Main content

Gwneud Môr a Mynydd i BBC Plant mewn Angen 2026

At Blant mewn Angen leni,
Aled Huws, mae hewl i ti
lle bydd Teifi’n gwmni i gyd
a Theifi’n gyfoeth hefyd.

At y lôn trwy’r dyffryn tlws,
Aled, dos, fel Odysseus;
dilyn afon haelioni,
glyna wrth ei glannau hi.

Er mwyn y plant, ar antur
ei di â fflam Ystrad Fflur
ar y daith berffaith o bert,
taith gobaith tua Gwbert.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

38 eiliad