Symud ceffylau sydd wedi pori mewn ardal ers canrif yn sgil anghydfod

Ceffyl yn ardal RhosiliFfynhonnell y llun, Rhossili Sunflowers
Disgrifiad o’r llun,

Pwysleisiodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol nad oedden nhw "ar unrhyw adeg" wedi gofyn i'r holl geffylau gael eu symud

GanDavid Grundy
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'r ceffylau sydd wedi pori ar glogwyni ar Benrhyn Gŵyr ers dros 100 mlynedd wedi cael eu symud, yn sgil anghydfod ynglŷn â hawliau pori.

Daw'r penderfyniad i symud yr anifeiliaid oddi ar Gomin Rhosili yn dilyn misoedd o anghytuno rhwng ffermwyr lleol ynglŷn â'r ceffylau a diogelwch ymwelwyr ar safle'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Rhannodd Rob Morgan, sy'n rhedeg cwmnïau Rhossili Sunflowers a Gower Fresh Christmas Trees, y newyddion mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd ei fod o a'i gyd-ffermwr Nicky Beynon wedi wynebu pwysau cynyddol gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae'r elusen yn dweud mai penderfyniad y ffermwr yn unig oedd symud pob un o'r ceffylau oddi ar y safle.

Rhosili

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy'n berchen ar y tir, wedi dweud eu bod yn "adolygu" nifer yr anifeiliaid sy'n pori'r tir er mwyn sicrhau diogelwch ymwelwyr, lles yr anifeiliaid ac iechyd ecolegol yr ardal.

Y llynedd, dywedodd yr elusen fod angen lleihau nifer y ceffylau er mwyn cyd-ymffurfio â'r rheolau ynglŷn â faint o bori a ganiateir.

Mewn datganiad, dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fod problemau wedi bod gyda march ar y clogwyni ar ôl iddo ddianc dro ar ôl tro drwy giât i gerddwyr.

"Mae'n gwthio ei ffordd drwy ymwelwyr ac allan ar y ffordd, i'r maes parcio ac i mewn i'r pentref," meddai'r datganiad fis Hydref y llynedd.

"Dyna pam ein bod yn pryderu nid yn unig am ddiogelwch y cyhoedd ond hefyd am les y ceffylau."

Rhosili
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fod un o'r meirch wedi dianc dro ar ôl tro drwy giât i gerddwyr

Dywedodd yr elusen eu bod wedi cysylltu â Mr Beynon er mwyn "deall ymhellach" faint o geffylau allai aros fel rhan o hawliau pori cominwyr ar y tir.

Mewn fideo a rannwyd ar y cyfryngau cymdeithasol, dangosodd Rob Morgan y ceffylau'n cael eu gyrru i ffwrdd o'r comin.

"Fe symudon ni'r ceffylau y bore yma," meddai, gan grybwyll "pwysau cyson".

'Wedi gwneud ein bywydau'n uffern'

Fe ddiolchodd y ffermwr Nicky Beynon i bobl, gan gynnwys y gymuned amaethyddol ehangach yn Rhosili, am eu cefnogaeth.

"Dyw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol heb roi unrhyw gefnogaeth i ni o gwbl," meddai, gan ychwanegu: "Mewn gwirionedd, maen nhw wedi gwneud ein bywydau'n uffern dros y 18 mis diwethaf."

Yn y fideo, dywedodd Mr Beynon ei fod o a Mr Morgan wedi gorfod profi bod ganddyn nhw hawliau i bori anifeiliaid ar y comin.

Mae hawliau pori yn hawl gyfreithiol sy'n caniatáu i dda byw fwydo mewn ardal benodol.

Ychwanegodd Mr Morgan fod yr anghydfod wedi achosi llawer o straen.

"Mae wedi bod yn anodd iawn," meddai, gan ychwanegu: "Mae'r clogwyni yna eisoes yn teimlo'n wag, ond gobeithio eich bod chi'n deall ein teimladau. Mae'n achosi straen."

Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru eu bod yn cydnabod pa mor bwysig yw'r ceffylau i bobl sy'n ymweld â Rhosili, ond pwysleisiodd nad oedd yr elusen "ar unrhyw adeg" wedi gofyn i'r holl geffylau gael eu symud oddi yno.

"Roeddem wedi bod yn adolygu nifer y ceffylau ar y comin, gan eu bod yn ymddangos i fod yn uwch na'r terfyn y cytunwyd arno a'r hyn yr ydym yn credu sydd wedi'i nodi yn yr hawliau hynny."

Mae'r corff yn aros am gadarnhad o'r hawliau pori cyn penderfynu faint o geffylau fyddai'n cael aros ar y comin.

"Fodd bynnag, os yw'r perchennog bellach wedi dewis symud pob un o'r ceffylau, ei benderfyniad ef yn unig yw hynny."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig