Polisi tramor HitlerAnschluss Awstria, Mawrth 1938

Pa ffactorau wnaeth arwain at ddechreuad y rhyfel yn 1939?

Part ofHanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Anschluss Awstria, Mawrth 1938

Map yn dangos lleoliad yr Almaen, Awstria, y Rheindir a Sudetenland
Figure caption,
Map yn dangos yr Anschluss gydag Awstria

Roedd Hitler eisiau i bob cenedl Almaeneg ei hiaith yn Ewrop fod yn rhan o’r Almaen. I’r perwyl hwn, roedd ganddo gynlluniau i ailuno’r Almaen â’i famwlad, Awstria. Ond dan delerau Cytundeb Versailles, gwaherddid uno’r Almaen ac Awstria.

Roedd Hitler hefyd eisiau rheolaeth dros yr ardal Almaeneg ei hiaith i raddau helaeth o fewn Tsiecoslofacia, sef y Sudetenland. Yn bwysig, roedd Awstria’n rhannu ffin â’r ardal hon.

Mewn ymgais i wireddu ei amcanion, roedd Hitler yn benderfynol o ansefydlogi Awstria a thanseilio’i hannibyniaeth. Ei nod yn y pen draw oedd Anschluss (uno) ag Awstria.

Y cipio aflwyddiannus

Ceisiodd Canghellor Awstria, Dollfuss, sathru’r Sosialwyr a’r Natsïaid – carfannau gwleidyddol a oedd yn ei dyb ef yn rhwygo’r wlad. Gwaharddodd Dollfuss y blaid Natsïaidd.

Yn 1934, gorchmynnodd Hitler Natsïaid Awstria i greu helynt yn y wlad. Trodd hyn yn ymgais i ddymchwel y llywodraeth. Llofruddiwyd y Canghellor Dollfuss ond methodd yr ymgais i gipio’r wlad am i fyddin Awstria gamu i mewn i gefnogi’r llywodraeth.

Yn 1934, roedd gan yr Eidal gytundeb gydag Awstria y byddai’n gwarchod Awstria rhag ymosodiadau oddi allan. Cadwodd yr unben Eidalaidd, Mussolini, at y cytundeb a symud lluoedd yr Eidal at ffin Awstria i atal Hitler rhag ymosod.

Digwyddiadau yn Awstria

Ceisiodd Canghellor newydd Awstria, Schuschnigg, ddiogelu’r wlad rhag ymosodiad gan yr Almaenwyr drwy geisio peidio â rhoi esgus i Hitler dros ymosod. Ceisiodd gydweithredu â Hitler gymaint ag y gallai.

Llofnododd Schuschnigg Gytundeb Almaen-Awstria 1936. Roedd y cytundeb hwn yn cydnabod annibyniaeth Awstria ond y pris oedd bod yn rhaid i bolisi tramor Awstria fod yn gyson ag un yr Almaen. Roedd y cytundeb hefyd yn caniatáu i Natsïaid ddal swyddi swyddogol yn Awstria. Gobaith Schuschnigg oedd y byddai hyn yn bodloni Hitler. Roedd yn anghywir.

Tanseiliwyd safle Schuschnigg yn 1936 wrth i Hitler a Mussolini ffurfioli Axis Rhufain-Berlin yn ystod eu cydweithio yn Rhyfel Cartref Sbaen (1936-39). Gyda’r Almaen a’r Eidal bellach yn gynghreiriaid cadarn, roedd Awstria wedi colli gwarchodaeth yr Eidal ac roedd yn agored i ymosodiad gan yr Almaen.

Yn 1938 ymwelodd Schuschnigg â Hitler yn ei loches haf yn Berchtesgaden, ger y ffin ag Awstria. Mynnodd Hitler bod y Natsïaid yn cael swyddi allweddol yn llywodraeth Awstria. Cyfaddawdodd Schuschnigg a gwnaed y Natsi Seyss-Inquart yn Weinidog Cartref.

Gorchmynnodd Hitler Natsïaid Awstria i greu cymaint o helynt a dinistr ag y gallent er mwyn rhoi pwysau ar Schuschnigg. Os gallai Hitler honni bod cyfraith a threfn ar chwâl yn Awstria gallai gyfiawnhau martsio milwyr Almaenig i mewn i Fienna i adfer yr heddwch – er gwaetha’r ffaith mai ef oedd yn gyfrifol am yr anhrefn yn y lle cyntaf.

