Eithafiaeth a chynllwynio gwleidyddol 1929-1932
Arweiniodd y Dirwasgiad Mawr nid yn unig at argyfwng economaidd, ond at argyfwng gwleidyddol hefyd. Cafwyd tri etholiad cyffredinol rhwng 1930 ac 1932. Doedd y llywodraethau clymblaid gwan yn y ReichstagYr enw ar Senedd yr Almaen. ddim yn gallu delio’n effeithiol â’r problemau a wynebent a methodd pob un.
Penodi Hitler yn Ganghellor

Mae rôl yr Arlywydd Paul von Hindenburg yn ganolog i’r stori o benodi Hitler yn CanghellorYng Ngweriniaeth Weimar, y Canghellor oedd pennaeth y llywodraeth, wedi’i benodi gan yr Arlywydd.. Erbyn 1932 roedd rhaid i’r Arlywydd Hindenburg ddefnyddio Erthygl 48Y Canghellor yn gallu rheoli heb y Reichstag mewn cyfnod o argyfwng. i basio pob deddf bron.
1932
Ebrill - Etholiad arlywyddol. Daeth Hitler yn ail i Hindenburg. Enillodd hwnnw 53 y cant o’r bleidlais yn erbyn 36.8 y cant Hitler.
Mai - llywodraeth Brüning yn amhoblogaidd iawn ac fe ymddiswyddodd. Hindenburg yn penodi Franz von Papen, ceidwadwr, i gymryd ei le.
Gorffennaf - Etholiadau’r Reichstag. Y Natsïaid bellach oedd y blaid unigol fwyaf gyda 230 o seddi, ond yn dal heb fwyafrif. Hitler yn mynnu cael swydd y Canghellor ond von Papen yn aros.
Tachwedd - gorfodwyd Papen i alw etholiad arall i’r Reichstag i geisio ennill mwyafrif yn y senedd. Collodd y Natsïaid 34 o seddi ond yn dal i fod y blaid fwyaf gyda 196 o seddi. Awgrymodd Papen y dylid diddymu cyfansoddiad Weimar. Arweiniodd hyn Kurt von Schleicher, y Gweinidog Amddiffyn, i ddarbwyllo Hindenburg petai hyn yn digwydd y gellid cael rhyfel cartref.

Rhagfyr - Wedi colli hyder Hindenburg, ymddiswyddodd Papen. Wedyn gwnaed Schleicher yn Ganghellor ar 3 Rhagfyr 1932. Schleicher yn ceisio hollti’r Natsïaid trwy ofyn i Natsi blaenllaw o’r enw Gregor Strasser fod yn Is-Ganghellor iddo. Hitler yn gorfodi Strasser i wrthod.
1933
Ionawr - Cytunodd Papen ar fargen gyda Hitler a pherswadiodd Hindenburg i ganiatáu ffurfio llywodraeth Hitler/Papen. Penodwyd Hitler yn Ganghellor yr Almaen ar ôl cryn dipyn o gynllwynio gwleidyddol ar 30 Ionawr 1933 gyda Papen yn Is-Ganghellor. Roedd y Natsïaid newydd golli 34 o seddi a dim ond tair o’r 11 swydd yn y cabinet a roddwyd i'r Natsïaid. Credai Papen y gellid rheoli Hitler fel Canghellor.