Celloedd
Mae anifeiliaid a phlanhigion yn organebau amlgellog – yn cynnwys llawer o cellUned sylfaenol bywyd. Dim ond un gell sydd gan organebau ungellog. Mae gan organebau amlgellog lawer o gelloedd. sy’n gweithio gyda’i gilydd.
Adeiledd cell anifail
Prif rannau cell anifail yw’r cnewyllyn, y gellbilen, y cytoplasm a’r mitocondria.
Adeiledd cell planhigyn
Mae celloedd planhigion yn cynnwys yr un nodweddion â chelloedd anifeiliaid. Mae ganddyn nhw rai nodweddion ychwanegol hefyd:
- cloroplastau
- cellfur wedi’i wneud o gellwlos
- gwagolyn mawr canolog
Crynodeb o’r nodweddion sydd mewn celloedd a’u swyddogaethau.
| Rhan | Swyddogaeth | Yn bodoli mewn |
| Cellbilen | Rheoli symudiad sylweddau i mewn ac allan o’r gell | Celloedd planhigyn ac anifail |
| Cytoplasm | Sylwedd tebyg i jeli, lle mae adweithiau cemegol yn digwydd | Celloedd planhigyn ac anifail |
| Cnewyllyn | Cynnwys gwybodaeth genetig a rheoli beth sy’n digwydd y tu mewn i’r gell | Celloedd planhigyn ac anifail |
| Mitocondria | Dyma lle mae resbiradaeth yn digwydd, gan ryddhau egni i’r gell | Celloedd planhigyn ac anifail |
| Gwagolyn mawr canolog | Mae’n cynnwys hylif o’r enw cellnodd, sy’n cadw siâp y gell | Celloedd planhigyn yn unig |
| Cellfur | Wedi’i wneud o sylwedd gwydn o’r enw cellwlos, sy’n cynnal y gell | Celloedd planhigyn yn unig |
| Cloroplastau | Mae'r rhain yn cynnwys y pigment gwyrdd cloroffyl sy’n amsugno egni golau. Dyma lle mae ffotosynthesis yn digwydd | Celloedd planhigyn yn unig |
| Rhan | Cellbilen |
|---|---|
| Swyddogaeth | Rheoli symudiad sylweddau i mewn ac allan o’r gell |
| Yn bodoli mewn | Celloedd planhigyn ac anifail |
| Rhan | Cytoplasm |
|---|---|
| Swyddogaeth | Sylwedd tebyg i jeli, lle mae adweithiau cemegol yn digwydd |
| Yn bodoli mewn | Celloedd planhigyn ac anifail |
| Rhan | Cnewyllyn |
|---|---|
| Swyddogaeth | Cynnwys gwybodaeth genetig a rheoli beth sy’n digwydd y tu mewn i’r gell |
| Yn bodoli mewn | Celloedd planhigyn ac anifail |
| Rhan | Mitocondria |
|---|---|
| Swyddogaeth | Dyma lle mae resbiradaeth yn digwydd, gan ryddhau egni i’r gell |
| Yn bodoli mewn | Celloedd planhigyn ac anifail |
| Rhan | Gwagolyn mawr canolog |
|---|---|
| Swyddogaeth | Mae’n cynnwys hylif o’r enw cellnodd, sy’n cadw siâp y gell |
| Yn bodoli mewn | Celloedd planhigyn yn unig |
| Rhan | Cellfur |
|---|---|
| Swyddogaeth | Wedi’i wneud o sylwedd gwydn o’r enw cellwlos, sy’n cynnal y gell |
| Yn bodoli mewn | Celloedd planhigyn yn unig |
| Rhan | Cloroplastau |
|---|---|
| Swyddogaeth | Mae'r rhain yn cynnwys y pigment gwyrdd cloroffyl sy’n amsugno egni golau. Dyma lle mae ffotosynthesis yn digwydd |
| Yn bodoli mewn | Celloedd planhigyn yn unig |