Disgyblion yn eu dagrau wrth glywed bod Ysgol Rhuthun yn cau

Bydd disgyblion oedd ar ganol eu cwrs TGAU yn Ysgol Rhuthun bellach yn gorfod dod o hyd i ysgol arall
- Cyhoeddwyd
Roedd disgyblion yn eu dagrau wrth iddyn nhw gael gwybod y bydd ysgol 700 oed yn cau am byth.
Wythnos diwethaf daeth y newyddion bod Ysgol Rhuthun sy'n ysgol annibynnol yn cau ei drysau ddiwedd y tymor wrth iddi fynd i ddwylo gweinyddwyr.
Mae'n un o nifer o ysgolion preifat sydd wedi wynebu trafferthion yn ddiweddar.
Dywedodd llefarydd ar ran Ysgol Rhuthun, un o ysgolion hynaf Cymru, nad oedd hi wedi bod yn bosibl "dod o hyd i ffordd ymlaen sy'n hyfyw yn ariannol".

Dywedodd Joseph fod yr ysgol yn "deulu ac yn gymuned"
Mae'r corff sy'n cynrychioli ysgolion annibynnol o'r farn bod rheolau TAW newydd ar gyfer ffioedd wedi bod yn ergyd i'r sector.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd Coleg Llanymddyfri eu bod yn wynebu diffyg o £1m ar ôl i nifer y disgyblion ostwng ac fe nodon nhw effaith y gyfradd TAW o 20% ar ffioedd ysgolion preifat.
Wedi'r cyhoeddiad am Ysgol Rhuthun dywedodd Hari, disgybl 15 oed, ei fod wedi'i "lorio'n llwyr" ac ychwanegodd bod dosbarthiadau bach yn ei gwneud hi'n "wirioneddol hawdd i ddysgu".
Roedd yn un o tua 240 o ddisgyblion yno ac roedd yn edrych ymlaen at ddychwelyd fis Medi ar gyfer ei flwyddyn olaf ac at sefyll ei arholiadau TGAU.
Ysgol Rhuthun i gau ei drysau ar ddiwedd y tymor
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Ysgol annibynnol ym Mangor i gau yn sgil cynnydd mewn costau
- Cyhoeddwyd22 Mai
Bellach bydd yn rhaid i Hari a'r disgyblion eraill ddod o hyd i ysgol newydd.
"Dwi'm yn gwybod be' ydyn ni'n mynd i'w wneud," meddai ei fam Arwen, gan drio atal ei dagrau.
"Mae 'mhlant i wedi cael ysgoloriaeth achos allwn ni ddim fforddio'r ffioedd - da' ni'n deulu dosbarth gweithiol."
Mae ganddi blentyn arall, oedd fod i ddechrau yn Ysgol Rhuthun ym mis Medi.
Cafodd yr holl rieni a staff wybod na fyddai'r ysgol yn ailagor ar gyfer y tymor newydd drwy e-bost y prynhawn cyn diwrnod olaf y gwersi.
'Achosi poen aruthrol'
Mae rhieni wedi ysgrifennu at y perchnogion o China ac yn herio'r modd iddyn nhw ymdrin â'r sefyllfa.
"Mae'r ffordd y gwnaethoch chi hynny wedi achosi poen aruthrol," meddai'r llythyr.
"Mae rhieni wedi cael eu gadael mewn dagrau. Mae plant wedi cael eu gadael yn ofnus, yn ddryslyd a'u calonnau wedi torri."
Dywedodd Joseph, disgybl 15 oed, ei fod yn "flin" ac wedi'i "lorio'n llwyr", gan ddweud ei fod yn "poeni o ran be' sy'n mynd i ddigwydd".
"Mae o wedi bod yn gartref i ni am bedair blynedd o'n bywydau ni ac mae hynny wedi diflannu mewn chwinciad," ychwanegodd.
Ychwanegodd ei dad, John: "Dydyn ni ddim yn gwybod be' i 'neud.
"Rydyn ni'n gyrru o gwmpas mewn hen gar er mwyn i'n meibion allu dod yma i gael dechrau gwell mewn bywyd ac yna, mewn eiliad, mae popeth wedi mynd."

