Etholiad

Canlyniadau Senedd Cymru

Dim mwyafrif i’r un blaid
49 sedd i fwyafrif
96 o 96 sedd
  • Plaid Cymru 43 seddi 20 o seddi wedi’u cipio
  • Reform UK 34 seddi 34 o seddi wedi’u cipio
  • Llafur 9 seddi 35 o seddi wedi’u colli
  • Ceidwadwyr 7 seddi 22 o seddi wedi’u colli
  • Y Blaid Werdd 2 seddi 2 o seddi wedi’u cipio
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol 1 sedd 1 o seddi wedi’u cipio
Newid o'i gymharu â 2021

Crynodeb

  • Yr holl ganlyniadau wedi cael eu cyhoeddi yn etholiad y Senedd, gyda Phlaid Cymru y blaid fwyaf

  • Plaid Cymru'n ennill 43 sedd, Reform - 34, Llafur - 9, Ceidwadwyr - 7, Y Blaid Werdd - 2, Y Democratiaid Rhyddfrydol - 1

  • Rhun ap Iorwerth yn dweud bod Plaid Cymru'n barod "i fwrw ymlaen i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru"

  • Y prif weinidog Eluned Morgan wedi colli ei sedd yng Ngheredigion Penfro

  • Arweinydd Reform yng Nghymru Dan Thomas wedi ennill sedd yn etholaeth Casnewydd Islwyn

  • Y Blaid Werdd yn ennill eu seddi cyntaf yn y Senedd

  • Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, yn cadw ei sedd

  • Dros 50% wedi pleidleisio am y tro cyntaf ar gyfer etholiad i'r Cynulliad neu'r Senedd

  • 16 etholaeth y tro hwn, a 96 AS wedi cael eu hethol am y tro cyntaf drwy system newydd

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 19:34 GMT+1 8 Mai

    A dyna ni ar ddiwrnod hanesyddol ym myd gwleidyddol Cymru.

    Am y tro cyntaf mewn degawdau, nid Llafur sydd wedi ennill y nifer fwyaf o seddi mewn etholiad yng Nghymru.

    Plaid Cymru sydd wedi dod i'r brig, ac er nad ydyn nhw wedi sicrhau mwyafrif yn y Senedd, mae'n edrych yn bur debyg mai Rhun ap Iorwerth fydd yn mynd ati i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru.

    Mae 'na enwau mawr wedi colli eu llefydd yn y Senedd hefyd, neb yn fwy na'r Prif Weinidog Eluned Morgan.

    Ac mae Reform wedi ennill 34 o seddi, a hynny er nad oedden nhw'n bodoli fel plaid rhai blynyddoedd yn ôl.

    Mae ein llif byw yn dod i ben am heno, ond fe fydd mwy ar wefan ac ap Cymru Fyw gydol y penwythnos.

    Diolch am ddilyn.

  2. Criw Radio Cymru yn dathlu rhaglen ganlyniadau etholiad olaf Dewi Llwydwedi ei gyhoeddi 19:33 GMT+1 8 Mai

    Mae'n ddiwrnod mawr i Dewi Llwyd hefyd, un o newyddiadurwyr a chyflwynwyr amlycaf darlledu Cymraeg, ar ôl iddo gyhoeddi y bydd yn ymddeol wedi bron i 50 mlynedd gyda'r BBC.

    Mae wedi bod â rhan amlwg yn narlledu 20 o etholiadau ond rhaglen ganlyniadau etholiad y Senedd heddiw ar BBC Radio Cymru fydd ei olaf.

    Mi fydd yn cyflwyno Dros Ginio am y tro olaf ar 22 Mai.

    Criw RC
  3. Etholiad 2026 mewn lluniauwedi ei gyhoeddi 19:26 GMT+1 8 Mai

    Mae wedi bod yn ddiwrnod llawn emosiwn.

    I weld rhywfaint o ddelweddau'r diwrnod ewch i oriel ganlyniadau Cymru Fyw.

    Rhun ap Iorwerth ac Edward Morus JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Balchder Ieuan Wyn Jones ar ddiwrnod 'hanesyddol'wedi ei gyhoeddi 19:24 GMT+1 8 Mai

    Bu Ieuan Wyn Jones, cyn-arweinydd Plaid Cymru yn ymateb i araith Rhun ap Iorwerth ar Radio Cymru.

