Main content

Radio Cymru 2 Cystadleuaeth Gair Coll 2026 - Telerau ac Amodau

Trefnydd y gystadleuaeth yw’r BBC.

Pwy sy’n gymwys

1. Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i holl drigolion y DU, gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, sy’n 18 mlwydd oed neu’n hŷn, ac eithrio gweithwyr y BBC neu gwmni Grŵp y BBC, ac unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth. Gellir gofyn am brawf o oedran a chymhwysedd.

Sut i ymgeisio

2. Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg fel a hysbysir ar yr awyr rhwng Mai a Gorffenaf 2026, a bydd pob cystadleuaeth yn agor am 07:30 a chau am 12:30pm ar yr un ddydd (yn amodol ar newid golygyddol). Fe ellir ychwanegu mwy o ddyddiadau yn ddiweddarach.

3. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei hybu ar draws rhaglenni BBC Radio Cymru 2 a BBC Radio Cymru drwy gydol y cyfnod pan fydd y gystadleuaeth yn rhedeg.

4. Ceir mynediad drwy ffurflen ar-lein sydd ar gael yn bbc.co.uk/gaircoll. Ni fydd ceisiadau drwy unrhyw ddull arall yn cael eu derbyn.

5. Rhaid i ymgeiswyr gynnwys y gair coll o glip yr wythnos honno fel y’i chwaraeir ar yr awyr. Gwiriwch sillafiad eich cais cyn ei gyflwyno. Fodd bynnag, os cred BBC yn rhesymol mai’r bwriad oedd nodi’r gair cywir, bydd y BBC yn derbyn y cais hyd yn oed os oes gwall sillafu ynddo.

6. Dim ond unwaith y gallwch gystadlu; ni fydd unrhyw geisiadau ychwanegol yn cael eu cyfrif a dim ond yr ateb a roddir yn eich cais cyntaf fydd yn cael ei dderbyn.

7. Ar ôl cau’r gystadleuaeth, caiff yr enillydd ei ddewis ar hap o bob cais cymwys a’i hysbysu ar fore cau cystadleuaeth yr wythnos honno. Gwahoddir yr enillydd i ymddangos ar raglen Radio Cymru 2 ar y dydd Iau i gael cyfle i ennill gwobr ychwanegol drwy ateb cwestiwn o fewn 20 eiliad gyda chymorth gwestai enwog.

Y Wobr

8. Bydd gwobr wahanol yn cael ei gynnig bob tro y rhedir y gystadleuaeth. Bydd un ennillyd bob wythnos. Bydd y wobr yn cael ei disgrifio ar yr awyr.

9. Mae’r enillydd yn cydnabod y gall bod gan y wobr delerau ac amodau ychwanegol. Mae’r enillydd yn cytuno i lynu wrth y telerau ac amodau hynny sy’n gysylltiedig â’r wobr. Nid yw’r BBC yn gyfrifol am delerau trydydd parti na gwefannau trydydd parti sy’n ymwneud â’r wobr(au).

10. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, nid yw’r BBC yn gyfrifol am unrhyw ffi, treuliau na chostau eraill. Nid oes dewis arall o ran arian parod a ni ellir gwerthu nac trosglwyddo’r wobr o dan unrhyw amgylchiadau. Cyfrifoldeb ariannol yr enillwyr yw cyrraedd y digwyddiad.

11. Mae’r gwobrau fel y’u disgrifir. Nid yw’r BBC yn gyfrifol os bydd enillwyr yn methu â dilyn cyfarwyddiadau.

12. Nid yw’r gwobrau’n gyfnewidiadwy, yn drosglwyddadwy nac yn cael eu had-dalu am arian parod nac am wobrau eraill.

13. Ni all yr enillydd gopïo na dosbarthu’r wobr na chopïau ohoni. Ni all yr enillydd ddefnyddio nac atgynhyrchu unrhyw enwau rhaglenni, brandio na logos sydd ar y wobr neu sy’n gysylltiedig â’r wobr mewn unrhyw ffordd. Ni chaiff yr enillydd wneud unrhyw beth gyda’r wobr a allai ddwyn anfri ar y BBC.

Cyffredinol

14. Bydd enw a lleoliad bras yr enillydd yn cael eu gwneud yn gyhoeddus.

15. Mae penderfyniad y BBC ynghylch ymgeiswyr ac enillwyr yn derfynol. Ni fydd unrhyw ohebiaeth yn ymwneud â’r gystadleuaeth yn cael ei hystyried.

16. Mae ymgeiswyr yn cytuno, os gofynir, i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd rhesymol ar ôl y gystadleuaeth.

17. Cynhelir y gystadleuaeth hon yn unol â chod ymddygiad y BBC ar gyfer cystadlaethau, sydd ar gael ar https://www.bbc.com/editorialguidelines/guidance/code-of-conduct. Mae Telerau Defnyddio’r BBC yn gymwys i’r gystadleuaeth hon.

18. Ni all y BBC, eu his-gontractwyr, is-gwmnïau a/neu asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fethiant technegol neu wall nac unrhyw broblem arall gyda gweinydd, rhwydwaith, system neu unrhyw beth arall a allai arwain at gofrestriad yn methu â chael ei gofnodi neu ei gofnodi’n anghywir.

19. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y BBC yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod (boed hynny wedi’i ragweld, yn rhagweladwy, yn hysbys neu fel arall), gan gynnwys colled ariannol, colled i enw da neu siom.

20. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried eu bod wedi derbyn y rheolau hyn ac yn cytuno i fod yn rhwym wrthynt wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.

21. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i:
(i) ddiwygio’r telerau ac amodau hyn gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, yr amseroedd agor a chau;
(ii) ddiarddel unrhyw ymgeisydd sy’n torri’r rheolau, sydd wedi gweithredu’n dwyllodrus mewn unrhyw ffordd neu sydd wedi dod ag enw da’r BBC i anfri;
(iii) lle bo’n berthnasol, ddiarddel ymgeisydd neu enillydd, tynnu neu ddisodli unrhyw wobr, os bydd unrhyw ymgeisydd, enillydd neu’u gwestai ar unrhyw adeg yn ymddwyn mewn modd amhriodol neu beryglus (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i fod o dan ddylanwad alcohol, cyffuriau anghyfreithlon neu sylweddau cemegol, neu greu aflonyddwch) cyn neu wrth fod ar yr awyr, yn ymweld ag adeiladau’r BBC neu lle mae’r wobr yn cynnwys presenoldeb mewn digwyddiad, eu heithrio o’r digwyddiad hwnnw;
(iv) osod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion mynediad ychwanegol os yw’r wobr yn mynnu cyfyngiadau o’r fath (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i docynnau ar gyfer digwyddiadau gydag isafswm oedran neu ofynion mynediad eraill); a
(v) chanslo neu amrywio’r gystadleuaeth ar unrhyw adeg, os oes angen yn ôl ei barn, neu os bydd amgylchiadau’n codi y tu hwnt i’w rheolaeth.

22. Caiff y gystadleuaeth ei rhedeg gan y BBC yn unol a Chyfraith Lloegr a Chymru.