Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects
  • Rhif

    • Ffracsiynau a chanrannau

      Mae ffracsiynau a chanrannau’n cynrychioli rhan o rif cyfan. Gallwn eu defnyddio i gynyddu neu leihau gwerth yn ôl cyfran benodol.

    • Cymhareb

      Mae cymhareb yn dangos y berthynas rhwng dau werth. Gallan nhw fod mewn cyfrannedd union ac yn cynyddu wrth i'r llall gynyddu neu mewn cyfrannedd gwrthdro; mae un yn cynyddu wrth i'r llall leihau.

    • Amserlenni

      O gynllunio taith ar fws neu drên i drefnu beth i'w wylio ar deledu neu archebu gwyliau haf, mae amserlenni yn ein helpu i ganfod ein ffordd drwy’r byd ac i gynllunio ein hamser.

    • Cyllid personol

      Trwy agor dy gyfrif banc dy hun neu drwy reoli dy arian yn llwyddiannus, byddi’n dysgu sut i ymdrin â dy gyllid personol yn ofalus a sicrhau dy fod yn gallu rheoli ad-daliadau ar fenthyciadau.

    • Cyllid y cartref

      Gall prynu neu rentu cartref fod yn dasg ddrud. Bydd meddwl am y fathemateg y tu ôl i gyllid y cartref yn dy helpu yn y dyfodol pan fyddi di'n symud i mewn i dy eiddo dy hun.

    • Newid canrannau

      Gallwn ddefnyddio canrannau i gynyddu neu leihau swm mewn perthynas â’i faint, ee siopau’n tynnu canran oddi ar eu prisiau a’r llywodraeth yn cynyddu cost nwyddau trwy ychwanegu treth ganrannol.

    • Arian tramor a chyfraddau cyfnewid

      Pan fyddi di’n mynd dramor, bydd yn rhaid i ti newid dy arian. Mae’n bwysig dy fod yn gwybod y gyfradd gyfnewid a'r ffi gomisiwn sy’n rhaid i ti ei thalu er mwyn cael y fargen orau bosib.

    • Cyllid busnes

      Mae mathemateg a chyllid yn chwarae rhan allweddol ym myd busnes. Tybed ai ti fydd yr entrepreneur nesaf i wneud dy filiynau?

    • Mesuriadau bras - Canolradd ac Uwch

      Mae mesuriadau’n hanfodol ar gyfer nifer o grefftau a gyrfaoedd. Os wyt yn deall mai ffigur bras yw pob mesuriad, gallai dy rwystro rhag gwneud unrhyw gamgymeriadau.

    • Diagramau Venn

      Mae diagramau Venn yn adnodd defnyddiol ym myd ystadegau. Unwaith y byddi’n gyfarwydd â’r rhain, byddi’n gallu rhoi trefn ar bob math o grwpiau a setiau.

Links