Mae'r Sesiwn Unnos gyntaf wedi dod i ben! Mae Ed, Toni, Alex a Rob wedi diflannu i lenwi eu boliau efo brecwast llawn, ac yna dal i fyny efo'u cwsg.
Mae traciau'r sesiwn, a'r clawr gorffenedig, bellach wedi eu rhyddhau ar wefan C2 - ewch draw i wrando arnyn nhw. Beth ych chi'n feddwl? Postiwch eich ymateb yn y blwch sylwadau isod!
A chofiwch wrando ar y rhaglen arbennig gyda holl hanes y noson heno am 10pm ar Radio Cymru ac ar iPlayer.

Rhagor o luniau o'r noson
M a e' r n........os....on wedi >>>>>>>> doooooood i b e n erbyn h y n.
D w i w e di bl i n o.
Reit, digon o hyne. Newydd gwpla ein Unnos cyntaf ag wedi 'joio mas draw'. Yn anffodus mae rhai o'r cerddorion wedi colli'u meddylie nhw'n llwyr. Mae Ed Holden wedi newid ei enw i Wedi Bin a mae Toni Hoax mor flinedig mae'i lygad chwith wedi troi mewn i glustog; tydi Robbie Gwibdaeth ddim i'w weld yn rhy ddrwg ac ma Alex Moller yn cysgu ar lygad Toni Hoax.
Ma nhw wedi llwyddo recordio 3 cân sydd yn swnio'n gyffrous os efallai ychydig yn gracellog (tud 323 o eiriadur yr Academi) ac wedi gorfod rhoi'r gore i'r bedwerydd yn dilyn dadl dros pwy yw gwir berchennog y bensil hud nath Alex ffeindio ar y llawr - hynny a blinder cyffredinol.
Dwi'n mynd i'r gwely nawr.
Unnos da.
Huw
Dwi nôl, ychydig yn gynt na'r disgwyl oherwydd mae'r criw wedi rhoi'r ffidil yn y to. Gewch chi glywed pam am 10pm heno ar C2 Radio Cymru!!
Tara
Gar

Rhagor o luniau o'r noson
Wel, da ni'n agos iawn iawn at y diwedd. Ma na 3 trac allan o'r 4 wedi eu gorffen, a ma Ed a Hoax yn rapio ar yr ola rwan. Croesi bysedd, mi fydda ni wedi cymysgu erbyn 7.30am, ac mi fydd y cwbl ar wefan C2 erbyn 9am. Gobeithio...
Nos da/bore da
Gar
... achos da ni di gorffen 2 gân - wedi eu cymysgu, llosgi ar CD. Mae'r gwaith recordio wedi ei wneud ar y drydydd, ond mae angen cymysgu. Mae'r tracia rhythm (dryms a bâs) i lawr ar y bedwaredd, ond dim rapio. Ma na lai na dwy awr i fynd, a ma pawb di blino.
Gar
Cân gyntaf y sesiwn wedi'w gwbwlhau ac mae'n swnio'n soniarus tu hwnt. Mae hi bellach yn 3:19 a dwi'n dioddef rhyw fath o grash siwgwr difrifol. Ma 'nwylo fi'n ysgwyd mwy na hanner cynulleidfa Noson Lawen a dwi di dechre gweld synnau. Bob tro dwi'n taro botwm ar yr allweddell ma ffrwydriadau amryliw o belydrau wybrennol yn tasgu i bob man, man.
Difyr oedd gweld agweddau'r ddau MC gwahanol at sgwennu gyda Mr Phormula yn sgwennu am y foment ac yn gneud fwy o 'freestyle' tra bo Toni Hoax yn eistedd ac yn pendroni am bron i awr am beth i ganu. Mae esgyrn y ddwy gân arall wedi'w recordio felly tra bod pawb yn penderfynu pa fath o gig i ychwanegu dwi di dod nôl i'r swyddfa i sgwennu blog / gwrando ar Meic Stevens / cal rhithweledigaethau brawychus.
