Main content

Cerdd yr Wythnos - Gwynfor Dafydd (Tir Iarll)

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Ymarfer

I Caio, fy nai

A bydd hyn oll o dy flaen: boddi

yn niflastod dyddiau Mawrth, y pwll nofio’n

dy lyncu o las y sgrin i las y teils,

lle mae arnofio yn amhosibl,

a symud yn strach gyda’r plastig saff

yn faich o gylch dy freichiau, a thithau’n ysu

am gael mynd, mynd ar dy hynt.

Ond wedyn – mor anesboniadwy â’r bunt

o dan dy glustog – fe fyddi, un dydd,

yn sblasio, strancio, cicio’n rhydd,

nes clywed, drwy arogl y clorin,

adlais o anogaeth

y tu ôl i ti...

yn boddi nawr

wrth i ti ymlafnio ymlaen,

ymlaen,

tua’r dŵr dwfn.

Gwynfor Dafydd

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

59 eiliad