Y system resbiradol mewn bodau dynolYmchwilio i resbiradaeth

Adwaith cemegol sy’n rhyddhau egni o fwyd yw resbiradaeth. Mae’r system resbiradol yn cyfnewid y nwyon sy’n cymryd rhan yn adwaith resbiradaeth.

Part ofBiolegCelloedd, systemau organau ac ecosystemau

Ymchwilio i resbiradaeth

Gallwn ymchwilio i resbiradaeth gan organebau byw drwy gynnal arbrofion i ddangos cynhyrchiad carbon deuocsid a gwres.

Gallwn ni ddefnyddio dŵr calch i ganfod carbon deuocsid.

Arbrawf resbiradaeth yn defnyddio dŵr calch mewn tiwb profi. Cam 1: Pibell â'r label nwy carbon deuocsid yn mynd i mewn i'r tiwb profi, swigod yn y dŵr calch. Cam 2: y dŵr calch yn troi'n llaethog.

Os caiff swigod carbon deuocsid eu gyrru drwy , mae’n newid lliw o glir i gymylog/llaethog. Dyma pam mae defnyddio dŵr calch mewn resbiromedr yn gallu dangos bod mwy o garbon deuocsid yn bresennol mewn aer sy’n cael ei allanadlu nag mewn aer sy’n cael ei fewnanadlu.

2 diwb profi, y ddau'n cynnwys dŵr calch clir, wedi'u labelu'n A a B. Mae system o bibellau wedi'u labelu'n Darn ceg yn cysylltu'r tiwbiau profi.

Mae anadlu i mewn drwy’r darn ceg yn tynnu aer o’r atmosffer i mewn drwy diwb A. Mae anadlu allan drwy’r darn ceg yn gyrru swigod o aer wedi’i allanadlu drwy diwb B. Ar ôl rhai anadliadau, bydd y dŵr calch yn nhiwb B yn troi’n gymylog gan fod mwy o garbon deuocsid yn yr aer wedi’i allanadlu.

Question

Os yw aer sy’n cael ei fewnanadlu’n cynnwys 0.04% carbon deuocsid ac aer sy’n cael ei allanadlu’n cynnwys 4%, sawl gwaith mwy o garbon deuocsid wyt ti’n ei anadlu allan nag rwyt ti’n ei anadlu i mewn?

Ymchwilio i gynhyrchu gwres

Gallwn ni ddangos rhyddhau gwres drwy gynnal arbrawf â hadau sy’n . Rydyn ni’n defnyddio dwy fflasg wactod.

Mae resbiradaeth aerobig yn cael ei astudio trwy arbrawf sy'n edrych ar pys sy’n egino yn colli gwres wrth resbiradu.