Cuddfan dyn oedd ar ffo rhag yr FBI ar werth am o leiaf £300,000

Y tŷ ym Maenan ger Llanrwst lle bu Daniel Andreas San Diego yn cuddio cyn cael ei arestio yn 2024Ffynhonnell y llun, Aled Evans
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Daniel Andreas San Diego wedi bod yn byw yn y tŷ ym Maenan ger Llanrwst tra roedd ar ffo rhag yr FBI

  • Cyhoeddwyd

Bydd tŷ ger Llanrwst a ddaeth i sylw rhyngwladol yn 2024 fel cuddfan dyn oedd ar ffo rhag yr FBI yn yr Unol Daleithiau, yn mynd ar werth mewn ocsiwn ddydd Mercher am o leia' £300,000.

Roedd y tŷ tair ystafell wely ym Maenan wedi bod yn gartref i Daniel Andreas San Diego, fu'n cuddio rhag yr FBI am dros ugain mlynedd ar ôl ffoi o Galifornia.

Gan ddefnyddio'r enw Danny Webb, fe brynodd yr eiddo yn Nyffryn Conwy am £425,000 ym mis Awst 2023.

Yno, ym mis Tachwedd 2024 y cafodd ei ddarganfod a'i arestio.

Daniel Andreas San Diego
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Daniel Andreas San Diego ei arestio yn Nyffryn Conwy ym mis Tachwedd 2024 ar ôl bod ar ffo rhag yr FBI am dros 20 mlynedd

Roedd San Diego ar restr Most Wanted yr FBI yn yr Unol Daleithiau ers 20 mlynedd.

Yn gysylltedig â grŵp o ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid eithafol, roedd wedi cael ei gyhuddo gan Lywodraeth UDA o osod bomiau wnaeth ffrwydro yn ardal San Francisco, California yn 2003.

Daeth o dan amheuaeth ar ôl cael ei atal gan yr heddlu yn agos at un o'r ffatrïoedd lle ffrwydrodd bom.

Cafodd ei ryddhau, ac yna fe ddiflannodd.

Dros ugain mlynedd yn ddiweddarach, ym mis Tachwedd 2024, cafodd ei arestio yn Nyffryn Conwy.

Yn dilyn proses gyfreithiol, ym mis Chwefror 2026, fe gollodd ei frwydr yn erbyn cael ei estraddodi yn ôl i'r Unol Daleithiau.

Mae o ar hyn o bryd yn aros i gael ei anfon yn ôl yno o Garchar Belmarsh yn Llundain.

Llidiart y Coed
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tŷ ym Maenan yn cael ei ddisgrifio gan yr arwerthwyr fel eiddo mewn 'lleoliad diarffordd'

Mae'r eiddo, sy'n cael ei werthu gan gwmni Auction House Wales yn cael ei ddisgrifio fel un gyda "steil eithaf prin" mewn "lleoliad diarffordd".

"Gyda golygfeydd ar draws Dyffryn Conwy, mae'n rhoi gwir deimlad o fywyd yng ngefn gwlad," meddai'r hysbyseb.

Yn flaenorol dywedodd Aled Evans, a werthodd y tŷ i San Diego ym mis Awst 2023 ei fod mewn lleoliad delfrydol "os oeddech chi eisiau cadw'n guddiedig".

Fe werthodd Mr Evans y tŷ bryd hynny am £425,000, gyda San Diego meddai wedi cynnig £15,000 yn fwy na'r pris gofynnol.

"Oedd o'n licio beicio mynydd a'r goedwig wrth y tŷ - 'oedd o'n edrych ymlaen at fynd ar ei feic trwy'r coed," yn ôl Mr Evans.

"Ond fel mae pethau wedi troi allan roedd o'n le perffaith i fo brynu a cadw'i ben i lawr," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig