Clasuron coll o fyd feinyl

Huw a Dyl

Cyfres newydd efo Huw Evans a Dyl Mei yn chwarae clasuron feinyl o'r 60au a'r 70au - nos Fercher am 10pm ar C2.

Mae Hen Bethe Crwn yn ôl am ail gyfres! Dyl Mei o'r Genod Droog a'r cyflwynydd Huw Evans fydd unwaith eto yn dewis rhai o'u hoff ganeuon o oes aur roc Cymru: 1967 i 1979. Yn y gyfres newydd, bydd Huw a Dyl yn dewis pump record hir mwyaf dylanwadol y cyfnod, ac edrych ar gefndir yr albyms. Ar y rhestr: Edward H Dafis - Yr Hen Ffordd Gymreig o Fyw, Bran - Ail-Ddechrau, Endaf Emlyn - Hiraeth, Heather Jones - Mae'r Olwyn Yn Troi, Meic Stevens - Gwymon.

Felly os ydy caséts neu CDs yn dy ddrysu, os ti 'di cael llond bol o'r supernet, neu'n meddwl mai rhywbeth gwleidyddol ydy mp3 - wel ma' Hen Bethe Crwn just y peth i ti!

Awr o gerddoriaeth o'r archif pop Cymraeg - eistedda'n gyfforddus, rho'r tegell ymlaen, a thro'r weiarles i fyny...

Rhaglen 8

27 Chwefror 2008

Cenfyn Evans o'r Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog, a fersiwn newydd o gân Ryan a Ronnie - gan Plant Duw!

Rhaglen 7

20 Chwefror 2008

Andy Votel a Dom Thomas - trefnwyr y CDs Welsh Rare Beat - sy'n dewis y gerddoriaeth ar ran Huw a Dyl.

Rhaglen 6

13 Chwefror 2008

Huw Evans a Dyl Mei yn sgwrsio gydag Endaf Emlyn, mewn rhaglen arbennig am operâu roc.

Rhaglen 5

6 Chwefror 2008

Gari Melville yn dewis y traciau, a Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio 'Shwmae Shwmae' Meic Stevens.

Rhaglen 4

30 Ionawr 2008

Huw Evans a Dyl Mei yn sgwrsio efo Tecwyn Ifan a Cate Le Bon yn canu 'Colled' gan Brân.

Rhaglen 3

23 Ionawr 2008

Mwy o glasuron feinyl gan Huw Evans a Dyl Mei, hanes Sidan gyda Sioned Mair, ac Ed Holden yn bît-bocsio 'Colli Iaith'

Rhaglen 2

16 Ionawr 2008

Huw Evans a Dyl Mei yn cyflwyno Huw Jones, Mr Huw, traciau feinyl gan Talcen Crych, Bran a mwy

Cyfres 2 - Meic Stevens

17 Rhagfyr 2008

Dyl Mei a Huw Evans yn edrych ar gefndir y record hir Gwymon gan Meic Stevens.

Cyfres 2 - Heather Jones

10 Rhagfyr 2008

Dyl Mei a Huw Evans yn edrych ar gefndir y record hir 'Mae'r Olwyn Yn Troi' gan Heather Jones.


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.