Lyndon Faulkner yn cael ei benodi'n gadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru

- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penodi'r dyn busnes o Gymru, Lyndon Faulkner, yn gadeirydd newydd ar ôl chwilio'n rhyngwladol am rywun i arwain bwrdd yr Undeb.
Bydd Mr Faulkner yn dechrau yn y swydd erbyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Undeb ar 22 Tachwedd, wrth i rygbi Cymru wynebu cyfnod "tyngedfennol".
Bydd yn gyfrifol am "arwain y bwrdd wrth bennu cyfeiriad strategol y gêm yng Nghymru".
Dywedodd Mr Faulkner ei bod yn "fraint aruthrol" cael dychwelyd at rygbi Cymru, gan ychwanegu ei fod am wrando ar glybiau a rhanddeiliaid y gêm gymunedol a phroffesiynol.
'Cyfnod tyngedfennol i'r gamp'
Dywedodd Mr Faulkner ei fod yn deall "o brofiad personol pa mor bwysig yw rygbi Cymru i'r genedl mewn cymaint o wahanol ffyrdd".
"Felly, mae'n fraint aruthrol i mi gael fy mhenodi'n Gadeirydd ar yr Undeb ac fy mwriad yw rhoi rhywbeth yn ôl i gamp sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn fy natblygiad fel unigolyn, ac sy'n golygu cymaint i mi, fy nheulu, fy ffrindiau a phobl Cymru."
Dywedodd fod y broses gyfweld drylwyr wedi rhoi hyder iddo, a'i fod yn edrych ymlaen at gyfarfod â chlybiau aelodau'r Undeb yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Tachwedd.
Ychwanegodd y byddai'n gwrando ar bobl ar draws y gêm ac yn "parhau i fod yn agored i heriau adeiladol, dilys ac ymarferol".
"Mae hon yn adeg dyngedfennol i'r gamp," meddai.
Ffrae am dâl rhwng chwaraewyr rygbi Cymru a'r undeb cyn gemau'r haf
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
URC am orfod cynnal cyfarfod cyffredinol arbennig
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
Cyfarfod brys yn 'gam yn ôl' i rygbi Cymru, medd cadeirydd URC
- Cyhoeddwyd26 Chwefror
Ganwyd Mr Faulkner ger Casnewydd ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Basaleg, cyn chwarae rygbi i dîm ieuenctid Casnewydd ac yna i Gasnewydd a Phont-y-pŵl.
Yn ystod ei gyfnod gyda Phont-y-pŵl, enillodd y clwb Gwpan Cymru a'r gynghrair dair blynedd yn olynol.
Ar ôl i anaf difrifol i'w ben-glin ddod â'i yrfa chwarae i ben, symudodd Mr Faulkner i'r byd busnes, lle bu'n gweithio mewn swyddi uwch gyda chwmnïau rhyngwladol, gan gynnwys Technicolor, Nimbus CD International a Microsoft.
Chwaraeodd ran yn lansio technolegau fel y cryno ddisg a'r DVD, yn ogystal â chynhyrchion Microsoft fel Xbox, Windows XP a Microsoft Office 2000.
Ymunodd â Pelican Products Inc yn 2006, a dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod y cwmni wedi ehangu'n sylweddol yn ystod ei gyfnod yno, gan weithredu mewn 26 o wledydd erbyn hyn.
Ymddeolodd Mr Faulkner o'r cwmni yn 2021 ar ôl iddo gael ei werthu i'r cwmni ecwiti preifat Platinum Capital.
Mae Faulkner hefyd wedi ennill gwobrau busnes rhyngwladol, ymddangos ar gyfres deledu realiti Americanaidd The Mentor a darlithio yn ysgolion busnes prifysgolion Stanford a Virginia.
'Barod i ddatblygu rygbi Cymru ar bob lefel'
Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, mae Lyndon Faulkner yn "hynod falch o'i wreiddiau Cymreig", a bydd yn "cynrychioli Undeb Rygbi Cymru fel llysgennad o'r radd flaenaf yn y byd rygbi rhyngwladol".
Dywedodd is-gadeirydd Undeb Rygbi Cymru, John Manders, fod penodi rhywun â "phrofiad busnes mor amlwg" a "chysylltiadau mor gryf â threftadaeth rygbi Cymru yn gamp arbennig".
Ychwanegodd Alison Thorne, uwch gyfarwyddwr annibynnol yr Undeb, y byddai profiad Mr Faulkner o "arwain, ei ysbryd o fentergarwch a'r hyn y mae wedi llwyddo ei gyflawni yn y byd busnes yn hynod drawiadol" ac yn "gaffaeliad mawr" i'r gamp.
Dywedodd prif weithredwr yr Undeb, Abi Tierney, ei bod yn edrych ymlaen at weithio gydag ef, gan bwysleisio pwysigrwydd "perthynas waith rhwng prif weithredwr a chadeirydd, sy'n sicrhau'r cydbwysedd cywir o safbwynt herio a chefnogi".
"Rwy'n gwybod bod Lyndon a minnau'n barod i ffurfio tîm cryf ac effeithiol fydd yn datblygu rygbi Cymru ar bob lefel," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.