Mwy o siwgwr yw'r ateb, fel nath sawl sgwâr pesimistig ddeud ar ddiwedd 1969, "what goes up..." - gorfod mynd yn uwch i osgoi ddod lawr yndife gw boi.
Llaeth, 4 siwgwr plîs...
Diolch yn fawr
Huw Evans
Phew, dwi chydig hapusach erbyn hyn. Mae un gân wedi ei gorffen - am 2.20yb. Mae Alex a Robbie wedi rhoi tracia rhythm i lawr ar ddwy arall, felly dwi chydig mwy gobeithiol nag o'n i awr yn ôl.
Da
Gar
Wedi ffeindio'r record, odd hi yn y bag o dan y mag! Sori Ed...siwpar LOL!!!
GWIR YN FY AMHEUON...
Dwi ddim yn bod yn paranoid, ma rhywun wedi dwyn un o'n records i, dwi'n siŵr bo nhw wedi, na - dwi'n gwbod bod nhw wedi. Ers dechrau amau Ed am oddeutu 10:09pm dwi wedi bod yn cadw cofnod bob hyn a hyn o ddigwyddiadau mewn-fagiol i neud yn siŵr bod y record dal yn fy mag. Dyma'r 5 cofnod diwethaf:
1:15 - Y record yn fy mag
1:20 - Y record yn fy mag
1:30 - Y record yn fy mag
1:42 - Dim record yn fy mag
1:42 - Mag yn fy mag
Fel allwch chi weld mae rwbeth mawr wedi digwydd rhwng 1:30 a 1:42; y rwbeth dan sylw yw fod record 7" Los Pasos wedi diflannu o'r bag a ma 'na gopi o gylchgrawn Golwg yna yn ei le. Dwi ar hyn o bryd yn ystyried beth yw'r peth gorau i neud, gwynebu Ed a mynnu gwbod y gwir neu aros tan y bore - er bo fi'n poeni am y record dwi hefyd yn amau fod y 6 cwpan o goffi, 2 Kitkat, candy floss a photel o Irn-Bru o bosib yn neud fi ychydig yn afresymol.
O ran y gerddoriaeth ma pethau'n mynd yn dda, y trac cyntaf wedi'w gwbwlhau ac yn swnio'n wych. Gath Toni Hoax chydig o drafferth yn sgwennu geiriau ond mae bellach wedi sgwennu rhai a rhoi nhw ar dâp, a thra bod hyn yn digwydd ma Alex a Robbie di bod yn brysur yn cyfansoddi cân rhif dau. Cyffrous.
Hwn yw'r tro cyntaf i mi gwrdd â Toni Hoax a ma rhaid i mi gyfaddef dwi di cymryd dipyn o shein i'r boi, yn enwedig ei enw... TONI HOAX. Dwi'n meddwl ddylse fe ailystyried ei yrfa fel MC Cymraeg, ymuno â'r Cylch Hud, a dod yn gonsuriwr teledu i S4C. Mae'n hen bryd i ni cal fersiwn dyn tlawd Cymraeg o Darren Brown a dwi'n meddwl mai TONI HOAX di'r boi.
I fynd yn ôl at y gerddoriaeth am eiliad, heb glywed esgyrn yr ail gân ond ma'r gân gyntaf yn swnio fel A Tribe Called Quest ar gwrs Wlpan yn Sbaen yn ymlacio i gerddoriaeth Gabor Szabo tra bod Robbie Gwibdaith yn canu yn y cawod.
Llachar.
Huw
Mae hi'n tynnu at un o'r gloch y bore, a ma petha braidd yn araf ar hyn o bryd. Tydi lwpio'r samplau ddim wedi bod mor hawdd â'r gobaith, felly ar hyn o bryd dim ond samplau + drymia + bâs sydd i lawr ar y gân gyntaf. Mae dal angen rapio + synths. Poeni braidd. Ed yn meddwl bydd rhaid newid y ffordd o weithio a recordio mwy o Robbie ac Alex yn fyw, a dibynnu llai ar samplau. Cawn weld.
Gar