    "Roeddwn i'n falch o glywed ei gyfeiriad at Waldo - roedd yn ymgeisydd yn y Blaid pan nad oedd pethau cystal!'

    "Mae hynny'n rhoi hyn yn ei gyd-destun hanesyddol."

    Disgrifiad,

    Buddigoliaeth hanesyddol i Blaid Cymru

  5. 'Dros Gymru'n Gwlad'wedi ei gyhoeddi 19:21 GMT+1 8 Mai

    Etholiad 2026

    Wrth i arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ddod â'i araith yn Llandudno i ben, dyma'i gefnogwyr yn dechrau canu 'Dros Gymru'n Gwlad,' geiriau wrth gwrs gafodd eu hysgrifennu gan y Parch. Lewis Valentine wrth iddo gofleidio rhai ohonyn nhw wrth ddathlu.

  6. Edrych yn ôl ar 'ganlyniad hanesyddol' yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 19:15 GMT+1 8 Mai

    Huw Lewis
    Sylwebydd gwleidyddol

    A hithau'n ddiwrnod hanesyddol i Gymru, y sylwebydd gwleidyddol Huw Lewis sy'n crynhoi digwyddiadau'r diwrnod.

  7. Guto Harri yn cydymdeimlo ag Eluned Morganwedi ei gyhoeddi 19:10 GMT+1 8 Mai

    Etholiad 2026

    Cyn-ddisgybl yn yr un ysgol ag Eluned Morgan, Guto Harri sy'n cydymdeimlo â pherson mae'n adnabod ers dros "hanner canrif".

  8. Sam Kurtz yn 'siomedig' i golli ei seddwedi ei gyhoeddi 19:07 GMT+1 8 Mai

    Etholiad 2026

    Sam Kurtz o'r Ceidadwyr Cymreig sy'n sôn am ei siom o golli ei sedd yn etholaeth Ceredigion Penfro.

  9. Gyda phwy fydd Plaid Cymru yn cyd-weithio?wedi ei gyhoeddi 19:04 GMT+1 8 Mai

    BBC Radio Cymru

    Gyda disgwyl y bydd Plaid Cymru yn ceisio ffurfio llywodraeth nesaf Cymru, mae'n bosib y gwelwn ni drafodaethau am gydweithio gyda phleidiau eraill. Ond pwy?

    Ar Radio Cymru dywedodd Cefin Campbell, aelod Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin: “...byddwn ni am ffurfio llywodraeth leiafrifol a gwneud bargen gyda rhai pleidiau sydd yn rhannu’n gwerthoedd ni - wrth gwrs er mwyn pasio cyllideb fel mae pob llywodraeth wedi gorfod neud ers dechre datganoli."

    “Dyw hynny ddim yn rhywbeth newydd, ond mi fyddwn ni’n edrych at y pleidiau progressive yna sy’n rhannu’r un weledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru.”

  10. Pwy ydy Rhun ap Iorwerth?wedi ei gyhoeddi 19:02 GMT+1 8 Mai

    Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud bod Plaid Cymru yn barod i "fwrw 'mlaen" i ffurfio llywodraeth, ac fe allwn ni weld y cyn-newyddiadurwr fel y prif weinidog nesaf.

    Darllenwch fwy amdano yn yr erthygl arbennig yma a gafodd ei chyhoeddi cyn yr etholiad.

    R ap I
  11. Elin Jones: 'Carreg filltir hanesyddol'wedi ei gyhoeddi 18:53 GMT+1 8 Mai

    Mae Llywydd y Senedd, Elin Jones, wedi disgrifio canlyniad yr etholiad fel “daeargryn gwleidyddol” ac yn dweud bod Plaid Cymru wedi cael “mandad clir i geisio ffurfio llywodraeth”.

    Wrth siarad ar ôl cael ei hail-ethol, dywedodd fod Plaid Cymru wedi elwa ar alwad genedlaethol am newid yn y ffordd mae Cymru’n cael ei llywodraethu.

    “Mae pobl Cymru wedi datgan yn glir iawn eu bod eisiau newid,” meddai.

