'Cyfle gwych' i feddyg mewn sioe gerdd am ymwrthedd i wrthfiotigau

Dr Eleri Davies (chwith) a'r cast yn paratoi ar gyfer perfformiadau Lifeline
- Cyhoeddwyd
Mae sioe gerdd Lifeline yn cael ei pherfformio yn Llundain am y tro cyntaf, gan gyfuno hanes meddygaeth gyda stori fodern am fygythiad cynyddol ymwrthedd i wrthfiotigau.
Ymhlith y cast mae Dr Eleri Davies, dirprwy gyfarwyddwr meddygol Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n perfformio ochr yn ochr â meddygon a gwyddonwyr eraill yn y cynhyrchiad unigryw.
Mae'n cael ei berfformio yn Southwark o ddiwedd mis Mawrth tan ddechrau mis Mai, gan gyfuno cast proffesiynol o'r West End gyda gweithwyr iechyd sydd â phrofiad uniongyrchol o'r maes.
Mae'r sioe yn adrodd hanes Alexander Fleming a'i ddarganfyddiad o benisilin yn 1928 gan drawsnewid llawer o heintiau angheuol yn gyflyrau y gellir eu trin, ac ychwanegu cyfartaledd o 20 mlynedd at fywydau pobl.
Mae'n plethu'r hanes gyda stori gyfoes sy'n dangos effaith ymwrthedd i wrthfiotigau ar y gwasanaeth iechyd heddiw.

Mae'r sioe yn tynnu sylw at rybudd cynnar Alexander Fleming y gallai ymwrthedd i benisilin ddatblygu
Yn ôl Dr Eleri Davies, o Fro Morgannwg, mae'r ddrama yn ffordd bwerus o ddod â mater iechyd byd-eang cymhleth yn fyw trwy gerddoriaeth ac emosiwn.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Dr Davies - microbiolegydd meddygol sy'n arwain rhaglen ymwrthedd gwrthfiotigau Iechyd Cyhoeddus Cymru - ei bod hefyd "yn dwlu ar ganu" ac wedi breuddwydio am berfformio ar lwyfan yn Llundain.
Mae hi wedi bod yn canu trwy gydol ei bywyd ac wedi perfformio mewn Eisteddfodau ers yn ifanc, a dywedodd fod bod yn rhan o sioe gerdd sy'n adrodd hanes maes ei harbenigedd yn brofiad "arbennig".
Disgrifiodd y cyfle i fod yn rhan o'r cynhyrchiad fel rhywbeth na allai wrthod, gan esbonio bod yn rhaid mynd drwy glyweliad gyda thua 500 o ymgeiswyr, cyn i 60 gael eu dewis i berfformio bob wythnos.
Mae'r cast yn cynnwys cymysgedd unigryw o weithwyr iechyd proffesiynol ac actorion profiadol, gyda'r prif rannau'n cael eu perfformio gan berfformwyr sydd wedi ymddangos yn y West End, tra bod y corws o wyddonwyr yn newid yn wythnosol.

Cafodd y sioe ei pherfformio yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn 2018, a denodd sylw rhyngwladol wrth gael ei pherfformio ar lawr Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 2024
Yn ôl Dr Davies, mae hyn yn rhoi haen ychwanegol o ddilysrwydd i'r sioe gan fod y rhai ar y llwyfan yn "dod â'u profiad go iawn" i'r stori wyddonol.
Mae'r ddrama yn canolbwyntio ar rybudd cynnar Alexander Fleming y gallai ymwrthedd i benisilin ddatblygu - rhywbeth sydd bellach yn realiti wrth i facteria ddod yn fwy ymwrthol i driniaethau, yn ôl Dr Davies.
"Mae lot o wrthfiotigau wedi cael eu datblygu," meddai Dr Davies, "ond gyda datblygiad pob un mae ymwrthedd yn tueddu i ddatblygu, ac erbyn hyn mae bach o crisis wedi datblygu."
Ychwanegodd fod y sioe yn codi ymwybyddiaeth ac yn helpu cynulleidfaoedd i ddeall y goblygiadau mewn ffordd fwy personol.

Bydd sioe gerdd Lifeline yn cael ei pherfformio tan 2 Mai yn theatr Southwark Playhouse yn Llundain
Er ei bod yn treulio llawer o'i hamser yn darlithio ar y pwnc, dywedodd Dr Davies fod defnyddio sioe gerdd yn ffordd hollol wahanol o gyfathrebu.
"Mae hynny'n gallu bod yn sych iawn... ond mae defnyddio drama gerdd fel hyn yn ffordd o dynnu ar emosiynau pobl."
Mae'r cynhyrchiad eisoes wedi profi'n boblogaidd ers ei ddyddiau yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn 2018, ac mae wedi denu sylw rhyngwladol wrth gael ei pherfformio ar lawr Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 2024.
Dywedodd Dr Davies bod y profiad wedi bod yn heriol ond yn werth chweil, wrth iddi deithio'n rheolaidd i Lundain ar gyfer ymarferion gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Bydd hi'n perfformio yn ystod wythnos olaf y rhediad, gan ddisgrifio'r cyfan fel "cyfle gwych" a bod y "cyfuniad o'r pwnc yma a'r ddrama gerdd wedi bod yn berffaith".
Bydd sioe gerdd Lifeline yn cael ei pherfformio tan 2 Mai yn theatr Southwark Playhouse yn Llundain.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2024

- Cyhoeddwyd29 Mawrth

- Cyhoeddwyd16 Mai 2024