Mae staff yng Ngholeg Llanymddyfri wedi cytuno i ostyngiadau cyflog dros dro, er mwyn lleddfu pwysau ariannol ar yr ysgol
Yn y gorffennol, nid oedd yn rhaid i ysgolion preifat godi TAW ar eu ffioedd oherwydd eithriad ar gyfer sefydliadau oedd yn darparu addysg.
Er bod rhai ysgolion enwog, fel Eton a Harrow, yn codi tua £50,000 y flwyddyn mewn ffioedd, tua £15,000 ydy'r pris cyfartalog.
Cafodd yr eithriadau ar y taliadau hynny eu diddymu ar 1 Ionawr 2025.
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y DU y byddai cael gwared ar yr eithriadau yn "codi £1.8 biliwn y flwyddyn erbyn 2029-30".
"Bydd hyn yn helpu i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys helpu'r 94% o blant sy'n mynychu ysgolion gwladol i lwyddo a ffynnu."
'Pwysau ariannol cynyddol'
Mae Cyngor Ysgolion Annibynnol Cymru (WISC) yn cynrychioli'r rhan fwyaf o'r 79 o ysgolion preifat yn y wlad.
Dywedodd y cyngor, er nad oedd "un rheswm pam mae'n rhaid i ysgol wneud y penderfyniad anodd i gau", fod y newidiadau treth wedi "bod yn ormod i rai yn ystod cyfnod oedd yn heriol yn barod".
Mae eu ffigyrau'n awgrymu bod 6,500 o ddisgyblion yn y sector annibynnol yng Nghymru, gostyngiad o 6% ers y llynedd - gostyngiad mwy nag yn unrhyw le arall yn y DU heblaw am ogledd ddwyrain Lloegr.

Gallai cau ysgolion annibynnol fod yn "niweidiol iawn i economi Cymru", medd Paul Norton
Dywedodd Paul Norton, cadeirydd WISC a Phennaeth Ysgol Kings Monkton yng Nghaerdydd, fod llawer o ysgolion annibynnol yng Nghymru yn rhai bach ac yn ysgolion cymunedol.
Ychwanegodd y gallai cau'r ysgolion hynny fod yn "niweidiol iawn i economi Cymru".
Mae'r sector yn darparu dewis yn absenoldeb yr academïau a'r ysgolion gramadeg sy'n Lloegr, meddai.
"Dwi'n meddwl y byddwn ni'n gweld gostyngiad pellach mewn addysg breifat oni bai bod newidiadau'n cael eu gwneud."
Ysgolion eraill wedi cau
Ddydd Gwener 3 Gorffennaf fe gauodd Ysgol St Gerard's ym Mangor ei drysau yn sgil cynnydd mewn costau.
Mae dwy ysgol arall wedi cau yng Nghymru hefyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - Oakleigh yn Abertawe a St Clare ym Mhorthcawl – y ddwy yn eiddo i'r un cwmni.
Dywedodd Rachael Harman, cyn-ddisgybl yn St Clare a mam i fachgen oedd yn mynychu'r ysgol fod y newyddion am ei chau ym mis Mai 2025 wedi dod fel "sioc lwyr".
Y rheswm a roddodd y perchnogion oedd newidiadau demograffig, sy'n golygu llai o blant oed ysgol ac, o ganlyniad, niferoedd disgyblion yn gostwng.
Methodd ymgais gan rieni i reoli'r ysgol - oedd wedi bodoli ers 85 mlynedd - ac mi gafodd ei chau ym mis Rhagfyr 2025.
Ond parhau a wnaeth Rachael ac eraill i geisio achub y safle 11 erw.
"Mae'n lle wirioneddol hardd –-doedd neb eisiau ei weld yn troi'n safle adeiladu," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.