Dyn 43 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili

GanGwydion Edwards
BBC Cymru Fyw
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 43 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili nos Sadwrn, yn ôl yr heddlu.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw am 18:15 i Ffordd Hafodyrynys, sydd rhwng pentref Crymlyn a thref Pont-y-pŵl, i adroddiad am wrthdrawiad oedd yn cynnwys Audi A5 a Volkswagen ID5 - y ddau'n ddu.
Cafodd y dyn ei ddatgan yn farw yn y fan a'r lle gan barafeddygon. Dywedodd yr heddlu fod ei deulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth.
Mae'r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y ddau gerbyd yn teithio yn yr ardal cyn y gwrthdrawiad, neu sydd â deunydd fideo perthnasol.