Sut rydym yn cyflogi
Gall gwneud cais am swydd newydd fod yn frawychus, felly rydym am wneud pethau mor dryloyw a hawdd â phosibl. Dyma bopeth y gallwch ei ddisgwyl os byddwch yn gwneud cais.

Crynodeb
Rydym yn canolbwyntio ar bwrpas. Fel un o’r brandiau cyfryngau mwyaf dibynadwy yn y byd, rydym yn cynnig creadigrwydd o’r radd flaenaf a chynnwys arloesol i hysbysu, addysgu a diddanu ein cynulleidfaoedd.
Mae meddylfryd yn bwysig. Rydym yn chwilio am bobl gadarnhaol sy’n dilyn ein gwerthoedd ac yn sicrhau bod ein diwylliant yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn llawn cyfleoedd.
Rydym yn gwerthfawrogi gwahaniaeth. Pobl sy’n hunanymwybodol, yn frwdfrydig ac sy’n darparu cynnwys o’r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol.
Rydym yn chwilio am botensial yn hytrach na pherffeithrwydd, a byddwn yn rhoi cyfle i chi roi eich profiad a’ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.
Ein gwerthoedd
Beth allwch chi ei ddisgwyl
Cam 1 - Gwneud cais
Ar ôl i chi ddarllen yr hysbyseb swydd yn llawn, cliciwch ‘Gwneud cais nawr’. Efallai y bydd rhai cwestiynau sgrinio fel rhan o’r cais – mae’r rhain wedi’u cynllunio i roi gwell syniad i ni a ydych chi’n bodloni meini prawf allweddol y swydd ac i chi benderfynu a yw’r swydd yn addas i chi.
Cam 2 - Sgrinio
Rydym yn defnyddio dulliau sgrinio amrywiol i sicrhau ein bod yn dod o hyd i’r dalent orau un ar gyfer y swydd. Bydd aelod o’r tîm Caffael Talent yn adolygu eich cais yn erbyn meini prawf allweddol ac yn cefnogi’r rheolwr sy’n penodi i lunio rhestr fer. Gall y broses gynnwys asesiadau, fel profion sgrinio ar-lein neu i brofion crebwyll, i werthuso a ydych chi’n bodloni’r meini prawf allweddol ac i’ch helpu chi i benderfynu a yw’r swydd yn addas i chi.
Cam 3 - Cyfweliad
Byddwn yn awyddus i ddod i’ch adnabod chi a’ch sgiliau, eich gwybodaeth, eich profiad a’ch cryfderau. Rydym hefyd yn awyddus i glywed pam rydych chi’n meddwl y byddech chi’n rhagori yn y swydd a pham fod gennych chi ddiddordeb yn y BBC. Byddwch yn cael rhagor o fanylion am beth i’w ddisgwyl.
Cam 4 - Asesiadau
Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd camau asesu ychwanegol. Gallai hyn fod yn dasg neu’n ymarfer sy’n benodol i’r swydd er mwyn rhoi’r cyfle gorau i chi ddangos i ni beth rydych chi’n gallu ei wneud.
Cam 5 - Cynnig a chynefino
Os aiff popeth yn iawn, byddwch yn cael swydd - rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r BBC!
Addasiadau rhesymol
Cymorth gyda’ch cais
Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi i wneud cais am swydd neu i gael cyfweliad am swydd gyda’r BBC, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at reasonable.adjustments@bbc.co.uk gan nodi cyfeirnod y swydd yn y llinell pwnc. Rydym yn fwy na pharod i gael sgwrs gyfrinachol i drafod sut gallwn eich cefnogi drwy’r broses. Mae sawl ffordd y gallwn dderbyn ceisiadau ac addasu ein prosesau dethol i ddiwallu eich anghenion. P’un a fydd eich proses ddethol yn digwydd ar-lein neu wyneb yn wyneb, gallwn wneud addasiadau fel darparu isdeitlau ar Teams, rhoi mwy o amser i chi, neu addasu ein cwestiynau i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau posib.