Pedwar diwrnod ym mis Mawrth

Dydd Mercher 9 Mawrth 1938

Mewn gweithred enbyd, cyhoeddodd Schuschnigg refferendwm lle byddai pobl Awstria yn penderfynu drostynt eu hunain os oedden nhw am fod yn rhan o Almaen Hitler. Roedd Hitler yn gandryll. Pe byddai pobl Awstria yn pleidleisio yn erbyn ymuno â’r Almaen, byddai ei esgus dros orchfygu ar chwâl.

Dydd Iau 10 Mawrth 1938

Dywedodd Hitler wrth ei gadfridogion i baratoi i orchfygu Awstria. Gorchmynnodd Schuschnigg i ohirio'r refferendwm. Gan wybod na fyddai'n derbyn unrhyw gymorth oddi wrth yr Eidal, ac na fyddai Ffrainc a Phrydain yn ymyrryd yng nghynlluniau Hitler, ildiodd Schuschnigg. Gohiriodd y refferendwm ac ymddiswyddodd.

Gorchmynnodd Hitler Gweinidog Cartref Natsïaidd Awstria, Seyss-Inquart, i ofyn am help yr Almaen wrth ail-adfer trefn yn Awstria.

Dydd Gwener 11 Mawrth 1938

Dywedodd Hitler wrth Tsiecoslofacia nad oedd ganddyn nhw unrhyw reswm i boeni.

Dydd Sadwrn 12 Mawrth 1938

Gorymdeithiodd milwyr yr Almaen i mewn i Awstria heb unrhyw wrthwynebiad. Roedd Hitler bellach yn rheoli Awstria. Fis yn ddiweddarach, cynhaliodd Hitler refferendwm anonest. Dangosodd y canlyniadau fod trigolion Awstria wedi rhoi sêl bendith i'r Almaen reoli eu gwlad.

Ymateb tramor

Ffrainc

Roedd gwleidyddiaeth Ffrainc yn wynebu problemau enbyd ym mis Mawrth 1938. Mewn gwirionedd, deuddydd cyn i'r Almaen orchfygu Awstria, roedd holl lywodraeth Ffrainc wedi ymddiswyddo. Nid oedd Ffrainc mewn sefyllfa i wrthwynebu'r ymosodiad.

Prydain

Ym mis Mawrth 1938, roedd gan Brydain ei phroblemau gwleidyddol ei hun. Roedd yr Ysgrifennydd Tramor, Anthony Eden, wedi ymddiswyddo dros benderfyniad y Prif Weinidog, Neville Chamberlain, i ail-agor trafodaethau gydag unben Ffasgaidd yr Eidal, Mussolini. O ganlyniad, gyda Chamberlain yn benderfynol o ddyhuddo Hitler, ni chafwyd unrhyw ewyllys gwleidyddol i wrthwynebu'r Almaen.

At hynny, roedd poblogaeth Prydain yn erbyn y syniad o ryfel Ewropeaidd arall. Doedd yr Anschluss ddim yn cael ei weld yn fygythiad i Brydain, a gan fod y ddwy genedl yn siarad Almaeneg, cafwyd ymdeimlad nad oedd rheswm da pam na ddylai Awstria a'r Almaen uno.

Roedd gwrthwynebwyr fel Winston Churchill, wedi'u dychryn gan feddiannaeth yr Almaen o Awstria. Roedden nhw'n credu, pe bai gan Hitler wir hawl dros Awstria, y dylai fod wedi defnyddio dulliau negodi a diplomyddiaeth yn hytrach na grym.

Canlyniadau

  • Ychwanegodd yr Almaen saith miliwn o bobl a byddin o 100,000 i'w Reich.
  • Enillodd yr Almaen adnoddau defnyddiol fel dur, mwyn haearn ac arian wrth-gefn Awstria.
  • Symudodd cydbwysedd grym yn ne-ddwyrain Ewrop o blaid yr Almaen, gan gynyddu eu dylanwad yng ngwledydd y Balkans.
  • Roedd Tsiecoslofacia wedi'i hamgylchynu gan yr Almaen mewn tri o lefydd.

Roedd Prydain a Ffrainc yn dilyn polisi o ddyhuddiad. Dychwelodd Neville Chamberlain i Brydain, gan honni ei fod wedi sicrhau heddwch. Serch hynny, yn dilyn y cytundeb, cyflymodd Prydain a Ffrainc eu cynlluniau ailarfogi eu hunain. Trodd honiad Chamberlain i fod yn obaith gwag - o fewn blwyddyn i'r cytundeb, roedd yr Ail Ryfel Byd wedi dechrau.