Cymry Heddiw, Opera, Catrin Lliar Jones, Christine Mills a Gruff Huws
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond with Manon Steffan Ros.
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen yma mae Catrin Lliar Jones yn trafod ei hail nofel, ‘Sandra, Un Dyn ar y Tro' sydd newydd ei chyhoeddi.
Mae'r cerddor a’r cyfansoddwr Geraint Lewis yn rhannu ei argraffiadau o gynhyrchiadau diweddar Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd tra bod yr artist amlgyfrwng Christine Mills yn trafod ei harddangosfa newydd yn Oriel Storiel, Bangor.
Ac mae’r gwneuthurwr ffilmiau a'r seren cyfryngau cymdeithasol, Gruff Huws yn galw heibio’r stiwdio i sgwrsio am ail bennod y gyfres gomedi 'CICIO' mae o’n ei chreu ar y platfformau digidol.
Ac i gyd-fynd gydag Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg mae Nushin Chavoshi-Nejad yn sgwrsio am gyfrol mae hi wedi ei chyd-olygu gyda Dionne Bennett o'r enw 'Cymry Heddiw'.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Nesaf
Clip
![]()
Gruff Huws yn ôl gyda ail bennod o Cicio
Hyd: 01:58
Darllediadau
- Dydd Sul Diwethaf13:00BBC Radio Cymru
- Dydd Llun Diwethaf18:00BBC Radio Cymru

