Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Cerdd yr Wythnos - Gwynfor Dafydd (Tir Iarll)

Y Talwrn

Available for over a year

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Ymarfer I Caio, fy nai A bydd hyn oll o dy flaen: boddi yn niflastod dyddiau Mawrth, y pwll nofio’n dy lyncu o las y sgrin i las y teils, lle mae arnofio yn amhosibl, a symud yn strach gyda’r plastig saff yn faich o gylch dy freichiau, a thithau’n ysu am gael mynd, mynd ar dy hynt. Ond wedyn – mor anesboniadwy â’r bunt o dan dy glustog – fe fyddi, un dydd, yn sblasio, strancio, cicio’n rhydd, nes clywed, drwy arogl y clorin, adlais o anogaeth y tu ôl i ti... yn boddi nawr wrth i ti ymlafnio ymlaen, ymlaen, tua’r dŵr dwfn. Gwynfor Dafydd

Programme Website
More episodes