Episode details

Available for over a year
Gwneud Môr a Mynydd i BBC Plant mewn Angen Aled, bydda Pudsey wrth ei fodd pe bydda ti’n mynd ati i herio dy hun i BBC Plant mewn Angen unwaith eto eleni. Ac mae’n gwybod faint wnes di fwynhau cerdded yn 2024, felly beth am i ti wneud her gerdded arall? Felly eleni, mae Pudsey yn gofyn i ti gerdded 85 milltir dros 5 diwrnod a hynny ar hyd lwybr newydd Taith Dyffryn Teifi. Mi fyddi di’n cychwyn yn Ystrad Fflur a mynyddoedd Cambria gan orffen ar draeth Poppit ger Aberteifi - cyfle perffaith i ti wneud Môr a Mynydd i BBC Plant mewn Angen. Bydd y cerdded yn cychwyn dydd Llun y 9fed o Dachwedd ac yn gorffen ddydd Gwener y 13eg o Dachwedd. Pob lwc Aled!
Programme Website