Dadorchuddio cerflun 'tad datganoli', Rhodri Morgan yng Nghaerdydd

- Cyhoeddwyd
Mae cerflun o Rhodri Morgan - y dyn cyntaf i ddal y teitl Prif Weinidog yng Nghymru - wedi ei ddadorchuddio ym Mae Caerdydd.
Bu Rhodri Morgan yn Brif Weinidog Cymru am bron i ddegawd, cyn ildio'r awenau yn 2009.
Roedd yn cael ei adnabod fel 'tad datganoli' ac yn un o wleidyddion amlycaf ei genhedlaeth.
Mae'r cerflun wedi ei leoli y tu allan i adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.
Yr artist poblogaidd Andy Edwards wnaeth ddylunio'r cerflun, y diweddaraf o nifer o gerfluniau iddo eu creu gan gynnwys cerflun The Beatles yn Lerpwl.
Dadorchuddio cerflun Rhodri Morgan ym Mae Caerdydd ddydd Iau
Cafodd Rhodri Morgan ei ethol yn AS yn 1987 ac i'r Senedd - neu'r Cynulliad bryd hynny - yn 1999.
Wedi hynny fe dreuliodd naw mlynedd yn swydd wleidyddol uchaf Cymru o 2000 i 2009.
Mae nifer yn ei gofio am ei arweiniad yn y Senedd newydd ar ôl i bobl Cymru bleidleisio dros ddatganoli.

Mae'r cerflun yn cynnwys ei gi, Tel
Daeth grŵp o ffrindiau a chefnogwyr ynghyd i godi arian ar gyfer cerflun yn Hydref 2018, ac mae'r nod hwnnw wedi ei gwblhau heddiw.
Wrth ddadorchuddio'r cerflun, dywedodd ei wraig a'r cyn-AS, Julie Morgan: "Mae wedi cymryd wyth mlynedd i ni gyrraedd y pwynt yma - rydym wedi profi'r pandemig, argyfwng costau byw, ond rydym yma o'r diwedd."

Mae'r ffaith bod y cerflun ar y ddaear yn adlewyrchu ei gymeriad, meddai Julie Morgan
"Rydym wedi bod yn codi arian drwy gynnal digwyddiadau bychan, ciniawau, rhoddion o bob cwr o Gymru, gan gynnwys llawer o grwpiau sy'n cynrychioli lleiafrifoedd ethnig.
"Mae'r cerflun ei hun hefyd ar y ddaear, nid ar blinth. Roedd yn rhywun oedd yn agos at y bobl, ac mae'n adlewyrchu hynny."
Dywedodd Dilwar Ali, aelod sefydlu grŵp Ymddiriedolaeth Rhodri Morgan ei fod "mor falch bod y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth" a bod cerflun "o flaen y Senedd lle treuliodd gymaint o flynyddoedd yn gweithio dros bobl Cymru".

Bu farw Rhodri Morgan yn 2017
Cafodd Elin Jones, y Gweinidog Cyllid a'r cyn-lywydd, ei phenodi gan Rhodri Morgan yn weinidog llywodraeth yn y glymblaid Llafur-Plaid Cymru a gafodd ei ffurfio yn 2007.
Wrth siarad yn y ddadorchuddio cerflun, dywedodd ei bod hi'n "ddiwrnod pwysig i Gymru a theulu Rhodri Morgan."
"Ef oedd prif adeiladwr y Senedd yng nghalonnau a meddyliau'r bobl," meddai.
Ychwanegodd Shav Taj MS mai ef oedd "tad bedydd datganoli".
"Roedd yn wir ffrind i bobl sy'n gweithio a'r mudiad undebau llafur."
Fe wnaeth y Llywydd presennol, Huw Irranca-Davies ganmol ei garisma, gan ddweud fod "pobl oedd erioed wedi cwrdd â Rhodri yn teimlo eu bod yn ei adnabod fel ffrind".

Roedd cannoedd wedi ymgynnull ddydd Iau i weld y cerflun am y tro cyntaf
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd y cyn-brif-weinidog Mark Drakeford ei fod yn "ddiwrnod chwerw felys".
Dywedodd ei fod yn "atgoffa o'r hyn 'da ni wedi colli" ond ei fod yn "felys cael darparu cofeb barhaol i dad datganoli.
"Hebddo e fydde dim Senedd, daeth yn brif weinidog o dan amgylchiadau anodd.
"Roedd e'n ddeallus dros ben, cof rhyfeddol, doniol dros ben ond gyda theimlad dwys o bwrpas yn enwedig o ran datganoli.
"Roedd yr un person efo pwy bynnag oedd e'n siarad, dyn y bobl oedd e. Pobl yn croesi'r hewl i ddweud helo wrtho."
Ychwanegodd fod pobl "yn ei adnabod e – y gwallt a'r llais".
"Bydde fe'n siomedig ynglyn â beth ddigwyddodd i Lafur ym mis Mai – ond roedd o'n ddyn democratig."
Wrth sôn am yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan ar hyn o bryd, dywedodd fod Rhodri Morgan yn "gyfarwydd â Burnham, ac wedi cwrdd ag ef droeon, dwi'n teimlo bod Rhodri yn gweld Burnham fel person sy'n deall datganoli".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2017
