Archifau 12 Ionawr 2010

Archeb Chinese Unnos

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|23:13, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Robbie - king prawn hefo garlleg

Alex - beef curry hefo noodles

Ed - cyw iawr sechuan hefo noodles

Dyl - sweet and sour hefo reis

Tony - king prawn hefo reis

Gareth - curry cyw iar hefo reis

Huw E - cyw iar sechuan hefo reis

Gweddillion y bwyd

Rhagor o luniau o'r noson

Sesiwn Coffi Unnos

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|22:10, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

"Ie, pot arall o goffi mlaen plîs, a ma Ed angen 100 Freddo bar efo'r caramel di tynnu allan cyn iddo fynd yn agos i'r stiwdio."

Ma pethe'n symyd ymlaen yn reit llyfn yma ym Mangor, fel milgi di lapio mewn sidan yn yfed siocled poeth. Mae'r grŵp wedi rhannu'n ddau efo Robbie ag Alex yn y stiwdio yn paratoi'r offerynnau tra bod Ed a Toni Hoax di bod yn pori trwy 'nghasgliad recordiau yn dewis gwahanol gerddoriaeth i samplo.

Dwi'n rhagweld sŵn rhyngwladol yn datblygu efo'r 'ogia yn cymryd synnau o Ffrainc, Twrci, Siapan, Awstralia, Sbaen ag America. Dwi 'di clywed termau fel 'jump on it', 'slammer', 'fierce' a 'flow' yn cael eu sibrwd rhwng Ed a Toni Hoax, ac er bod gen i ddim syniad am be ma nhw'n siarad mae'r holl beth yn swnio'n gyffrous iawn - yn 'TEW' hyd yn oed.

Well i fi fynd, ma Robbie a Dyl Mei yn dadle dros y scotch egg ola a ma gynnai deimlad fod Ed yn trio dwyn fy records i gyd, er falle bo fi'n bod yn paranoid ar ôl yfed gormod o goffi, ond dwi'm yn meddwl bo fi, ma pawb yn edrych arno fi'n rhyfedd a dwi'n siwr bo fi'n gweld negeseuon mewn teitlau rhai o'r albyms Cymraeg ar y wal yn y llyfrgell sain. Dwi ddim di clywed albwm Delwyn Sion "Ma nhw gyd yn trio dwyn records ti, cer i guddio a bydda'n barod i amddiffyn dy hun mewn unrhyw ffordd posib" ond dwi'n siŵr fod na ambell i gân da arno fe.

Faint or gloch yw e?

...

Huw

Unnos hyd yma

Categorïau:

Gareth Iwan|21:19, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Wel, ma hi'n 21:19. Be sy di digwydd hyd yma? Wel, fel glywsoch chi gobeithio ar raglen Magi, da ni wedi dechrau!!

Erbyn hyn, mae'r criw wedi torri yn ddau grwp. Mae Ed Holden a Hoax yn y stiwdio fach hefo Huw Evans yn gwrando ar samples - dyna fydd "asgwrn cefn" y traciau. Ar ôl dewis pa samples ma nhw am eu defnyddio, mi fydda nhw yn mynd â'r rheini a'u defnyddio nhw fel "backing tracks" i'r caneuon, ac mi fydd Ed a Hoax yn rapio dros y caneuon, ac Alex yn chwarae'r drymia a Robbie yn chwarae'r bâs. Dyna lle mae Alex a Robbie rwan - yn ymarfer a gwneud profion sain.

Gobeithio fod hynny'n gwneud ryw fath o synnwyr...

Gar

Y criw yn y stiwdio yn siarad gyda Magi

Rhagor o luniau o'r noson

Croeso i Sesiwn Unnos

Categorïau:

Criw C2Criw C2|20:42, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Mae'r artistiaid wedi cyrraedd ac ar eu ffordd i'r stiwdio...

