Mam babi fu bron â marw yn annog eraill i gael eu brechu rhag RSV

Roedd Jo yn ymwybodol o ddifrifoldeb salwch ei merch oherwydd ei phrofiad o weithio fel nyrs ac ymwelydd iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae mam babi fu bron â marw bellach yn annog menywod beichiog i gael eu brechu rhag feirws RSV.
Pan gafodd Phoebe ei geni ychydig cyn y Nadolig bedair blynedd yn ôl, sylweddolodd ei mam Jo, sy'n nyrs plant ac ymwelydd iechyd o Hwlffordd, fod rhywbeth o'i le bron ar unwaith.
"Roedd hi'n bum diwrnod oed... a sylweddolon ni'n eithaf sydyn ei bod hi'n anadlu'n gyflym iawn ac yn cael trafferth, felly es i â hi i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, lle dirywiodd eu hiechyd," meddai.
"Wedyn gafon ni wybod bod ganddi bronchiolitis wedi ei achosi gan RSV, a hynny ar noswyl Nadolig - felly roedden ni'n gwybod ein bod ni am fod yn yr ysbyty dros gyfnod y Nadolig. Ond sylweddolon ni ddim pa mor wael fyddai hi yn y pen draw."
Ychwanegodd: "O'n i'n gwybod fod pethau'n wael oherwydd nyrs oeddwn i."

Gwaethygu gwnaeth cyflwr Phoebe ar ôl iddi gyrraedd yr ysbyty
Cyn bo hir fe waethygodd cyflwr Phoebe ymhellach ac fe gafodd ei derbyn i uned gofal ychwanegol yr ysbyty.
Yn y cyfamser, roedd Jo yn pryderu ymhellach oherwydd ei phrofiadau yn gofalu am blant ag RSV.
"O'n i'n sylweddoli fod pethau'n ddifrifol. Fel nyrs, roeddwn i'n ymwybodol o RSV ac wedi gofalu am fabanod oedd wedi cael RSV - felly roeddwn i'n ymwybodol na fyddai pethau'n rhwydd.
"Ond sylweddolais i ba mor wael oedd pethau pan ddangosodd y meddygon y lluniau pelydr-X o'i hysgyfaint. Bryd hynny roedd yn rhaid i ni baratoi ar gyfer y gwaethaf."
Mam yn poeni y bydd gan ei babi greithiau am oes wedi damwain 'erchyll' mewn bwyty
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Ar ôl tair wythnos yn Ysbyty Glangwili fe wellodd Phoebe ddigon i gael dychwelyd adref.
Ond wedi hynny cafodd ei derbyn i'r ysbyty ar sawl achlysur yn ystod ei 18 mis cyntaf oherwydd problemau gyda'r ysgyfaint.
Fe gafodd RSV effaith ar ei chlyw hefyd.
Beth yw RSV a phwy sy'n gymwys i gael brechlyn?
Mae'r feirws syncytiol anadlol, neu RSV, yn feirws cyffredin sy'n ymledu bob gaeaf.
Fel arfer mae'n achosi mân symptomau, ond i fabanod, pobl hŷn a'r rhai sydd â system imiwnedd wan, gall arwain at salwch difrifol, gan gynnwys bronciolitis a niwmonia.
Yn ystod tymor arferol mae haint mewn plant dan ddwy oed yn gyfrifol am rhwng 7,000 a 9,500 o apwyntiadau meddyg teulu a 2,300-2,600 o dderbyniadau i'r ysbyty.
Ymhlith pobl dros 75 oed yng Nghymru, mae RSV yn gyfrifol am hyd at 1,000 o dderbyniadau i'r ysbyty a 9,000 o apwyntiadau meddyg teulu bob blwyddyn.
Mae'r brechlyn RSV yn cael ei gynnig drwy gydol y flwyddyn i bob oedolyn 75 oed a throsodd, ac i fenywod beichiog (ar ôl 28 wythnos o feichiogrwydd) i helpu diogelu babanod newydd-anedig rhag y feirws. Dim ond unwaith y mae angen i bobl hŷn gael y brechlyn, ond dylai menywod beichiog gael y brechlyn yn ystod pob beichiogrwydd.
Ym mis Medi eleni, cafodd y cynnig RSV ei ehangu hefyd i oedolion rhwng 65 a 74 oed sydd mewn mwy o berygl, gan gynnwys y rhai sydd ag imiwnedd isel neu glefyd anadlol cronig.

Nid oedd y brechlyn RSV ar gael i ferched beichiog ar y gwasanaeth iechyd yn ystod cyfnod beichiogrwydd Jo
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i atgoffa unigolion fod y brechlyn RSV yn wahanol i frechiad ffliw - ac na ddylid ei anghofio.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, Nerys Evans: "Mae stori Joanne yn ein hatgoffa'n gryf pa mor ddifrifol y gall RSV fod, nid yn unig i bobl hŷn ond hefyd i'n babanod lleiaf a mwyaf agored i niwed.
"Ni ddylai unrhyw riant orfod treulio'r Nadolig wrth ochr gwely ysbyty ei fabi."
Mae'r dirprwy weinidog yn annog unigolion i dderbyn yr holl frechiadau maen nhw'n gymwys i'w derbyn cyn bod afiechydon y gaeaf yn ymledu'n ehangach.
"Rwy'n annog pawb sy'n gymwys i ddod ymlaen i gael eu pigiad rhag y ffliw, eu pigiad atgyfnerthu COVID-19 a'u brechlyn RSV. Maen nhw'n diogelu rhag gwahanol feirysau, a gall hynny wneud y gwahaniaeth rhwng salwch ysgafn ac arhosiad difrifol yn yr ysbyty."
'Dydw i ddim am i eraill gael yr un profiadau'
Yn ystod ei beichiogrwydd ni chafodd Jo ei brechu rhag RSV gan nad oedd yn cael ei gynnig ar y gwasanaeth iechyd ar y pryd.
Ond nawr mae hi'n cefnogi ymdrech Llywodraeth Cymru i geisio annog mwy o fenywod beichiog cymwys i dderbyn brechiad.
"Rydw i bob amser wedi dweud pe bai e wedi bod ar gael, byddwn i yn sicr wedi cael brechiad," esboniodd.
"Dydw i ddim eisiau i unrhyw deulu fynd trwy'r hyn aethom ni drwyddi.
"Roedd yn brofiad arswydus - gwylio eich plentyn yn ymladd i anadlu a heb wybod a fydden nhw yn goroesi'r oriau nesaf.
"Byddwn i'n argymell i unrhyw fam i wneud."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.