    Elin JonesFfynhonnell y llun, PA Media

    Wrth siarad am y dyddiau nesaf, dywedodd Elin Jones y byddai’n symud yn gyflym i sicrhau bod y Senedd yn gallu cwrdd a dechrau’r broses o ddewis Prif Weinidog newydd.

    “Bydd Prif Weinidog newydd i Gymru,” meddai, “ond does dim sicrwydd eto pwy fydd hynny.”

    Dywedodd y bydd yn siarad â phob plaid dros y penwythnos i drefnu cyfarfod cyntaf y Senedd newydd cyn gynted â phosibl.

    Wrth gloi, disgrifiodd y canlyniad fel “carreg filltir hanesyddol” i wleidyddiaeth Cymru.

    “Mae hon yn deimlad o ddaeargryn gwleidyddol,” meddai.

    “Mae Plaid Cymru wedi torri trwodd ym mhob rhan o Gymru, ac mae hynny’n newid mawr. Nawr mae’r cyfrifoldeb arnynt i gyflawni’r newid mae pobl Cymru wedi pleidleisio drosto.”

  12. 'Dechrau nid diwedd y daith ydy hyn' - Rhun ap Iorwerthwedi ei gyhoeddi 18:49 GMT+1 8 Mai

    Yn dilyn buddugoliaeth hanesyddol i Rhun ap Iorwerth a'i blaid dywedodd fod Cymru wedi gwneud ei dewis yn glir a bod y blaid yn barod "i fwrw ymlaen i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru".

    Dywedodd bod "pobl Cymru wedi dewis gobaith, maen nhw wedi dewis hyder, ac maen nhw wedi dewis arweinydd newydd am y tro cyntaf yn hanes ein democratiaeth ifanc.

    "Ond wrth i'r stori newydd yma gael ei sgwennu nid heddiw sy'n bwysig mewn difrif, ond yfory, a'r diwrnod ar ôl hynny. Dechrau nid diwedd y daith ydy hyn.

    "'Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain' meddai Waldo, wel mi ddaeth y dydd hwnnw - y dydd o blannu hedyn y deffrodd cenedl fydd yn blaguro'n Gymru falch, hyderus ac uchelgeisiol.

    "Mae Cymru wedi rhoi ei ffydd ynom ni a rŵan fyddwn ni'n dangos ein ffydd yng Nghymru – i dyfu yn genedl decach, mwy cyfiawn a mwy llewyrchus ac sy'n barod i sefyll i fyny i San Steffan."

  13. Canlyniadau Cymru am arwain at 'newid yn Downing Street'wedi ei gyhoeddi 18:39 GMT+1 8 Mai

    BBC Radio Cymru

    Mae Llafur yn “colli mor drwm yn eu cadarnleoedd” am arwain at newid yn Rhif 10 Downing Street, yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Guto Harri.

    Dywedodd ei fod yn rhagweld y bydd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer yn camu i lawr o’i wirfodd neu’n cael ei orfodi o’i swydd yn y dyddiau nesaf.

    Dywedodd Mr Harri, oedd yn gyfarwyddwr cyfathrebu i Boris Johnson pan oedd o’n Brif Weinidog: “Os nad allwch chi ennill yng Nghymru, dyw’r boi iawn ddim wrth y llyw i ennill mewn llefydd anoddach.

    “Dwi wedi gweld am y tro cyntaf yn fy oes i - o fod yn ohebydd neu’n ymhél â’r byd gwleidyddiaeth - bod Cymru yn gwbl, gwbl ganolog nid jest i’n gwleidyddiaeth ni yng Nghymru, sydd wrth gwrs yn bwysig, ond yn gwbl ganolog - yn haeddiannol felly o’r diwedd - i wleidyddiaeth Prydain a gallwn ni weld newid yn y person sy’n Rhif 10 Downing Street ar gefn beth sydd wedi digwydd yng Nghymru.”

  14. 'Llawer o ddyddiau ac wythnosau diddorol i ddod'wedi ei gyhoeddi 18:32 GMT+1 8 Mai

    Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd yn ystod y tymor diwethaf, Darren Millar, sydd wedi ennill ei sedd unwaith eto, "mae wedi bod yn ddiwrnod diddorol mewn gwleidyddiaeth ac mae yna lawer o ddyddiau ac wythnosau diddorol i ddod".