Dyma Huw Evans yn eu croesawu i'r Sesiwn Unnos gynta - ymgais i gyfansoddi a recordio EP mewn un noson!

Mwy o ddiweddariadau i ddod yn ystod y nos, a chadwch lygad ar y gwegamera yn y stiwdio.

Sesiwn Unnos ar fin cychwyn!!

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|17:45, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Wedi cyrraedd Bangor ar ôl siwrne unig ar y trên yn darllen Crash gan J G Ballard. O'n i'n falch iawn i gyrraedd ar ôl teimlo'n hun yn ymgolli yn y nofel a dechre dychmygu'r trên yn cal damwain erchyll a fi a'r hen fenyw o 'mlaen i yn cael ein taflu i'r llawr ac yn gorwedd mewn pwll o smoothie, mwg a gwydr di smasho...



Dwi yma i gychwyn gwaith ar gyfres newydd sbon or enw 'Sesiwn Unnos'; da ni'n recordio'r rhaglen gyntaf heno efo Mr Phormula (Ed Holden) a Hoax (Anthony Robinson) o Pentagram a Robbie Buckley (sy ddim yn berthyn i Tim na Jeff) o Gwibdaith Hen Fran.

Cyn i fi egluro be yn union sy'n digwydd yn y gyfres, dyma mae Wikipedia, y ffynhonnell ddwfn o wybodaeth sydd wastad efo un neu ddau o newyddiadurwyr Golwg o'i amgylch yn trio ffeindio allan os mai Mari Lovgreen yw merch Ian Mcshane, i ddeud am dai Unnos...

"It was believed by some, that if a person could build a house on common land in one night, that the land then belonged to them as a freehold. There are other variations on this tradition: that the test was to have a fire burning in the hearth by the following morning; and that the squatter could then extend the land around by the distance they could throw an axe from the four corners of the house."

Felly, yn syml, y syniad yw adeiladu tŷ cerddorol yn y BBC ym Mangor, rhoi'r lle ar dân, taflu bwyell o ddrysau'r prif fynedfa a gweddio i Dduw fod e ddim yn diweddu ym mron un o fyfyrwyr prif ysgol Bangor... neu rwbeth fe'lna.

Mae'r cerddorion yn cyrraedd am 7yh a ma gyno nhw tan 9 y bore i recordio EP o gerddoriaeth gwreiddiol wedi cyfansoddi yma yn HQ darlledu Cymraeg gogleddol y genedl. Syml... falle. Tra bod hyn yn digwydd mi fydd yna rywun hefyd yn creu gwaith celf gwreiddiol i'r EP tra bo fi yn rhedeg ogwmpas yn yfed coffi ag yn gneud cyfweliadau difyr am 4 o'r gloch y bore. Syml eto... falle.

Bob wythnos fe fydd yna gasgliad o gerddorion yma yn cydweithio'n frwd ag yn trio creu EP gwreiddiol fydd yn galluogi nhw i hawlio darn o dir yng ngwlad gwyrdd a ffrwythlon cerddoriaeth cyfoes Gymraeg.

Dwi'n edrych ymlaen yn arw at gychwyn a gweld sut ma pobol yn ymateb i fi'n rhoi meicroffon yn eu gwynebau nhw am 4 o'r gloch y bore tra bo nhw'n trio recordio solo allweddellau am y 43fed take gydag un o'r cerddorion eraill yn gweiddi yn eu gwynebau nhw "JUST PLAY THE NOTE!!!"

Reit, dwi'n mynd i weld sut fath o fwyd sydd yng nghantîn y BBC, os dwi methu cal soya milk decaf machiato ma na fwyellau yn mynd i ddechre hedfan.

Huw Evans, gyferbyn â desg Jonsi, BBC Bangor, Bangor.

Yr Hen a Wyr, Llwybr Llaethog a Dybia.

