Cytuno mewn egwyddor i ysgol Gymraeg newydd yn Aberdaugleddau

Llun o AberdaugleddauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aberdaugleddau yw tref fwyaf Sir Benfro gyda tua 15,000 yn byw yn yr ardal, ond mae llai na 10% yn siarad Cymraeg

GanAled Scourfield
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Penfro wedi pleidleisio dros gefnogi'r egwyddor o sefydlu ysgol gynradd Gymraeg newydd yn nhref Aberdaugleddau.

Mae dwy ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg eisoes wedi agor yn ne'r sir yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Fe agorodd Ysgol Hafan y Môr yn Ninbych-y-pysgod yn 2016 ac Ysgol Bro Penfro yn nhref Penfro ym mis Medi 2024.

Mae'r penderfyniad wedi cael ei groesawu gan un rhiant, yn enwedig gan fod Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd, sydd yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion rhwng 3-16 oed, eisoes dros ei chapasiti swyddogol yn yr adran gynradd.

Mewn pleidlais yn Neuadd y Sir yn Hwlffordd roedd 51 o gynghorwyr o blaid y cynnig, gydag un yn atal ei bleidlais.

'Agweddau'n newid tuag at y Gymraeg'

Aberdaugleddau yw tref fwyaf Sir Benfro, ac mae rhyw 15,000 yn byw yn yr ardal, ond mae llai na 10% yn siarad Cymraeg yn y wardiau sy'n rhan o'r dref.

Ym mhapurau'r cyngor, nodwyd bod disgwyl i niferoedd Ysgol Bro Penfro gynyddu o 125 i 172 erbyn 2033.

Mae Ysgol Hafan y Môr hefyd wedi tyfu yn sylweddol ers ei hagor.

Mae gan yr actores a'r dramodydd Ceri Ashe fab ddwy oed, Osian, ac mae hi'n byw yn Aberdaugleddau.

Mae hi'n dweud bod hi'n heriol, ar hyn o bryd, i anfon plant i ysgol cyfrwng Cymraeg: "Yr ysgol agosaf yw yn Hwlffordd.

"Yn y bore, gyda rush hour mae'n cymryd bwyti 45 munud efallai hyd yn oed awr i gyrraedd, neu os chi'n fodlon gyrru, mae Bro Penfro o leia' hanner awr o yrru."

Llun Ceri
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceri Ashe yn dweud bod agweddau i'r Gymraeg yn yr ardal dechrau newid

Yn ôl Ceri, mae agweddau tuag at y Gymraeg mewn ardal a ddisgrifiwyd ar un adeg fel Little England Beyond Wales, yn newid.

"Fi wedi byw yma ers tair blynedd a dwi yn gweld bod agweddau pobl yn newid.

"Fi'n siarad Cymraeg i Osian, dwi yn hybu fe i fod yn ddwyieithog.

"We ni yn siarad Cymraeg 'da fe yn Tesco ac fe wnaeth y fenyw ar y till ddweud 'Dwi yn dysgu.' Mae'n neis clywed e a ti'n gweld agweddau pobl yn newid."

Mae Ceri'n dweud bod llwyddiant Ysgol Caer Elen yn brawf bod yna alw am addysg Gymraeg yn ne Penfro.

"Dwi yn meddwl bod Caer Elen yn symbol fod pobl eisiau anfon eu plant nhw nawr.

"Os chi'n cael plant yn dysgu trwy'r Gymraeg, yn chwarae yn yr iard a falle tu fas yr ysgol, dwi yn meddwl bod hwnna yn hollbwysig."

Llun Paul Miller
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'r Cynghorydd Paul Miller yn sicr bod y galw yna am ysgol Gymraeg newydd yn yr ardal

Yn ôl y cyngor, mi fyddai agor ysgol gynradd Gymraeg 3-11 oed yn Aberdaugleddau yn diwallu'r galw cynyddol ac yn caniatáu ail lunio'r ffiniau ar gyfer dalgylchoedd.

Mae'n rhan o gynllun ehangach gwerth £143m i ail-ddatblygu ysgolion yn ardal Aberdaugleddau.

Y bwriad yw darparu lle ar gyfer 210 o ddisgyblion.

Unwaith eto, fe gododd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, gwestiynau am y penderfyniad i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ne'r sir.

Yn ôl y Cynghorydd Miller nid yw'r "ffaith bod rhieni o Aberdaugleddau yn dewis anfon eu plant i Ysgol Caer Elen ar hyn o bryd ddim yn dystiolaeth gadarn i gefnogi'r syniad eu bod nhw eisiau addysg Gymraeg".

"Maen nhw yn dianc rhag addysg wael yn Aberdaugleddau", meddai.

Ysgol gynradd Gymraeg newydd i Aberdaugleddau

Y Cynghorydd John Davies yn trafod ar y Post Prynhawn

Dywedodd Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith "bod hi'n drueni bod yna agweddau yn erbyn addysg Gymraeg" ond bod rhaid datblygu os ydy pobl yn teimlo bod y Gymraeg yn perthyn i bawb.

"Mae mor bwysig bod addysg Gymraeg yn tyfu yn ne'r sir, mae'n amlwg bod angen e.

"Maen nhw wedi adeiladu ysgol newydd yn Hwlffordd ac mae hwnna wedi profi bod 'na alw am addysg Gymraeg.

"Mae'r ysgol wedi cyrraedd capasiti, ac maen nhw wedi cael capasiti ychwanegol.

"Bydd dim lle yn Hwlffordd, sydd yn gwasanaethu ardal Aberdaugleddau, erbyn 2027.

"Mae'n hollol amlwg bod angen addysg Gymraeg, ac mae'n bwysig bod yr addysg Gymraeg yna yn y gymuned."

Llun protestwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor wedi pleidleisio dros gau Ysgol Clydau er gwaethaf protestiadau rhai rhieni

Fe fydd cynllun busnes amlinellol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf.

Gyda dyfodol addysg Gymraeg yn bwnc llosg yn y sir, bu rhieni a disgyblion Ysgol Clydau yn lobïo cynghorwyr wrth iddyn nhw gyrraedd y cyfarfod yn Hwlffordd fore Iau.

Mae disgwyl penderfyniad terfynol ar 15 Mehefin ar gau'r ysgol fach ym mhentref Tegryn yng ngogledd y sir.

Fe wnaeth cynghorwyr bleidleisio o blaid cau'r ysgol, o un bleidlais yn unig ym mis Mawrth.

Dywedodd Angharad Scourfield, sydd yn rhiant yn yr ysgol, bod ymgyrchwyr yn dal i frwydro i newid meddyliau'r cynghorwyr.

"Ni 'ma i ddangos i'r cynghorwyr bod ni dal yma ac yn dal i ymladd i gadw Ysgol Clydau ar agor.

"Ni'n gobeithio bod y cynghorwyr yn medru gweld pwy mor bwysig yw'r ysgol yma i'r gymuned Gymraeg 'ma."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.