Hen Bethe Crwn: Meic Stevens

Gwymon

Mae Dyl Mei o'r Genod Droog a'r cyflwynydd Huw Evans yn dewis rhai o'r recordiau mwyaf dylanwadol o oes aur roc Cymru: 1967 i 1979. Yn y rhaglen hon, maen nhw'n edrych ar gefndir yr albwm Gwymon gan Meic Stevens.

Not found

Ar yr awyr nesaf: Dydd Gwener, 6 Meh 2008, 21:00-21:45

Meic Stevens: Gwymon

(Dryw) WRL 536


Ganed Meic Stevens yn Solva ger Tŷ Ddewi ym 1942. Ar ddiwedd y 50au astudiodd yng Ngholeg Celf Caerdydd. Yn ystod y cyfnod yma roedd Meic yn chwarae'r banjo yn band jazz Mike Harries. Dechreuodd grwydro i Lundain a Pharis, yn chwarae yn y clybiau jazz a bysgio, a ddaeth i adnabod ffigyrau amlwg yn y byd canu gwerin, fel Alex Campbell, Rambling Jack Elliot a Derrol Adams.

Yn dilyn sbel yn perfformio ym Manceinion, fe ddarganfyddwyd Meic gan Jimmy Saville!

Recordiodd sengl i Decca ym 1965, sef "Did I Dream", ond ni fu yn llwyddiant.

Blwyddyn yn ddiweddarach, perfformiodd gyda'i bartner, yr Americanwr Woody Carter yng Ngŵyl Werin Caergrawnt. Recordiodd y ddeuawd albwm ond ni ryddhawyd tan 2002 ar label Tenth Planet.

Ar ôl cyfnod o salwch ym 1967, penderfynodd symud yn ôl i Solva i fyw. Yn ystod y cyfnod yma fe ddechreuodd sgrifennu yn yr iaith Gymraeg am y tro cyntaf.

Ym 1968 fe arwyddodd i gwmni recordiau Dryw, a rhyddhawyd un record fer a pedair EP i'r label rhwng 1968 ac 1971; "Nid Oes Un Gwydr Ffenestr", "Mike Stevens", Mike Stevens Rhif 2", Mwg, a "Byw Yn Y Wlad".

Ffurfiwyd Y Bara Menyn ym 1969 gyda Geraint Jarman a Heather Jones. Rhyddhawyd dwy EP, unwaith eto ar label Dryw; "Y Bara Menyn" a "Rhagor O'r Bara Menyn".

Ym 1969 fe arwyddodd i Warner Brothers, ac ar ddydd Gŵyl Dewi flwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhawyd ei albwm cyntaf sef "Outlander". Mae "Outlander" yn un o recordiau mwyaf gwerthfawr Meic Stevens, ac yn newid dwylo ymysg casglwyr am dros £400 o bunnoedd heddiw.

Rhwng 1970 ac 1971 rhyddhawyd dwy EP i Sain, sef:"Y Brawd Houdini" a "Diolch Yn Fawr". Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman ym 1970 rhyddhawyd yr EP "Meic Stevens" ar label Newyddion Da.

Erbyn Haf 1972, roedd digon o ganeuon yn y Gymraeg gan Meic i feddwl am recordio albwm newydd. Cynigwyd y record i Sain, ond yn y pendraw fe ryddhawyd ar label Dryw.

Recordiwyd a chymysgwyd "Gwymon" dros ddau ddydd yn Stiwdio Central Sound yn Soho, Llundain, gyda Meic a Freddie Winrose wrth y llyw.

Dewiswyd dau gerddor o Gaerlŷr i chwarae ar y sesiwn. Roedd Paul Martinez y basydd, yn gyn aelod o Hackensack. Wedyn fe ddaeth yn aelod o Fleetwood Mac, Stretch, The Robert Plant Band, Paice Ashton And Lord a band Cat Stevens. Roedd Paul yn frawd i Ray Martinez, aelod o'r grwp Gypsy o stabal Sahara Productions, sef cwmni rheoli Peter Swales.

Roedd Peter Swales o Hwlffordd yn hen ffrind i Meic, ac fe sy'n chwarae'r llif ar "Mae'r Eliffant Yn Cofio Popeth".

Blwyddyn yn gynt, roedd Graham Smith wedi chwarae ar albwm BB Blunder, sef "Workers Playtime". BB Blunder oedd enw newydd ar Mighty Baby, sef grŵp Brian Godding a chwaraeodd ar albwm Meic; "Gwin A Mwg A Merched Drwg", a rhyddhawyd ym 1987 ar label Sain.

A beth am yr albwm ? Heb os nac oni bai, "Gwymon" oedd y record hir gyntaf a wthiodd y sin pop a gwerin Cymraeg mewn i'r ugeinfed ganrif.

"Gwely Gwag" oedd y gan blws cyntaf yn yr iaith, ac mae "Merch O'r Ffatri Wlân", yn cael ei chydnabod erbyn heddiw, fel can werin yn wir ystyr y gair. Uchafbwyntiau eraill; "Shwd Mae ?, Shwd Mae ?" sy'n dechrau gyda ffrîcowt hollol seicadelig, cyn setlo lawr mewn i grwf ddim yn annhebyg i'r "Brawd Houdini". "Daeth Neb Yn Ôl", ble mae Meic yn son am golli ei Wncwl Walter, ond hefyd ei dad Gerald yn ystod yr ail ryfel byd.

Rhyddhawyd "Shwd Mae ?, Shwd Mae ?" a "Brenin Y Nos" fel sengl yn Ffrainc blwyddyn yn ddiweddarach, ar label Festival.

Ym 2007 rhyddhawyd "Gwymon" ar gryno ddisg a finyl ar label Sunbeam Records.


Gari Melville

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.