Daniel Glyn|17:45, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Sylwadau (0)



Felly, 'na lle 'ma pawb yn Nghymru yn penderfynu bod yn gall yn mis Ionawr a chadw'n glir o alcohol, a be sy'n digwydd? I e, dyna ni, thema gerddorol c2 yr wythnos hon yw diodydd. Dwi ar hyn o bryd yn ceisio canolbwyntio ar Ddwr Huw Jones ( ychwangewch bunchline lle bo'r angen). Ond faint fydd hi nes imi ddechrau obsesio am Gwin, Mwg a Merched Drwg Meic Stevens? (gweler y parenthesis uchod)? Byddwch yn gryf Gymru, pwyll pia hi ac yn y blaen. Ar nodyn ysgafnach, fydd hyn yn golygu ein bod yn cael wythnos o'r pop gorau ar c2? Dwi am newid paragraff er mwyn pellhau fy hun o'r gag dwetha.

Phew, na welliant, sori am hyna. Am bump awr o nos Lun i nos Wener mae c2 yn darlledu 23 awr o fwythad clywedol bob wythnos. A dwi ar yr awyr rhwng 11-1 bob Nos Fercher. Ond neb i grio, achos bob wythnos mae 'na westeon arbennig yn dod ag urddas i'r sioe. A'r wythnos hon, mae aelod o'r teulu brenhinol am ddod i'r stiwdio. (Sai'n son am un o'r rhai o Blas Bwcingham, ond yn hytrach 'old skool brenhinol', fel y bachan Llywelyn gath ei killo gan Mary). Mae Tywysog Cynta' cerddoriaeth ddawns a dub , John 'Llwybr Llaethog' Gedru yn galw acw. Llwybr Llaethog oedd y band cynta i doddi fy ymenydd gyda synnau electronig, a dwi wedi bod yn gaeth i synnau gwirion ers hynny. I ddyfynnu y ravers oedd yn dod lawr o'r Cymoedd yn 1991 i ddawnsio i techno "No Vocal, Less Piano, More Bass! (Roedd hyn cyn ffrwydriad yr iaith Gymraeg yn y Cymoedd. 'Dyddiau 'ma 'se nhw'n defnyddio geiriau Cymraeg. 'Dim Focals, Llai o Biano, a Mwy o Fas !).



Felly gwrandewch, 'da chi, a wedyn gwrandewch eto ar yr Iplayer. Fydd e'n sbort.

Dizzee Rascal

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|17:37, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Gan obeithio fod y ddegawd newydd wedi bod yn iawn i chi hyd yn hyn. Er bo' fi wedi cwmpo ar fy mhen ôl tra'n dal potel o win (gwyn, diolch byth) ar y ia, mae'n iawn pen yma. Nes i droi yn lysieuwr wthnos dwytha mewn camgymeriad. Nes i anghofio byta cig, ac roedd y profiad yn un pleserus. Nes i ddathlu troi yn lysieuwr drwy fyta ribs eitha anhygoel.

Fi wedi bod yn sefyll mewn i gyflwynwyr sâl ar Radio 1 eitha tipyn eleni, a wedi bod yn gneud rhaglen Zane Lowe yn y nos. Roedd cyd-gyflwyno gyda Dizzee Rascal yn brofiad anhygoel; do'n i erioed yn meddwl fydden i'n dj i Dizzee, un o'r rapwyr gore yn y byd. Ond fi oedd yn chware'r caneuon mewn iddo ac yn 'gollwng y boms' (hei, fi lawr gyda'r lingo hip hop a dim 'whare).

Yn ddiweddar mae dwy fersiwn o ganeuon Super Furry Animals wedi cyrraedd palas C2.

Mae modd clywed fersiwn hyfryd Dileu o Gwreiddiau Dwfn ar fy rhaglen nos Lun wythnos yma, a dyma fersiwn Ysgol Pendalar o Rings Around the World; Cylchoedd Rownd y Byd. Fideo da hefyd!