Mynegiadau cwadratig - Canolradd ac UwchFfurfio hafaliadau cwadratig

Defnyddir hafaliadau cwadratig yn aml yn algebra, er enghraifft wrth ddisgrifio mudiant taflegryn. Dysga sut i ffurfio a thrin hafaliadau cwadratig a sut i’w datrys gydag amryw o ddulliau gwahanol.

Part ofMathemategAlgebra

Ffurfio hafaliadau cwadratig

Weithiau mae’n rhaid i ni ffurfio hafaliadau cwadratig i’n helpu i ddatrys problemau.

Enghraifft

Petryal gyda’r hyd wedi ei labelu â '(x + 2)' a’r lled wedi ei labelu â '(x-3)'.

Dyma betryal gyda hyd un ochr yn (\({x}\) – 3) a hyd yr ochr arall yn (\({x}\) + 2). Canfydda fynegiad ar gyfer arwynebedd y petryal.

Ateb

I ddatrys y broblem hon, rhaid i ni wybod mai arwynebedd blwch yw’r lled wedi ei luosi â’r uchder. Os ydyn ni’n gwybod hynny, gallwn ddweud:

arwynebedd = (\({x}\) – 3)(\({x}\) + 2)

Drwy ehangu’r cromfachau, cawn

\({x}\)2 – 3\({x}\) + 2\({x}\) - 6 = \({x}\)2 – \({x}\) – 6

Rydyn ni wedi ateb y cwestiwn trwy ffurfio’r cwadratig \({x}\)2 – \({x}\) – 6, sy’n fynegiad ar gyfer arwynebedd y blwch.

Question

Mae sgwâr gydag arwynebedd 5 cm2 yn cael ei dorri allan o sgwâr sydd â’i ochrau’n hafal i (\({x}\) + 3) cm. Ysgrifenna fynegiad ar gyfer arwynebedd y siâp sydd ar ôl.