Diagramau VennDiagramau Venn sydd ddim yn gorgyffwrdd
Mae diagramau Venn yn adnodd defnyddiol ym myd ystadegau. Unwaith y byddi’n gyfarwydd â’r rhain, byddi’n gallu rhoi trefn ar bob math o grwpiau a setiau.
Weithiau nid oes gan y setiau unrhyw elfennau’n gyffredin.
Engraifft
Chwiorydd yw Leah a Kelly ac nid oes ganddyn nhw unrhyw ddiddordebau’n gyffredin. Mae Leah yn hoffi darllen, darlunio a chwarae pêl-rwyd, tra bod yn well gan Kelly wrando ar gerddoriaeth, dawnsio a sglefrio. Pe baen ni’n llunio hyn ar ddiagram Venn, byddai’n rhaid i ni lunio cylchoedd ar wahân.
Question
Rhestra’r eitemau yn Set A a Set B.
Set A = {12, 14, 15, 16, 17, 18, 20, 22}
Set B = {16, 17, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 28}
Question
Rhestra’r croestoriad a’r uniad yn y diagram Venn canlynol.