    "Rwy'n edrych ymlaen at roi fy ysgwydd i'r llyw, a gweithio gyda phobl yn y Senedd i gyflwyno trethi is a rhoi terfyn ar wastraff y llywodraeth, i gael gwasanaethau cyhoeddus gwell, fel y gallwn drwsio Cymru a chael y wlad hon i weithio."

    Darren MillarFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Dau ar ôl o 'ddosbarth 99'wedi ei gyhoeddi 18:27 GMT+1 8 Mai

    Elin JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Etholwyd Elin Jones yng Ngheredigion Penfro

    Mae'r canlyniadau llawn yn golygu mai dim ond dau o'r aelodau gwreiddiol o 1999 fydd ar ôl yn nhymor newydd y Senedd.

    Mae Elin Jones o Blaid Cymru, sy'n dal yn Llywydd tan i olynydd gael ei ethol, a'r cyn-weinidog addysg Lynne Neagle o'r blaid Lafur, wedi ennill eu seddi.

    Lynne Neagle
    Disgrifiad o’r llun,

    Etholwyd Lynne Neagle yn Sir Fynwy Torfaen

  16. A fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cydweithio â Phlaid Cymru?wedi ei gyhoeddi 18:25 GMT+1 8 Mai

    Mae Jane Dodds wedi dweud ei bod hi'n "barod i gael trafodaethau" gyda Phlaid Cymru ynglyn â chlymblaid, ar S4C.

    Er mai hi fydd unig aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd, dywedodd Jane Dodds ei bod hi wedi "bod yn glir" am eisiau gweld mwy o wariant ar wasanaethau cyhoeddus, a dim gwariant ar annibyniaeth cyn cytuno i unrhyw glymblaid.

    Mae arweinydd y blaid wedi dweud na fydd hi "yn newid ei meddwl" ar hynny.

  17. Ieuan Wyn Jones: ‘Ni ydi’r Party of Wales’wedi ei gyhoeddi 18:20 GMT+1 8 Mai

    Wrth ymateb i lwyddiant Plaid Cymru, dywedodd eu cyn-arweinydd eu bod wedi ennill seddi mewn ardaloedd lle roedden nhw’n arfer “crafu i gael unrhyw beth”.

    Meddai Ieuan Wyn Jones: “Roedd lot o bobl yn cyhuddo ni [ac yn gofyn] ‘sut allwch chi alw eich hunain yn Party of Wales, yn Saesneg - ond erbyn hyn ‘dan ni yn gallu dweud ein bod ni’n Party of Wales.

    “Roedd ‘na bobl yn y Blaid Lafur oedd yn dweud wel ‘ni ydi’r Party of Wales, wel ‘da ni wedi profi bellach mai Plaid Cymru ydi o.”

  18. Y map a'r Senedd yn gyflawnwedi ei gyhoeddi 18:17 GMT+1 8 Mai

    A dyna ni, mae'r canlyniadau i gyd wedi cael eu cyhoeddi, ac rydyn ni'n bellach yn gwybod beth fydd trefn y Senedd newydd.

    senedd
    map
    cyfran
  19. Gwynedd Maldwyn: Yr aelodau newyddwedi ei gyhoeddi 18:14 GMT+1 8 Mai

    Yr aelodau sydd wedi eu hethol yw:

    Sedd 1 - Siân Gwenllian (Plaid Cymru)

    Sedd 2 - Andrew Griffin (Reform)

    Sedd 3 – Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)

    Sedd 4 - Beca Brown (Plaid Cymru)

    Sedd 5 – Claire Johnson-Wood (Reform)

    Sedd 6 – Elwyn Vaughan (Plaid Cymru)

    Nifer y pleidleisiau oedd:

    Plaid Cymru – 36,087

    Reform – 22,667

    Ceidwadwyr – 5,650

    Dem Rhydd – 4,554

    Llafur – 4,466

    Gwyrddion – 4,090

  20. Gwynedd Maldwyn: Y manylion yn llawnwedi ei gyhoeddi 18:13 GMT+1 8 Mai

    mwy
    mwy