Côr Bechgyn Glantaf yn 'edrych ymlaen yn arw' at rownd gynderfynol BGT

Tomos a OwenFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Tomos ac Owen ar y ffordd i Lundain ar gyfer perfformiad Côr Bechgyn Glantaf

GanBeth Alaw Williams
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Côr Bechgyn Ysgol Glantaf yn gobeithio gwneud i feirniad Britain's Got Talent "lefain" nos Sadwrn wrth iddyn nhw gystadlu'n fyw am y tro cyntaf.

Ar ôl syfrdanu'r beirniad yn eu clyweliad, bydd y côr o Gaerdydd yn perfformio unwaith eto gan obeithio sicrhau lle yn rownd derfynol y gystadleuaeth.

Dywedodd eu harweinydd Lloyd Macey bod y côr wedi derbyn negeseuon o gefnogaeth o "bob cwr o'r byd".

Mae aelodau'r côr yn dweud eu bod nhw'n edrych ymlaen "yn arw" at berfformio yn Llundain dros y penwythnos.

Lloyd Macey yn eistedd o flaen piano
Disgrifiad o’r llun,

Mae arweinydd y côr, Lloyd Macey yn dweud bydd yn falch o'r bechgyn beth bynnag y canlyniad nos Sadwrn

Cafodd aelodau'r côr sioc eu bywydau ar yr hyn roedden nhw'n credu oedd trip ysgol i Blackpool, pan wnaeth Simon Cowell ddatgelu eu bod nhw am gael y cyfle i gystadlu ar raglen Britain's Got Talent.

Fe wnaeth y bechgyn dderbyn pedwar 'ie' gan y beirniad Simon Cowell, Amanda Holden, Alesha Dixon a KSI am eu perfformiad o Never Enough o ffilm The Greatest Showman.

Gan gadw eu perfformiad nos Sadwrn yn hollol gyfrinachol, mae'r côr yn dweud bod y gân "ychydig yn wahanol" i beth rydyn ni wedi clywed ganddyn nhw hyd yma.

Dywedodd Mr Macey: "Beth rydyn ni eisiau fel côr yw bod y beirniad yn llefain.

"Llefain achos bod y bois wedi llwyddo i drosglwyddo'r gân a'r geiriau a bod nhw'n teimlo'r gân."

Cor Glantaf ar lwyfan BGTFfynhonnell y llun, BGT/TalkbackThames/ITV
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r côr - yma yn ystod eu clyweliad cyntaf - yn gobeithio gwneud i'r pedwar beirniad "lefain" gyda'u perfformiad

Er iddo gystadlu ar raglen X Factor naw mlynedd yn ôl, mae'r athro Cymraeg yn dweud ei fod yn "fwy nerfus" nawr wrth arwain y côr.

"Os i fi mynd yn anghywir, mae'r bechgyn yn mynd yn anghywir.

"Ond un peth fi'n dweud, a bydd y bechgyn yn cytuno - dilynwch Mr Macey tan fod Mr Macey yn gwneud rhywbeth anghywir!"

Disgrifiad,

Dywedodd Lloyd Macey fod y côr yn edrych ymlaen yn arw at berfformio yn fyw ar Britain's Got Talent

Bydd Owen yn rhan o'r côr nos Sadwrn, ac mae'n dweud fod Mr Macey yn arweinydd "anhygoel".

"Ry'n ni wedi ymarfer llawer dros yr wythnosau diwethaf," meddai.

"Ar y penwythnosau, ar ôl ysgol, hyd yn oed pan mae pawb yn flinedig.

"Ar ôl diwrnod llawn, mae pawb yn rhoi'r ymroddiad mewn i'r ymarfer llawn."

Mae Tomos, sydd hefyd ym mlwyddyn 9, yn edrych ymlaen "yn arw" at y perfformiad.

"Gobeithio bydd e' jyst yn amazing a bydd pawb yn rhoi 100% a gobeithio eu bod ni'n cael golden buzzer neu'n mynd trwy'r bleidlais."

Llythrennau BGT yn yr ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynnwrf y rhaglen wedi cydio ar yr ysgol gyfan

Pe bai'r côr yn llwyddiannus, byddan nhw yna'n cael y cyfle i gystadlu yn y rownd derfynol ar 30 Mai, a'r wobr am ennill y gyfres yw perfformio yn sioe y Royal Variety, yn ogystal â £250,000.

Mae Mr Macey yn credu y byddai arian o'r fath yn helpu datblygu "corau dros y blynyddoedd", yn ogystal â thripiau perfformio.

Dywedodd "Beth bynnag sy'n digwydd nos yfory, dwi'n mynd i fod yn falch ohonyn nhw.

"Dyna beth fi wedi'i ddweud wrth y bechgyn - nos yfory, canwch y gorau chi'n gallu, ond yn fwy na dim, meddyliwch am y geiriau.

"Fi wir yn gobeithio bydd pobl yn mwynhau'r gân."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.