Defnyddio deallusrwydd artiffisial yn y broses recriwtio
Yn y BBC, rydyn ni’n gwybod bod adnoddau fel deallusrwydd artiffisial yn gallu eich helpu i baratoi, rhoi trefn ar eich meddyliau a theimlo’n fwy hyderus wrth wneud cais am un o’n cyfleoedd i bobl ar ddechrau eu gyrfa. Ond chi sydd o ddiddordeb mawr i ni.
Rydyn ni eisiau clywed am eich profiadau, eich sgiliau, eich potensial a’r hyn sy’n eich cymell. Y ceisiadau cryfaf yw’r rhai sy’n adlewyrchu eich meddwl, eich cyflawniadau a’ch persbectif eich hun. Felly, er bod croeso i chi ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i gael cymorth, rydyn ni’n eich annog i wneud yn siŵr bod eich cais yn adlewyrchu eich llais eich hun ac yn adrodd eich stori.
Pryd y gall AI helpu eich cais:
Gall adnoddau deallusrwydd artiffisial fod yn ddefnyddiol pan gânt eu defnyddio’n foesegol ac yn dryloyw. Er enghraifft:
- Prawfddarllen a gwirio gramadeg - helpu i sicrhau bod eich cais yn glir ac yn hawdd ei ddeall
- Paratoi ar gyfer cyfweliadau neu weithgareddau asesu ar-lein - defnyddio AI i ymarfer cwestiynau cyffredin neu fagu hyder
- Egluro gwybodaeth am gynlluniau a rolau yn y disgrifiad swydd - gofyn i AI esbonio termau neu ofynion anghyfarwydd
- Ymchwilio i yrfaoedd, teitlau swyddi a’r diwydiant – eich helpu i ddysgu mwy am y rôl, y tîm neu’r sector
- Rhoi trefn ar eich meddyliau - eich helpu i strwythuro syniadau cyn ysgrifennu eich ymatebion eich hun
Mae'r rhain yn eich helpu i gyflwyno eich hun ar eich gorau, nid fersiwn rhywun arall ohonoch.
Pryd na ddylid defnyddio deallusrwydd artiffisial:
Gofynnwn i chi osgoi defnyddio AI mewn ffyrdd sy’n cuddio eich gwir lais neu’n camliwio eich galluoedd:
- Llunio ymatebion i gwestiynau cais nad ydynt yn adlewyrchu eich profiadau, eich sgiliau neu’r hyn sy’n eich cymell
- Cyflwyno atebion a ysgrifennwyd gan AI ar unrhyw gam o’r broses ymgeisio
- Defnyddio AI i gwblhau asesiadau ar-lein sydd wedi’u cynllunio i werthuso eich sgiliau, eich barn neu’ch potensial eich hun
- Defnyddio AI i ddynwared eich llais, eich delwedd neu eich ymatebion mewn cyfweliadau fideo, sain neu fyw
- Dibynnu ar AI i ffugio cyflawniadau, sgiliau, cymwysterau neu brofiadau
Os ydyn ni’n amau bod AI wedi cael ei ddefnyddio i gynhyrchu cynnwys cais neu asesu, gall effeithio ar sut mae eich cais yn cael ei asesu.
Beth rydyn ni’n ei werthfawrogi fwyaf:
Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n dod â chwilfrydedd, gonestrwydd a gwreiddioldeb i’w gwaith. Mae hynny’n dechrau gyda sut rydych chi’n gwneud cais. Defnyddiwch AI i gefnogi eich paratoadau, nid i greu eich cais ar eich rhan. Gadewch i’ch llais go iawn ddisgleirio, oherwydd dyna pwy rydyn ni eisiau dod i’w adnabod.
Amdanom ni
O Wasanaeth Cyhoeddus y BBC i BBC Studios, darganfyddwch sut rydym yn creu cynnwys o safon fyd-eang sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.Bywyd yn y BBC
Dysgwch fwy am ein manteision, ein diwylliant gweithio, ein gwerthoedd a sut rydym yn hyrwyddo cynhwysiant.Ein gwerthoedd
Rydym wedi sefydlu set o werthoedd ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y BBC. Rhagor o wybodaeth.