Y cerddor a'r cynhyrchydd Robin Evans wedi marw yn 72 oed

- Cyhoeddwyd
Mae Robin Evans, cerddor o'r band Mynediad am Ddim a chynhyrchydd teledu amlwg, wedi marw yn 72 oed.
Bu'n newyddiadurwr gyda'r Cymro ac yn ddarlledwr, a bu'n gweithio ar nifer o raglenni teledu ym mhob genre cyn canolbwyntio yn bennaf ar ddrama.
Ef oedd cynhyrchydd cyntaf cyfres Rownd a Rownd, gyda Susan Waters, tra'n gweithio i gwmni Ffilmiau'r Nant.
Bu'n cynhyrchu nifer o raglenni eraill hefyd, gan gynnwys Sgorio ar S4C.

Robin gyda'i wraig Heulwen a'i blant Llio a Huw
Roedd Robin, o Eifionydd yn wreiddiol ond bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon, yn un o chwe aelod gwreiddiol Mynediad am Ddim pan gafodd y band ei ffurfio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1974.
Yr aelodau eraill ar y pryd oedd Emyr Wyn, Mei Jones, Iwan Roberts, Graham Pritchard a Dewi Jones.
Y bwriad ar y dechrau oedd cystadlu yn Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 1974, ond yn dilyn eu llwyddiant yno fe benderfynon nhw i ddal ati.
Bu Robin yn aelod ers y dyddiau cynnar hynny, ac roedd yn rhan o daith y band o amgylch Cymru yn 2024 a 2025 wrth iddyn nhw ddathlu 50 mlynedd o berfformio.

Mynediad am Ddim yn perfformio yn Aberystwyth yn 2025, gyda Robin ar y dde
Dywedodd Bedwyr Rees, uwch gynhyrchydd Rownd a Rownd ac yn un o gyfarwyddwyr Rondo, fod "pob un ohonom sydd wedi gweithio ar Rownd a Rownd dros y blynyddoedd yn ddyledus i weledigaeth a mentergarwch Robin a'i gyd-gynhyrchydd Sue Waters wrth sefydlu y gyfres arbennig hon".
"Robin hefyd oedd y gyriant y tu ôl i sefydlu y gyfres Sgorio, gan ddod â'r gorau o bêl-droed Ewropeaidd i'n cartrefi ar ddiwedd y 1980au, a'r cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Daeth â'r un cariad at iaith at Rownd a Rownd, gan weld bod yma gyfle i gyflwyno yr iaith i bobl ifanc mewn sefyllfa naturiol a thrwy straeon fyddai'r gynulleidfa yn uniaethu â nhw.
"Roedd yn credu yn sylfaenol yn S4C fel arf ym mrwydr yr iaith, a hynny drwy beidio â bod yn uchel-ael, ond ychwaith heb ildio i fratiaith, gan brofi bod y Gymraeg yn iaith gyfoes, pob-dydd, sydd yn gallu ymdopi ag unrhyw sefyllfa."

Roedd Robin o Eifionydd yn wreiddiol ond bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon
Ychwanegodd Bedwyr Rees: "Bu'n newyddiadurwr a darlledwr a bu'n gweithio ar nifer dirifedi o raglenni teledu ym mhob genre cyn canolbwyntio gan fwyaf ar ddrama.
"Roedd hefyd wrth gwrs yn leisydd gyda Mynediad am Ddim, un o fandiau poblogaidd mwyaf dylanwadol yr hanner canrif ddiwethaf. Mae ei waddol yn sylweddol ac eang.
"Fe wynebodd ei salwch gyda'r un grym ewyllys a nodweddodd ei yrfa gan ddal ati tan y diwedd, yn gwrando ar Radio Cymru ac yn gwylio'r rygbi a'r pêl-droed, gan ddadansoddi cyflwr y Gymru gyfoes fel ag y gwnaeth dros y degawdau, gan fod yn un o brif ddylanwadwyr y diwylliant hwnnw.
"Mae hon yn ergyd bersonol i nifer ohonom, ond dyma ergyd hefyd i Gymru ac i'r iaith Gymraeg."