Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,27 Sep 2026,56 mins

Islwyn Ffowc Ellis, Owain and Henry a nofel Suddo

Llwyfan gyda Manon Steffan Ros

Available for 30 days

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth. Yn y rhaglen yma mae sylw i dri chynhyrchiad theatrig sydd ar fin cael eu llwyfannu, a dau o’r rheiny fel mae’n digwydd bod, yn gysylltiedig gydag un o’r nofelwyr mwyaf dylanwadol yn y ganrif ddiwethaf, sef Islwyn Ffowc Ellis, eicon o'n llenyddiaeth oedd yn llawn cymhlethdodau diddorol. Mae Cwmni Frân Wen yn ail-ddychmygu'r nofel fawr hon ganddo, sef, 'Wythnos yng Nghymru Fydd', ac ar fin teithio gyda hi ar hyd a lled Cymru. Ac yna, mae cwmni Mewn Cymeriad ar daith gyda'u drama hwythau o'r enw, 'Islwyn' - monolog sydd wedi ei hysgrifennu gan Geraint Lewis ac yn olwg o’r newydd ar Islwyn Ffowc Elis. Y cynhyrchiad arall sydd yn cael sylw ydy 'Owain and Henry' gan Welsh National Theatre a Chanolfan y Mileniwm. Mae hon yn ddrama lwyfan newydd gan y dramodydd Gary Owen ac yn adrodd stori gwrthryfel Owain Glyndŵr yn erbyn Harri IV. Yn ymuno gyda Manon i'w thrafod mae Gary Owen a Michael Sheen, fydd yn portreadu Owain Glyndŵr. Yn ogystal â'r cynyrchiadau theatrig yma mae sgwrs hefyd gyda'r dramodydd a’r actor Mared Llywelyn am ei nofel gyntaf ‘Suddo’ sydd newydd ei chyhoeddi.

Programme Website
More episodes