsi gan Worboys ar noson allan yn Chelsea.
Esboniodd Catrin y bu ei phrofiad hi yn un gwahanol, ond bod Ms Johnson wedi chwarae rhan "allweddol iawn" erbyn y diwedd, wrth iddi helpu i fynd â'r achos i'r bwrdd parôl yn yr Uchel Lys.
"'Sa hi ddim wedi bod lle oedd hi - mor agos at y Blaid Dorïaidd ar y pryd - byddai wedi bod llawer anoddach iddyn nhw fynd â'r achos hwnnw i'r llys.
"Felly roedd hi'n allweddol - yn ifanc iawn, iawn pan oedd hi'n y tacsi a phan dystiodd yn y llys yn yr achos cyntaf.
"O'dd hi ddim yn cofio, a ddim yn credu bod dim byd wedi digwydd iddi mwy na bod e wedi rhoi'r cyffuriau iddi.
"Ond o'dd hi wedi gwylio'r penodau cyn bo' nhw'n mynd allan ac roedd hi'n gefnogol iawn."
'Y balans yn anghywir'
Mae Catrin yn awyddus i'r rhaglen gael effaith ar sut y mae'r heddlu'n ymdrin ag achosion tebyg yn y dyfodol.
"Mae'n rhaid i ni newid y ffyrdd 'dyn ni'n mynd ati i ddedfrydu'r bobl 'ma," meddai.
"Mae'r balans yn anghywir."
Ychwanegodd fod yr ymateb i'r gyfres wedi bod yn "rhyfeddol".
"Mae pawb dwi'n meddwl yn ddieithriad wedi bod yn gefnogol o'r gyfres, ond ddim yn gefnogol o'r heddlu yn amlwg."
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.